Jobyn - Swyddi lleol Cymru

Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth CymruLogo Ombwdsmon CymruLogo Nant GwrtheyrnLogo menter a busnesLogo Cadwyn ClwydLogo Ynni Llŷn

Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)

💰 £28,459
📍 Llithfaen
Ar gau
22d

Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)

Gwnewch cais am y swydd

Pwrpas y swydd hon yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd ddod i Nant Gwrtheyrn i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y cyfleoedd yn digwydd yn bennaf o fewn ffrwd ddysgu Cymraeg Gwaith y Nant ac yn gyfle i’r tiwtor ddatblygu arbenigedd gyda dysgwyr o fewn y sector iechyd yn benodol. Mae datblygu sgiliau iaith yn y sector yma yn holl bwysig o safbwynt cefnogi’r byrddau iechyd i fedru darparu’r Cynnig Rhagweithiol yn effeithiol.

Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Magu perthynas agos gyda’r byrddau iechyd er mwyn hwyluso mynediad eu dysgwyr at wasanaethau Nant Gwrtheyrn
  • Tiwtora ar gyrsiau preswyl a rhithiol Cymraeg Gwaith Nant Gwrtheyrn – o lefel Sylfaen hyd at lefel Gloywi gyda chefnogaeth uwch diwtoriaid
  • Darparu cyngor ac arweiniad wrth ddelio gydag ymholiadau gan ddarpar ddysgwyr o’r sector iechyd
  • Cynnig gwasanaeth ôl ofal i ddysgwyr o’r sector iechyd
  • Cefnogi dysgwyr (sector iechyd) ar lefel 1:1 yn achlysurol ac yn ôl y galw
  • Cyfrannu at y broses gynllunio rhaglen mewn modd rhagweithiol
  • Paratoi deunydd ategol / ychwanegol i helpu i gyflwyno gwersi bywiog, dyfeisgar a chynhwysol
  • Bugeilio’r dosbarthiadau cyn, yn ystod ac ar ôl cwrs, gan ddarparu anogaeth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sy’n cyfrannu at ddarparu profiad effeithiol, gwerthfawr a chynhwysol i’n dysgwyr
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd yr Adran Addysg ac unrhyw gyfarfodydd eraill perthnasol i’r swydd yn ôl y galw
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar faterion perthnasol
  • Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol cysylltiedig
  • Darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr sy’n ansicr ynghylch eu lefel bresennol gan ddarparu cyngor doeth ac adeiladol.
  • Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y galw
  • Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn rheolau’r Ddeddf Gwarchod Data
  • Unrhyw waith rhesymol arall

Am fwy o wybodaeth a manyleb person, cysylltwch gyda Siwan Tomos ar siwan.tomos@nantgwrtheyrn.org neu ar 01758 719573.

Cyflog

💰 £28,459

Lleoliad

📍 Llithfaen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Gwaith Achos

💰 £28k - £30k
📍 Hybrid
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Ar gau
2m

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Gwaith Achos

Gwnewch cais am y swydd

A ydych chi’n unigolyn gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid neu ymdrin â chwynion rhagorol?

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am recriwtio Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau’r cyhoedd ac eraill a allai gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.

Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiad cychwynnol i gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio’r system fewnol ar gyfer rheoli achosion, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau uniongyrchol, megis cwynion sy’n amlwg y tu hwnt i’n hawdurdodaeth.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau ffôn a gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gallu i ymdrin â chwynion, yn ogystal â bod yn llythrennog ym maes TG ac yn ddelfrydol, gallu cyfathrebu yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).

Mae hon yn rôl hybrid, lle mae angen bod yn bresennol yn wythnosol yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Sut i ymgeisio

Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gyrchu’r pecyn recriwtio a’r Ffurflen Ymgeisio.

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12 canol dydd, 5 Chwefror 2024 Rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.

Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Cyflog

💰 £27,804 - £30,297

Lleoliad

📍 Hybrid, Pen-y-bont ar Ogwr

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr

💰 £23k
📍 Llithfaen
Ar gau
2m

Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr

Gwnewch cais am y swydd

Mae Adran Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno gyda’r criw.

Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y rhaglen addysgu ac yn ganolbwynt cadarn i weithdrefnau adran brysur, uchelgeisiol ac arloesol.

Bydd yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus holl gyrsiau Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn drwy’r tasgau gweinyddol canlynol:

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dysgwyr sy’n ffonio neu’n e-bostio’r adran;
  • Cydlynu cofrestriadau drwy ddefnyddio systemau sydd wedi ei sefydlu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Adran Addysg yn y Nant;
  • Cyfathrebu gyda dysgwyr cyn cyrsiau gan ddefnyddio ystod o dempledi e-bost e.e.cadarnhau cofrestru, cadarnhau gosod ar restr aros, e-bost 12 wythnos cyn cwrs ac ati;
  • Argraffu ffeiliau ac adnoddau gan gefnogi tiwtoriaid cyn ac yn ystod cyrsiau;
  • Cydlynu’r rhaglenni ymweliadau ac adloniant (archebu bysiau a chadarnhau argaeledd lleoliadau ayyb);
  • Darparu cyngor effeithiol i ddarpar ddysgwyr (dros y ffôn / e-bost / wyneb yn wyneb);
  • Paratoi a gyrru Pecyn Llongyfarch at bob dysgwr sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus;
  • Cyfeirio dysgwyr at diwtoriaid yn ôl y galw gan baratoi amserlenni;
  • Paratoi anfonebau a derbynebau yn ôl y galw (darperir hyfforddiant);
  • Mynychu cyfarfodydd tîm a chofnodi yn ôl y galw;
  • Cefnogi tasgau a digwyddiadau cyffredinol yr adran a’r ganolfan yn ehangach yn ôl y galw.
  • Cyfathrebu a chefnogi dysgwyr yn ystod cyrsiau preswyl.

Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at siwan.tomos@nantgwrtheyrn.org erbyn 9fed o Chwefror, 2024.

Cyflog

💰 £23,453

Lleoliad

📍 Llithfaen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Arweinydd Tim

💰 £29k - £33k
📍 Llithfaen
Ar gau
3m

Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Tim

Gwnewch cais am y swydd

Ydych chi eisiau datblygu caffi Meinir i fod yn gyrchfan ar gyfer bwyd, ac yn sicrhau bod trefniadau staffio ar waith i gyflwyno cynnig llwyddiannus i ddysgwyr, priodasau a sesiynau galw heibio? Ydych chi yn medru adnabod anghenion hyfforddi cydweithwyr o fewn y tîm Arlwyo? Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth arlwyo yn bodloni’r holl safonau a rheoliadau iechyd a diogelwch ac iechyd yr amgylchedd gofynnol. A ydych chi eisiau bod yn aelod allweddol o dîm gweithredol Nant Gwrtheyrn, gan helpu i sicrhau bod pob archeb yn cael ei chyflwyno’n ddidrafferth ac yn llwyddiannus?

Prif gyfrifoldebau

  • Arwain a rheoli tîm arlwyo Nant Gwrtheyrn i ddarparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel
  • Cydweithio gyda’r Rheolwr Atyniadf a Digwyddiadau i sicrhau bod y caffi yn cyrraedd targedau incwm i ariannu cenhadaeth ehangach y mudiad
  • Sicrhau bod rotâu staff yn cael eu rheoli a’u cyfathrebu’n gywir
  • Recriwtio a sefydlu aelodau newydd o staff yn ôl yr angen
  • Rhoi adborth rheolaidd i aelodau’r tîm arlwyo, gan sicrhau eu bod yn gallu ymgymryd â dysgu a datblygu
  • Creu cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewnol lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol
  • Cydweithio gyda’r cogyddion i ddylunio bwydlenni a fydd yn tyfu’r busnes arlwyo yn Nant Gwrtheyrn a’i alluogi i ddod yn gaffi cyrchfan i’r gymuned leol ac ymwelwyr
  • Cydweithio gyda’r cogyddion i adlewyrchu hynodrwydd Nant Gwrtheyrn o fewn y seigiau a gynigir, gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd tra’n gwneud y mwyaf o elw
  • Rheoli dognau i sicrhau bod targedau elw yn cael eu cyflawni
  • Datblygu cynigion newydd o fewn y busnes arlwyo i gynyddu incwm a chodi proffil y busnes bwyd a diod
  • Gweithredu fel model rôl i weddill y tîm
  • Monitro prisiau cyflenwyr yn barhaus i sicrhau caffael gwerth gorau
  • Datblygu perthnasoedd cryf gyda chyflenwyr sy’n caniatáu hyblygrwydd ac ystwythder cyflenwad yn ôl gofynion y busnes
  • Mynd ati i geisio, gwerthuso a gweithredu ar adborth gan ymwelwyr i greu diwylliant o welliant parhaus o fewn y caffi
  • Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid o fewn yr adran arlwyo, cadw’n gyfoes â rheoliadau Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod Nant yn cyflawni i’r safonau uchaf
  • Cydweithio ac yn agos ag arweinwyr, rheolwyr a chydweithwyr eraill o fewn tîm ehangach Nant Gwrtheyrn fel bod archebion yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus mewn ffordd gydgysylltiedig
  • Gweithio’n rhagweithiol gyda’r Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a sianeli cysylltiadau cyhoeddus eraill er mwyn hyrwyddo’r arlwy arlwyo yn y Nant a sicrhau presenoldeb da ar gyfer digwyddiadau arbennig a.y.b.

Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at alun.ellis@nantgwrtheyrn.org

Cyflog

💰 £28,822 - £33,143

Lleoliad

📍 Llithfaen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu

💰 £29k - £33k
📍 Llithfaen
Ar gau
3m

Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu

Gwnewch cais am y swydd

Mae’r Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol am gefnogi’r gwaith o gyflawni cenhadaeth ac amcanion Nant Gwrtheyrn. Bydd hynny drwy reoli brand, cyfathrebu mewnol ac allanol a rheoli llwyfannau digidol. Drwy weithgareddau Marchnata, bydd yr Arweinydd yn helpu i dyfu’r busnes ar draws holl weithrediadau’r Nant (Dysgu, Llety, Arlwyo, Priodasau a Digwyddiadau) gan rannu’r hyn sydd gan y Nant i’w gynnig ar y Cyfryngau Cymdeithasol, y wefan a thrwy’r wasg a chysylltiadau cyhoeddus. Bydd yr Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu yn arwain ar frandio o fewn y Nant gan sicrhau bod pob gweithgarwch sy’n ymwneud a’r cyhoedd yn cael ei gyflawni o fewn gwerthoedd y brand. Bydd deilydd y swydd yn arwain yr holl gyfathrebu mewnol, gan alluogi cydweithwyr ym mhob rhan o’r Sefydliad gael briff llawn ar yr hyn sydd yn digwydd yn y Nant. Bydd yr uchod yn cael ei gyflawni o fewn cyd-destun cynllun Marchnata blynyddol, Bu deilydd y Swydd yn ei ddatblygu a’i roi ar waith gan sicrhau bod yr holl gyd-weithwyr yn deall sut maent yn cyfrannu at y cynllun mawr a sut bydd y cynllun yn cyflawni ar gyfer eu rhan hwy o’r busnes.

Prif gyfrifoldebau

Cyfathrebu

  • Arweinio holl gyfathrebu mewnol y Nant. Mynychu cyfarfod wythnosol gweithrediadau’r busnes a chynhyrchu nodyn briffio “beth sy ‘mlaen” wythnosol i’r holl staff. Cynorthwyo’r Prif Weithredwr gyda chyfarfodydd staff a chyfathrebu diweddariadau strategol pwysig i staff a phartneriaid. Cynhyrchu cylchlythyrau chwarterol i rhanddeiliaid (Bwrdd, staff, cyn-ddysgwyr ac eraill sydd wedi mynegi diddordeb yn y Nant)
  • Gweithredu fel hyrwyddwr Brand Newydd y Nant a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a chyfathrebiadau sy’n wynebu’r cyhoedd yn gyson a chefnogol o frand y Nant. Cefnogi cydweithwyr gydag unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud a’r brand.
  • Canolbwyntio ar wella ymgysylltiad â’r gymuned leol gan gyd-weithio’n agos gyda’r Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau a’r tîm Dysgu a Threftadaeth i hyrwyddo digwyddiadau
  • Gwerthuso ac adolygu holiaduron y Nant
  • Creu cysylltiadau a phartneriaethau newydd gyda busnesau a chyrff gan ddatblygu cynnyrch i hyrwyddo’r Nant fel Canolfan arloesol Cymreig a Chymraeg ei naws
  • Hyrwyddo’r Ganolfan mewn digwyddiadau allanol yn ôl y galw
  • Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn reolau’r Ddeddf Gwarchod Data
  • Cyrraedd targedau cytunedig a dangosyddion perfformiad ar draws pob rhan o’ch cyfrifoldebau.
  • Darparu adroddiad chwarterol ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriadolwyr

 

Marchnata

  • Rheoli cyllideb farchnata’r Ganolfan a chyfathrebu a pharatoi adroddiadau gan gynnwys yr elfen ariannol i’r Rheolwr Atyniad a Digwyddiadau’n fisol.
  •  Datblygu a gweithredu Cynllun Marchnata blynyddol sy’n gysylltiedig â’r cynllun busnes blynyddol . Bydd y cynllun yn amlinellu‘r dull o farchnata a ddefnyddir i gyflawni amcanion busnes y cwmni, cyrraedd targedau adrannol a sicrhau tŵf busnes.
  • “Perchnogi” gwefan Nant Gwrtheyrn a sicrhau ei fod yn cael ei gadw’n gyfredol a’i fod yn cael ei ddefnyddio’n rhagweithiol i ysgogi tŵf busnes.
  • Cyd-weithio efo’r Cydlynydd Busnes i hyrwyddo unrhyw gyfleoedd a bylchau o fewn y busnes llety er mwyn uchafu deiliadaeth.

 

Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at alun.ellis@nantgwrtheyrn.org

Cyflog

💰 £28,822 - £33,143

Lleoliad

📍 Llithfaen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Datblygu a Hyrwyddo ARFOR

💰 £31k
📍 Aberystwyth
📍 Caerfyrddin
Ar gau
3m

Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Datblygu a Hyrwyddo ARFOR

Gwnewch cais am y swydd

I gefnogi darpariaeth y Gronfa Her Fach a’r Gronfa Her Fawr yn ardal ARFOR, gan feithrin perthynas gryf gyda darparwyr llwyddiannus drwy gynnal cyfathrebu rheolaidd a phwrpasol drwy oes llawn y cyfnod gwireddu. Ysgogi a sbarduno cwmniau i gyflawni eu cynlluniau ac i gynorthwyo gydag unrhyw broblemau a chynnig datrysiadau lle’n ymarferol.

Cyfrannu’n rhagweithiol tuag at ddatblygu a gweithredu rhaglenni cefnogaeth busnes pellach o fewn y sector ac mae’r cwmni yn ymwneud â nhw.

Cyfrifoldeb am ddarparu diweddariadau a dadansoddiadau o’r hyn sy’n digwydd yn Ceredigion neu Sir Gâr gyda’r prif nod o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i weddill y tîm ac i greu straeon. Gyda chymorth y tîm Cyfathrebu bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu a chreu cynnwys ffotograffiaeth a fideo ar gyfer prosiect Llwyddo’n Lleol. Bydd y cynnwys yn amrywio o graffeg hyrwyddo, riliau, a ffotograffau i fideos hirach wedi’u golygu. Cynorthwyo tîm Llwyddo’n Lleol i hyrwyddo’r prosiect ar draws Ceredigion neu Sir Gâr.

Bydd deilydd y swydd hefyd yn creu cynnwys ffotograffiaeth a fideo i Menter a Busnes yn gorfforaethol, yn ôl y galw.

Prif Gyfrifoldebau

Cronfa Her

  • Rheoli’r berthynas gyda darparwyr llwyddiannus pob proseict trwy’r Gronfa Her, gan gynnal cyfathrebu rheolaidd a phwrpasol drwy oes llawn y cyfnod gwireddu
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddarpar ymgeiswyr gan gyfeirio at y gwasanaeth neu’r ddarpariaeth briodol
  • Adnabod ble ar y daith mae darpar ymgeisiwr a chefnogi’r ymgeiswyr wrth iddynt gwblhau’r broses ymgeisio. Cynorthwyo cwsmeriaid sy’n dymuno gwneud cais
  • Meithrin perthynas agos gyda ymgeiswyr i adnabod eu hanghenion dysgu a datblygu, a thrwy hynny sicrhau amgylchedd o ddysgu parhaus lle gallant symud ymlaen o un maes i’r llall gan sicrhau gwell effaith a dysgu pellach ar draws rhaglen ARFOR
  • Mynychu cyfarfodydd gyda phrosiectau’r cronfeydd ac estyn cymorth/ cyngor iddynt yn ôl y galw.
  • Datblygu dealltwriaeth ddofn a hyrwyddo Rhaglen ARFOR yn ei chyfanrwydd o fewn yr ardal benodol
  • Ymchwilio ac ymgyfarwyddo ȃ’r sector - yn benodol y cysylltiad rhwng iaith ac economi, arloesedd a sectorau twf berthnasol
  • Sicrhau darpariaeth gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda’r Swyddogion Datblygu eraill, Swyddogion Gweithgareddau Llwyddo’n Lleol ac eraill
  • Cefnogi’r Rheolwr Prosiect drwy weithredu’r Gronfa Her
  • Ymgysylltu ac adnabod partneriaethau posib yn ardal ARFOR gan feithrin perthynas gryf gyda phartneriaid allweddol. Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Prosiect gan sicrhau bod targedau’n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf.
  • Gweithio gyda’r Rheolwr Prosiect i ddatblygu rhaglen leol o ddigwyddiadau sy’n cwrdd ag anghenion y gymuned a’r rhanbarth
  • Cydlynnu cyfres o astudiaethau achos a hyrwyddo’r prosiectau
  • Trefnu cyfarfodydd/digwyddiadau i hyrwyddo gwasanaethau ARFOR yn yr ardal leol ac ar draws y rhanbarth
  • Gweithio’n agos gyda’r thîm ARFOR i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo i’r gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
  • Mynychu cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd grwpiau trafod, cyfarfodydd tîm, digwyddiadau a sioeau, a hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl yr angen
  • Cynnal perthynas weithio effeithiol a phroffesiynol gyda budd-ddeiliad allweddol yn yr ardal
  • Cefnogi’r elfen o werthuso Cronfa Her ARFOR gan feithrin perthynas da ȃ’r gwerthuswyr allannol llwyddiannus
  • Rhannu canfyddiadau, allbynnau a llwyddianau’r prosiect gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  • Profi, mesur a gwerthuso’r prosiectau a ariennir yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu cynhyrchu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
  • Cadw cofnodion manwl o’r holl weithgareddau a gwaith papur i hwyluso’r gwaith o fonitro a chyflawni targedau’r prosiect, yn unol â systemau adrodd a monitro’r prosiect a Llywodraeth Cymru
  • Ymateb i ymholiadau a chynrychioloi’r Gronfa Her a MaB yn yn unol â’r angen
  • Cynnal ymwybyddiaeth o ddatblygiadau’r prosiectau a bod yn rhagweithiol i adnabod unrhyw gyfleoedd pellach ar gyfer y prosiect
  • Cynrychioli’r prosiect trwy fynychu pwyllgorau/grwpiau perthnasol, adnabod ffyrdd o gydweithio gyda gwasanaethau/sefydliadau eraill er mwyn gwella darpariaeth gyffredinol y gwasanaeth a hysbysu rhwydweithiau allweddol ynglŷn â cynnydd y prosiect

Llwyddo’n Lleol

  • Arwain ar ohebu i ardal Ceredigion a Sir Gâr, gan ddod o hyd i straeon perthnasol ac i ohebu o’r digwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal gan y prosiect yn yr ardal
  • Cynllunio, cynhyrchu a chreu cynnwys digidol ar gyfer ein holl sianeli digidol gyda’r bwriad o gynyddu ymgysylltiad â’n cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid
  • Datblygu syniadau creadigol, awgrymu ffyrdd arloesol newydd o gyflwyno cynnwys digidol a chael y wybodaeth ddiweddaraf
  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu a’r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod ymgyrchoedd amrywiol yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm ehangach i gynllunio a chipio cynnwys deniadol yn dibynnu ar ofynion cyflwyno/ymgyrch
  • Sicrhau bod canllawiau brand yn cael eu dilyn
  • Cysylltu’n effeithiol â chrewyr allanol pan fo angen

Arall

  • Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
  • Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen i ddiweddaru gwybodaeth am y sector ac i hwyluso’r gwaith o ddarparu cefnogaeth.
  • Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl yr angen
  • Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r cwmni yn ôl yr angen
  • Sicrhau cydymffurfiaeth gyda polisiau a systemau ansawdd Menter a Busnes, gan gynnwys ISO9001, BS8555, C2E, Cyber Essentials, Polisi Caffael, GDPR, ac Iechyd a Diogelwch
  • Cyflawni gwaith i dîm marchnata corfforaethol Menter a Busnes
  • Derbyn dyletswyddau a cyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl yr angen
  • Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk erbyn 10 yb, dydd Llun, 22 Ionawr 2024.

QMS 57 – Ffurflen Gais Menter a Busnes Mai 2018 v1

QMS 49 – Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal Mai 2018 v2

Cyflog

💰 £31,243

Lleoliad

📍 Aberystwyth, Caerfyrddin

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Prosiect - Cymuned (Rhan-amser)

💰 £29k - £34k
📍 Corwen
Ar gau
5m

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Prosiect - Cymuned (Rhan-amser)

Gwnewch cais am y swydd

Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o reoli prosiect i gyflawni ein prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint.

Cyflog

💰 £29,116 i £34,429 PRO RATA

Lleoliad

📍 Corwen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth

💰 £22k - £26k
📍 Corwen
📍 Gweithio o Adref
Ar gau
5m

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth

Gwnewch cais am y swydd

Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth prosiect i gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.

Bydd y swyddog cefnogi prosiect Twristiaeth yn gyfrifol dros ddarparu cymorth prosiect i gyflawni’r Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth. Bydd y prosiect yn cynnig cyllid er mwyn datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr) megis atyniadau lleol, llwybrau, teithiau tywys a chynnyrch twristiaeth yn fwy cyffredinol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar greu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, drwy fuddsoddiadau sy’n ategu diwydiannau a sefydliadau presennol. Mae’r buddsoddiadau yn amrywio o gymorth i fusnesau newydd i welliannau amlwg i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden lleol. Yn ei dro bydd hyn yn cynyddu buddsoddiad sector preifat mewn gweithgareddau i hybu twf, drwy gymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau bach a micro i ymgymryd â gwaith sy’n torri tir newydd, gwella’u cynhyrchiant, mabwysiadu technolegau a thechnegau effeithlon o ran ynni a charbon isel a bwrw iddi gyda neu gynyddu eu hallforion.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth yn Sir y Fflint.  

**Os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda Cara ar ebost cara.roberts@cadwynclwyd.co.uk, neu dros y ffon ar 01490 340500. **

Cyflog

💰 £22,486 - £26,465

Lleoliad

📍 Corwen, Gweithio o Adref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)

💰 £22k - 26k
📍 Corwen
📍 Gweithio o Adref
Ar gau
5m

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)

Gwnewch cais am y swydd

ae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni Cronfa Allweddol Busnes Sir Ddinbych, sydd wedi’i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir Ddinbych. 

Bydd y prosiect ar waith ledled Sir Ddinbych gan ymdrin â’r thema Busnesau Ffyniannus sydd ynghlwm â Chynllun Corfforaethol Sir Ddinbych a thema Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y prosiect yn ategu’r agenda codi’r gwastad er mwyn hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw drwy ddatblygu’r sector preifat, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny sydd ar ei hôl hi o ran hynny. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Cymorth Busnes yn Sir Ddinbych.

Cysylltwch gyda Cara drwy ebost neu ffoniwch am fwy o wybodaeth: cara.roberts@cadwynclwyd.co.uk / 01490 340500

Cyflog

💰 £22,486 - £26,465

Lleoliad

📍 Corwen, Gweithio o Adref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Gweinyddwr Swyddfa

💰 £21k
📍 Botwnnog
Ar gau
6m

Mae Ynni Llŷn yn edrych am Weinyddwr Swyddfa

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd y Gweinyddwr Swyddfa yn cefnogi tîm bychan o Aseswyr Ôl-osod, gan ymdrin ag ymholiadau ffôn, cofnodi manylion cwsmeriaid, gwneud apwyntiadau a gwneud hawliadau am arian grant. Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain yn ogystal â rhan o dîm. Mae bod yn gyfarwydd â systemau TG sylfaenol a chymwysiadau swyddfa (fel Microsoft Office – Word, Excel ac ati) yn ddymunol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  2. Sicrhau gweithrediad llyfn gweithdrefnau gwaith.
  3. Cynnal system CRM (Rheoli Perthynas Cwsmer) gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  4. Perfformio rai gweithgareddau desg dderbynfa fel:
    1. Ateb galwadau ffôn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
    2. Sefydlu gwasanaethau peiriant ateb y tu allan i oriau swyddfa
    3. Ateb llythyrau ayyb.
  5. Gwneud a chofnodi apwyntiadau a rhwymedigaethau eraill ar gyfer ymweliadau Aseswyr Ôl-osod a chontractwyr lleol.
  6. Gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
  7. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  8. Perfformio rhai gweithgareddau cymorth cwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar ôl y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn ôl lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tîm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 21,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Aseswr Ôl-osod

💰 £25k - £30k
📍 Botwnnog
Ar gau
6m

Mae Ynni Llŷn yn edrych am Aseswr Ôl-osod

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd yr Asesydd Ôl-osod yn ymweld â chartrefi Pen Llŷn ac yn asesu addasrwydd yr eiddo ar gyfer gosodiad, yn cynghori’r trigolion ar eu hopsiynau ac yn gweithredu fel y cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw waith dilynol sydd ei angen. Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain. Mae diddordeb mewn adeiladau yn hanfodol, ond nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Byddwch yn derbyn hyfforddiant helaeth. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  2. Sicrhau gweithrediad llyfn gweithdrefnau gwaith.
  3. Ymgymryd â gwaith hyrwyddo (yn bersonol gyda phreswylwyr neu drwy fecanweithiau eraill)
  4. Ymgymryd â hyfforddiant ac ardystiadau ar gyfer Asesu a Gosod Ôl-osod gyda phwyslais arbennig ar adeiladau traddodiadol.
  5. Cynnal astudiaethau addasrwydd, dichonoldeb ac asesu eiddo.
  6. Cynghori preswylwyr ar wahanol weithdrefnau gosod.
  7. Cynorthwyo â pharatoi pecynnau gwella wedi’u teilwra.
  8. Egluro gwahanol becynnau a dewisiadau amgen i’n preswylwyr.
  9. Datrys unrhyw faterion technegol sy’n codi cyn/yn ystod/ar ôl gosod y mesurau arfaethedig.
  10. Cynnal system gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  11. Cynorthwyo gydag adroddiadau ac archwiliadau ystadegol.
  12. Cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a chysylltu â thrydydd partïon megis cyrff statudol ac anstatudol fel y bo’n briodol a gweithredu fel cynrychiolydd Ynni Llŷn.
  13. Gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
  14. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  15. Perfformio rhai gweithgareddau cymorth cwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar ôl y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn ôl lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tîm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 £25,000 - £30,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Rheolwr Prosiect

💰 £35k - £45k
📍 Botwnnog
Ar gau
6m

Mae Ynni Llŷn yn edrych am Reolwr Prosiect

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd y Rheolwr Prosiect yn arwain tîm bach i gyflawni’r prosiect Ôl-osod i Bawb. Bydd y swydd hon yn addas i rywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu liwt eu hunain. Mae diddordeb mewn adeiladau yn hanfodol, ond nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Bydd hyfforddiant helaeth yn cael ei ddarparu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Goruchwylio ac arwain tîm.
  2. Cynnal adolygiadau staff, arfarniadau blynyddol a gweithdrefnau eraill.
  3. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  4. Sicrhau bod gweithdrefnau gweithio’n llyfn.
  5. Ymgymryd â gwaith hyrwyddo (yn bersonol gyda phreswylwyr neu drwy fecanweithiau eraill)
  6. Ymgymryd â hyfforddiant ac ardystiadau ar gyfer Asesu a Gosod Ôl-osod gyda phwyslais arbennig ar adeiladau traddodiadol.
  7. Ymgymryd ag astudiaethau addasrwydd, dichonoldeb ac asesu eiddo.
  8. Cynghori preswylwyr ar wahanol weithdrefnau gosod.
  9. Cynorthwyo gyda pharatoi pecynnau gwella wedi’u teilwra.
  10. Esbonio gwahanol becynnau a dewisiadau amgen i’n preswylwyr.
  11. Datrys unrhyw faterion technegol sy’n codi cyn/yn ystod/ar ôl gosod mesurau arfaethedig.
  12. Cynnal system gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  13. Cynnal nodiadau helaeth a chwblhau astudiaethau achos ac adroddiadau eraill yn ôl yr angen.
  14. Cynorthwyo gydag adroddiadau ystadegol ac archwiliadau.
    1. Cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a chysylltu â thrydydd partïon fel cyrff statudol ac anstatudol fel y bo’n briodol ac yn gweithredu fel cynrychiolydd Ynni Llŷn.
    2. Goruchwylio a gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
    3. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  15. Cyflawni rhai gweithgareddau cymorth i gwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar ôl y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn ôl lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tîm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 £35,000 - £45,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)

💰 £29.5k
📍 Y Fenni
📍 Abertyleri
+23
Ar gau
7m

Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)

Gwnewch cais am y swydd

A ydych yn siaradwr Cymraeg?

A fyddech yn mwynhau’r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith?

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant ac mae’n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Yn DWP rydym wedi ymrwymo i wneud i’n gweithlu adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.

Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau DWP.

Swydd ddisgrifiad

Bydd eich rôl yn cynnwys

  • Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’ch cwsmeriaid sy’n eu hannog a’u hysgogi i wneud y gorau o’u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
  • Cynnig cyngor a chymorth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a, lle bo angen, eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad gwaith mewn amgylchedd digidol. h.y. gwefannau chwiliad gwaith, e-byst, uwchlwytho dogfennau ac ati.
  • Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a thros y ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
  • Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i’w cyfeirio at gymorth priodol.

Manyleb bersonol

Meini Prawf Allweddol

I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi

  • Gallu siarad a deall Cymraeg ar lafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Ieithoedd)
  • Cyfathrebu’n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda’r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);

Ieithoedd

Safon y Gymraeg ar lafar – Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:

  • Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
  • Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
  • Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.

Safon y Gymraeg Ysgrifenedig –

  • Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i’ch cwsmeriaid trwy e-byst, negeseuon testun, ac ati.

Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd safon y Swyddog Gweithredol o bell ffordd, efallai y cynigir swydd arall iddynt ar raddfa Swyddog Gweinyddol (AO) fel ymgeisydd a fu bron â chyrraedd y safon. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.

Ieithoedd Bod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg ar lafar

Ymddygiadau Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Buddion

  • Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl blwyddyn)
  • Holl wyliau’r banc
  • Patrymau gweithio hyblyg ar gael
  • Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les 
  • Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflawni Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer neu Weinyddu Busnes
  • Cynlluniau disgownt i weithwyr

Cyflog

💰 £29,500

Lleoliad

📍 Y Fenni, Abertyleri, Y Barri, Coed Duon, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Glyn Ebwy, Penarth, Pontypŵl, Aberdâr, Pen-y-bont ar Ogwr, Llantrisant, Aberdaugleddau, Treforys, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Porth, Tonypandy, Treorci, Llandrindod, Machynlleth, Pwllheli, Y Trallwng

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Uwch Ymgynghorydd Strategol

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA
📍 Caerfyrddin
Ar gau
8m

Mae Partneriaeth yn edrych am Uwch Ymgynghorydd Strategol

Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae’r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi’i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe.  Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella’r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri Awdurdodau Lleol.

Mae Partneriaeth yn ymdrechu i gyflenwi gwasanaeth gwella ysgolion cyson, un y mae ei ffocws ar strategaethau her a chymorth sy’n gwella addysgu a dysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Rydym am benodi arweinydd profiadol, llwyddiannus sy’n meddu ar arbenigedd sylweddol mewn gwerthuso ac asesu effaith. Fel aelod o’r Uwch-dîm Arwain, bydd gennych y profiad a’r hygrededd i weithio’n effeithiol gydag uwch gyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol, arweinwyr ysgolion, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau allanol. Bydd gennych ddealltwriaeth gref o waith rhanbarthol ac o weithio mewn sefydliad amlddisgyblaethol.  

Byddwch yn gyfathrebwr cryf, a byddwch yn gallu rheoli timau a rhwydweithiau, arwain prosiectau cymhleth a chyflenwi dysgu proffesiynol hynod o effeithiol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ofalu bod llinellau cyfathrebu effeithiol yn cael eu cynnal rhwng Partneriaeth a’r Awdurdodau Lleol, yn ogystal â sicrhau bod blaenoriaethau allweddol y Cynllun Busnes yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus. Yn gyfnewid am hyn, bydd deiliad y swydd yn gallu datblygu ei arbenigedd mewn amgylchedd gwella ysgolion sy’n esblygu’n barhaus. Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Ian Altman, Swyddog Arweiniol drwy e-bost: ian.altman@partneriaeth.cymru

Ar gael ar secondiad tan 31 Awst 2025

Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)

Dylai’r rheiny sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais. 

Dyddiad Dechrau – Cyn gynted â phosibl

I ymgeisio am y swydd hon, dylech anfon llythyr eglurhaol a chopi o’ch CV at Helen Lewis drwy e-bost: helen.lewis@partneriaeth.cymru 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2023.

Cyflog

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd

💰 Cystadleuol
📍 Caerfyrddin
📍 Caernarfon
+1
Ar gau
8m

Mae S4C yn edrych am Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd

Gwnewch cais am y swydd

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith 21.75 yr wythnos neu rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio oriau tymor yn unig. Plîs nodwch eich dewis ar eich ffurflen gais. Oherwydd natur y swydd, disgwylir rhywfaint o hyblygrwydd o bryd i’w gilydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol.

Cyfnod prawf 6 mis

Gwyliau Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, mae S4C yn cynnig 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn ar sail oriau llawn amser.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser, byddwch yn derbyn lwfans pro rata. 

Pensiwn Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 4 Medi 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Cystadleuol

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Caernarfon, Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro

💰 £21k
📍 Sir Benfro
8m

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro

Gwnewch cais am y swydd

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol  Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
  • Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
  • Trefnu ymweliadau rheolaidd i’r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad
  • Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r  staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
  • Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
  • Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol  i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg
  • Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol  o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
  • Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin
  • Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
  • Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
  • Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
  • Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin
  • Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Cyflog

💰 MM14 £21,049 pro rata

Lleoliad

📍 Sir Benfro

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Polisi

💰 £32k - £39k
📍 Hyblyg
📍 O gartref
Ar gau
1b

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Polisi

Gwnewch cais am y swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig a chreadigol sy’n dymuno gweithio gyda thîm y Comisiynydd i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Craffu ar ddeddfwriaeth a dylanwadu ar bolisi

Cyfrannu i waith y Tîm Polisi er mwyn gweithredu amcan Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth. Rhoi sylw neilltuol i’r meysydd sydd fwyaf eu dylanwad ar hyfywedd yr iaith Gymraeg, megis Addysg a Sgiliau; Iechyd; Cymunedau Cymraeg a Darlledu.

Cyflwyno sylwadau ar bolisi a deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf addas, a chynnig cyngor neu argymhellion a fydd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru.

Tracio datblygiadau polisi a deddfwriaeth mewn gwahanol feysydd yn barhaus.

Cadw trosolwg o effaith pob darn gwaith y mae’r swyddog yn gyfrifol amdanynt, lle ymdrechwyd i ddylanwadu ar gwrs polisi neu ddeddfwriaeth gan ystyried ffyrdd o symud yr agenda ieithyddol yn ei blaen.

Darparu tystiolaeth i Bwyllgorau Senedd Cymru a Senedd y DU fel rhan o brosesau datblygu polisi a llunio Biliau a Deddfau, fel sy’n briodol.

Bydd gofyn briffio’r Comisiynydd yn ogystal â chynulleidfaoedd allanol a chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cydweithio a rhannu gwybodaeth

Cydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg.

Mynychu fforymau perthnasol a threfnu cyfarfodydd gyda gweision sifil er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg.

Ar y cyd â thîm cyfathrebu’r Comisiynydd, canfod ffyrdd o rannu gwybodaeth am safbwynt y Comisiynydd ar bolisi a deddfwriaeth a gwaith y Comisiynydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

Ymchwilio ac Adrodd

Cydweithio â phartneriaid allanol a swyddogion sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith ymchwil y Comisiynydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynydd y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.

Cyfrannu at brosiectau ymchwil y Comisiynydd i sicrhau bod gennym y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth

Datblygu dulliau rhagweithiol a chreadigol o gyfleu barn a safbwynt y Comisiynydd ar wahanol feysydd polisi.

Dyletswyddau Cyffredinol

Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.

Cyflog

💰 £32,460 - £39,690

Lleoliad

📍 Hyblyg, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

💰 £36k - £42k
📍 Ceredigion
Ar gau
1b

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

Gwnewch cais am y swydd

yma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. 

Disgrifiad:

**Y rôl **

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. 

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar dyh8@aber.ac.uk  

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau eraill. 

- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.

- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.

- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.

- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth)

- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.

- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon. 

- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.

- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.

- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.

- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad. 

- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.

- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.

- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy’n gymesur â gradd y rôl.

Cyflog

💰 £36,386 - £42,155 pro rata

Lleoliad

📍 Ceredigion

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

💰 £21k - £22k
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd
📍 Hybrid
Ar gau
1b

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

Gwnewch cais am y swydd

e Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.     Nod

Cefnogi Swyddogion y Gwasanaeth Cynghori i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu cyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect.   Prif Gyfrifoldebau

·    Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a’r tîm mewnol, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol

·    Dilyn prosesau a chanllawiau yn ddiwyd 

·    Mewnbynnu data i system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir e.e. BAS ac CMS

·    Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio yn ôl y galw

·    Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr

·    Delio gyda cheisiadau cwsmer a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

·    Delio gyda Hawliad gan y is-gontractiwyr a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

·    Cysylltu gydag is-gontractiwyr i sicrhau fod y prosesau yn dilyn y drefn cywir

·    Sicrhau fod pawb perthnasol yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ddiweddaraf 

·    Cefnogi cydweithwyr i goladu’r holl wybodaeth angenrheidiol i gwblhau tasgau

·    Pwynt cyswllt cyntaf ar y ffôn i’r Ganolfan Wasanaeth

·    Tynnu sylw cydweithwyr at unrhyw broblemau posib fel y bo’n briodol, a chyn gynted ag y bo modd

·    Hybu holl weithgareddau a digwyddiadau’r prosiect lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd 

·    Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cefnogi gyda’r prosesau i ymwneud gyda sichrau ansawdd, bydd pwysigrwydd yma ar mewngofnodi data yn gywir.

·    Cefnogi digwyddiadau CPD yn ôl yr angen.   **Arall **

·    Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

·    Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad

·    Addysg hyd at o leiaf NVQ lefel 3 neu lefel gyfatebol, a/neu brofiad gwaith dangosadwy mewn maes perthnasol

·    Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych

·    Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd (chwilio a phori’r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·    Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

·    Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig

·    Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol

·    Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da

·    Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol

·    Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

·    Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol

·    Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm   Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch a Lowri James ar 01970 636 294 neu swyddi@menterabusnes.co.uk   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023.    Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 03 Ebrill 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **

e ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £20,919-£22,367

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol

💰 £53k - £64k
📍 Cyffordd Llandudno
📍 Merthyr
+2
Ar gau
1b

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol

Gwnewch cais am y swydd

ae’r Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol i ddarparu arweiniad i bedwar Rheolwr Tîm a cefnogi’r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da. 

ae Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn destun rhaglen newid sylweddol er mwyn cefnogi ffocws cliriach ar wella gwasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar y prosiect ac yn eu cefnogi. 

Dyddiad Cau: 16:00pm ar 28/03/2023 

**Am sgwrs anffurfiol: **kevin.barker@gov.wales - 03000 628822

*Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon 

Cyflog

💰 £53,440 - £63,900

Lleoliad

📍 Cyffordd Llandudno, Merthyr, Caerfyrddin, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cadeirydd

💰 £35k
📍 Caerdydd
Ar gau
1b

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gadeirydd

Gwnewch cais am y swydd

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

·   ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;

·   profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu amlddisgyblaethol;

·   hanes profedig o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb gydag ymrwymiad i ehangu mynediad a chyfranogiad ym maes diwylliant ledled Cymru;

·   profiad o ddatblygu partneriaethau strategol a dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol.

Fel swydd uwch sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru a’r Comisiwn Elusennau, mae hon yn rôl â chyflog o £35,182.80 y flwyddyn.

Mae’r fanyleb person llawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd y Cadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Jason Thomas, Cyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, jason.thomas@llyw.cymru neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, manon.maragakis002@llyw.cymru

Ymrwymiad: Isafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy’n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio publicappointments@llyw.cymru i roi gwybod iddyn nhw.

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Cyflog

💰 £35,182

Lleoliad

📍 Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Is-gadeirydd

💰 Di-dâl + costau
📍 Caerdydd
Ar gau
1b

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-gadeirydd

Gwnewch cais am y swydd

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

·   ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;

·   profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu aml-ddisgyblaethol;

·   y gallu i ddangos eu hymrwymiad at ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;

·   ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, bydd yr holl dreuliau rhesymol yr aed iddynt yn cael eu had-dalu. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd yr Is-gadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, Nicola.Guy@llyw.cymru neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, manon.maragakis002@llyw.cymru

Ymrwymiad: Isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd Cadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy’n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio publicappointments@gov.cymru i roi gwybod iddyn nhw.

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Cyflog

💰 Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd ddi-dâl ond caiff pob ymddiriedolwr hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Lleoliad

📍 Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ymgynghorydd Bwyd A Diod

💰 £36k - £40k
📍 Caerdydd
📍 Hyblyg
+1
Ar gau
1b

Mae Grŵp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd Bwyd A Diod

Gwnewch cais am y swydd

Ymunwch â ni yn Grŵp Ymgynghori Lafan i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid a’u cefnogi i wireddu eu cynlluniau. “Gwireddu gyda’n gilydd.”

Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig. 

**Rydym yn cynnig: **

- Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref. 

- Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan. 

- Cefnogaeth reolaidd i’ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig. 

- Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu. 

- Gweithio fel rhan o dîm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo. 

Dyddiad Cau: 24.04.2023 

Cyflog: £36,000 - £40,000 y flwyddyn

Yn ddibynnol ar brofiad perthnasol.

Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos). Rydym yn agored i geisiadau i weithio’n rhan amser. 

E-bostiwch post@lafan.cymru am fanylion llawn, neu ffoniwch 01248 665 624. 

Cyflog

💰 £36,000 - £40,000

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We

💰 £20k - £24k
📍 Caernarfon
Ar gau
1b

Mae Delwedd Ltd yn edrych am Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We

Gwnewch cais am y swydd

Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 400 o wefannau byw ar draws amrywiaeth o sectorau.

Rydym ni’n dîm bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith. 

Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:

•  Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)

•  Profi Meddalwedd

•  Cymorth Technegol

•  Ysgrifennu Dogfennau Technegol

Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:

•  PHP

•  MySQL

•  Gosod a Rheoli E-Bost

Gofynnol:

•  Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg

•  Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser

•  Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol

Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)

Cyflog: £20,000 - £24,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.

Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)

Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.

**Dyddiad Cau: **31/03/23

Cyflog

💰 £20,000 - £24,000

Lleoliad

📍 Caernarfon

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!