Jobyn - Swyddi lleol Cymru

Postio swydd

Swyddog Prosiect - Cymuned (Rhan-amser)

💰 £29k - £34k
📍 Corwen
11d

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Prosiect - Cymuned (Rhan-amser)

Gwnewch cais am y swydd

Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o reoli prosiect i gyflawni ein prosiect Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint.

Cyflog

💰 £29,116 i £34,429 PRO RATA

Lleoliad

📍 Corwen

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth

💰 £22k - £26k
📍 Corwen
📍 Gweithio o Adref
11d

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth

Gwnewch cais am y swydd

Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth prosiect i gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.

Bydd y swyddog cefnogi prosiect Twristiaeth yn gyfrifol dros ddarparu cymorth prosiect i gyflawni’r Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth. Bydd y prosiect yn cynnig cyllid er mwyn datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr) megis atyniadau lleol, llwybrau, teithiau tywys a chynnyrch twristiaeth yn fwy cyffredinol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar greu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, drwy fuddsoddiadau sy’n ategu diwydiannau a sefydliadau presennol. Mae’r buddsoddiadau yn amrywio o gymorth i fusnesau newydd i welliannau amlwg i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden lleol. Yn ei dro bydd hyn yn cynyddu buddsoddiad sector preifat mewn gweithgareddau i hybu twf, drwy gymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau bach a micro i ymgymryd â gwaith sy’n torri tir newydd, gwella’u cynhyrchiant, mabwysiadu technolegau a thechnegau effeithlon o ran ynni a charbon isel a bwrw iddi gyda neu gynyddu eu hallforion.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth yn Sir y Fflint.  

**Os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda Cara ar ebost cara.roberts@cadwynclwyd.co.uk, neu dros y ffon ar 01490 340500. **

Cyflog

💰 £22,486 - £26,465

Lleoliad

📍 Corwen, Gweithio o Adref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)

💰 £22k - 26k
📍 Corwen
📍 Gweithio o Adref
14d

Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)

Gwnewch cais am y swydd

ae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni Cronfa Allweddol Busnes Sir Ddinbych, sydd wedi’i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir Ddinbych. 

Bydd y prosiect ar waith ledled Sir Ddinbych gan ymdrin â’r thema Busnesau Ffyniannus sydd ynghlwm â Chynllun Corfforaethol Sir Ddinbych a thema Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y prosiect yn ategu’r agenda codi’r gwastad er mwyn hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw drwy ddatblygu’r sector preifat, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny sydd ar ei hôl hi o ran hynny. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Cymorth Busnes yn Sir Ddinbych.

Cysylltwch gyda Cara drwy ebost neu ffoniwch am fwy o wybodaeth: cara.roberts@cadwynclwyd.co.uk / 01490 340500

Cyflog

💰 £22,486 - £26,465

Lleoliad

📍 Corwen, Gweithio o Adref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Gweinyddwr Swyddfa

💰 £21k
📍 Botwnnog
1m

Mae Ynni Llšn yn edrych am Weinyddwr Swyddfa

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd y Gweinyddwr Swyddfa yn cefnogi tîm bychan o Aseswyr Ôl-osod, gan ymdrin ag ymholiadau ffôn, cofnodi manylion cwsmeriaid, gwneud apwyntiadau a gwneud hawliadau am arian grant. Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain yn ogystal â rhan o dîm. Mae bod yn gyfarwydd â systemau TG sylfaenol a chymwysiadau swyddfa (fel Microsoft Office – Word, Excel ac ati) yn ddymunol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  2. Sicrhau gweithrediad llyfn gweithdrefnau gwaith.
  3. Cynnal system CRM (Rheoli Perthynas Cwsmer) gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  4. Perfformio rai gweithgareddau desg dderbynfa fel:
    1. Ateb galwadau ffĂ´n yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
    2. Sefydlu gwasanaethau peiriant ateb y tu allan i oriau swyddfa
    3. Ateb llythyrau ayyb.
  5. Gwneud a chofnodi apwyntiadau a rhwymedigaethau eraill ar gyfer ymweliadau Aseswyr Ôl-osod a chontractwyr lleol.
  6. Gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
  7. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  8. Perfformio rhai gweithgareddau cymorth cwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar Ă´l y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn Ă´l lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tĂŽm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 21,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Aseswr Ôl-osod

💰 £25k - £30k
📍 Botwnnog
1m

Mae Ynni Llŷn yn edrych am Aseswr Ôl-osod

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd yr Asesydd Ôl-osod yn ymweld â chartrefi Pen Llŷn ac yn asesu addasrwydd yr eiddo ar gyfer gosodiad, yn cynghori’r trigolion ar eu hopsiynau ac yn gweithredu fel y cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw waith dilynol sydd ei angen. Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain. Mae diddordeb mewn adeiladau yn hanfodol, ond nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Byddwch yn derbyn hyfforddiant helaeth. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  2. Sicrhau gweithrediad llyfn gweithdrefnau gwaith.
  3. Ymgymryd â gwaith hyrwyddo (yn bersonol gyda phreswylwyr neu drwy fecanweithiau eraill)
  4. Ymgymryd â hyfforddiant ac ardystiadau ar gyfer Asesu a Gosod Ôl-osod gyda phwyslais arbennig ar adeiladau traddodiadol.
  5. Cynnal astudiaethau addasrwydd, dichonoldeb ac asesu eiddo.
  6. Cynghori preswylwyr ar wahanol weithdrefnau gosod.
  7. Cynorthwyo â pharatoi pecynnau gwella wedi’u teilwra.
  8. Egluro gwahanol becynnau a dewisiadau amgen i’n preswylwyr.
  9. Datrys unrhyw faterion technegol sy’n codi cyn/yn ystod/ar ôl gosod y mesurau arfaethedig.
  10. Cynnal system gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  11. Cynorthwyo gydag adroddiadau ac archwiliadau ystadegol.
  12. Cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a chysylltu â thrydydd partïon megis cyrff statudol ac anstatudol fel y bo’n briodol a gweithredu fel cynrychiolydd Ynni Llŷn.
  13. Gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
  14. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  15. Perfformio rhai gweithgareddau cymorth cwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar Ă´l y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn Ă´l lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tĂŽm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 £25,000 - £30,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Rheolwr Prosiect

💰 £35k - £45k
📍 Botwnnog
1m

Mae Ynni Llšn yn edrych am Reolwr Prosiect

Gwnewch cais am y swydd

Amdanom ni

Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma

Ynglŷn â’r rôl

Bydd y Rheolwr Prosiect yn arwain tîm bach i gyflawni’r prosiect Ôl-osod i Bawb. Bydd y swydd hon yn addas i rywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu liwt eu hunain. Mae diddordeb mewn adeiladau yn hanfodol, ond nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Bydd hyfforddiant helaeth yn cael ei ddarparu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Goruchwylio ac arwain tĂŽm.
  2. Cynnal adolygiadau staff, arfarniadau blynyddol a gweithdrefnau eraill.
  3. Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
  4. Sicrhau bod gweithdrefnau gweithio’n llyfn.
  5. Ymgymryd â gwaith hyrwyddo (yn bersonol gyda phreswylwyr neu drwy fecanweithiau eraill)
  6. Ymgymryd â hyfforddiant ac ardystiadau ar gyfer Asesu a Gosod Ôl-osod gyda phwyslais arbennig ar adeiladau traddodiadol.
  7. Ymgymryd ag astudiaethau addasrwydd, dichonoldeb ac asesu eiddo.
  8. Cynghori preswylwyr ar wahanol weithdrefnau gosod.
  9. Cynorthwyo gyda pharatoi pecynnau gwella wedi’u teilwra.
  10. Esbonio gwahanol becynnau a dewisiadau amgen i’n preswylwyr.
  11. Datrys unrhyw faterion technegol sy’n codi cyn/yn ystod/ar ôl gosod mesurau arfaethedig.
  12. Cynnal system gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
  13. Cynnal nodiadau helaeth a chwblhau astudiaethau achos ac adroddiadau eraill yn Ă´l yr angen.
  14. Cynorthwyo gydag adroddiadau ystadegol ac archwiliadau.
    1. Cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a chysylltu â thrydydd partïon fel cyrff statudol ac anstatudol fel y bo’n briodol ac yn gweithredu fel cynrychiolydd Ynni Llŷn.
    2. Goruchwylio a gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
    3. Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
  15. Cyflawni rhai gweithgareddau cymorth i gwsmeriaid.

Dyddiad cau ceisiadau

  1. Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
  2. Ar Ă´l y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
  3. Rydym wrthi’n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
  4. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!

Proses Ymgeisio

  1. Cam 1: Asesu ceisiadau
  2. Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
  3. Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
  4. Cam 4: Apwyntiad

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

  • Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn Ă´l lefel eich profiad a’r cymwysterau.
  • Cynllun pensiwn.
  • Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tĂŽm).
  • Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
  • Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
  • Tâl salwch statudol.
  • Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
  • Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.

Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal

Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!

Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth

Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma

Cyflog

💰 £35,000 - £45,000

Lleoliad

📍 Botwnnog

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Uwch Ymgynghorydd Strategol

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA
📍 Caerfyrddin
3m

Mae Partneriaeth yn edrych am Uwch Ymgynghorydd Strategol

Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae’r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi’i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe.  Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella’r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri Awdurdodau Lleol.

Mae Partneriaeth yn ymdrechu i gyflenwi gwasanaeth gwella ysgolion cyson, un y mae ei ffocws ar strategaethau her a chymorth sy’n gwella addysgu a dysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Rydym am benodi arweinydd profiadol, llwyddiannus sy’n meddu ar arbenigedd sylweddol mewn gwerthuso ac asesu effaith. Fel aelod o’r Uwch-dîm Arwain, bydd gennych y profiad a’r hygrededd i weithio’n effeithiol gydag uwch gyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol, arweinwyr ysgolion, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau allanol. Bydd gennych ddealltwriaeth gref o waith rhanbarthol ac o weithio mewn sefydliad amlddisgyblaethol.  

Byddwch yn gyfathrebwr cryf, a byddwch yn gallu rheoli timau a rhwydweithiau, arwain prosiectau cymhleth a chyflenwi dysgu proffesiynol hynod o effeithiol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ofalu bod llinellau cyfathrebu effeithiol yn cael eu cynnal rhwng Partneriaeth a’r Awdurdodau Lleol, yn ogystal â sicrhau bod blaenoriaethau allweddol y Cynllun Busnes yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus. Yn gyfnewid am hyn, bydd deiliad y swydd yn gallu datblygu ei arbenigedd mewn amgylchedd gwella ysgolion sy’n esblygu’n barhaus. Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Ian Altman, Swyddog Arweiniol drwy e-bost: ian.altman@partneriaeth.cymru

Ar gael ar secondiad tan 31 Awst 2025

Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)

Dylai’r rheiny sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais. 

Dyddiad Dechrau – Cyn gynted â phosibl

I ymgeisio am y swydd hon, dylech anfon llythyr eglurhaol a chopi o’ch CV at Helen Lewis drwy e-bost: helen.lewis@partneriaeth.cymru 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2023.

Cyflog

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd

💰 Cystadleuol
📍 Caerfyrddin
📍 Caernarfon
+1
3m

Mae S4C yn edrych am Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd

Gwnewch cais am y swydd

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith 21.75 yr wythnos neu rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio oriau tymor yn unig. Plîs nodwch eich dewis ar eich ffurflen gais. Oherwydd natur y swydd, disgwylir rhywfaint o hyblygrwydd o bryd i’w gilydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol.

Cyfnod prawf 6 mis

Gwyliau Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, mae S4C yn cynnig 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn ar sail oriau llawn amser.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser, byddwch yn derbyn lwfans pro rata. 

Pensiwn Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 4 Medi 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Cystadleuol

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Caernarfon, Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro

💰 £21k
📍 Sir Benfro
3m

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro

Gwnewch cais am y swydd

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol  Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
  • Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
  • Trefnu ymweliadau rheolaidd i’r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad
  • Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r  staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
  • Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar Ă´l bob ymweliad.
  • Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol  i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg
  • Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol  o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
  • Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin
  • Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
  • Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
  • Mynychu cyfarfodydd tĂŽm lleol yn ol y galw, a chyfarfod TĂŽm cenedlaethol unwaith bob tymor.
  • Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin
  • Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn Ă´l cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Cyflog

💰 MM14 £21,049 pro rata

Lleoliad

📍 Sir Benfro

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Polisi

💰 £32k - £39k
📍 Hyblyg
📍 O gartref
8m

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Polisi

Gwnewch cais am y swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig a chreadigol sy’n dymuno gweithio gyda thîm y Comisiynydd i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Craffu ar ddeddfwriaeth a dylanwadu ar bolisi

Cyfrannu i waith y Tîm Polisi er mwyn gweithredu amcan Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth. Rhoi sylw neilltuol i’r meysydd sydd fwyaf eu dylanwad ar hyfywedd yr iaith Gymraeg, megis Addysg a Sgiliau; Iechyd; Cymunedau Cymraeg a Darlledu.

Cyflwyno sylwadau ar bolisi a deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf addas, a chynnig cyngor neu argymhellion a fydd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru.

Tracio datblygiadau polisi a deddfwriaeth mewn gwahanol feysydd yn barhaus.

Cadw trosolwg o effaith pob darn gwaith y mae’r swyddog yn gyfrifol amdanynt, lle ymdrechwyd i ddylanwadu ar gwrs polisi neu ddeddfwriaeth gan ystyried ffyrdd o symud yr agenda ieithyddol yn ei blaen.

Darparu tystiolaeth i Bwyllgorau Senedd Cymru a Senedd y DU fel rhan o brosesau datblygu polisi a llunio Biliau a Deddfau, fel sy’n briodol.

Bydd gofyn briffio’r Comisiynydd yn ogystal â chynulleidfaoedd allanol a chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cydweithio a rhannu gwybodaeth

Cydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg.

Mynychu fforymau perthnasol a threfnu cyfarfodydd gyda gweision sifil er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg.

Ar y cyd â thîm cyfathrebu’r Comisiynydd, canfod ffyrdd o rannu gwybodaeth am safbwynt y Comisiynydd ar bolisi a deddfwriaeth a gwaith y Comisiynydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.

Ymchwilio ac Adrodd

Cydweithio â phartneriaid allanol a swyddogion sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith ymchwil y Comisiynydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynydd y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.

Cyfrannu at brosiectau ymchwil y Comisiynydd i sicrhau bod gennym y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth

Datblygu dulliau rhagweithiol a chreadigol o gyfleu barn a safbwynt y Comisiynydd ar wahanol feysydd polisi.

Dyletswyddau Cyffredinol

Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn Ă´l y galw.

Cyflog

💰 £32,460 - £39,690

Lleoliad

📍 Hyblyg, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

💰 £36k - £42k
📍 Ceredigion
8m

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

Gwnewch cais am y swydd

yma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. 

Disgrifiad:

**Y rôl **

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. 

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar dyh8@aber.ac.uk  

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau eraill. 

- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.

- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.

- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.

- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth)

- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.

- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon. 

- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.

- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.

- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.

- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad. 

- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.

- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.

- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy’n gymesur â gradd y rôl.

Cyflog

💰 £36,386 - £42,155 pro rata

Lleoliad

📍 Ceredigion

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cynorthwyydd TĂŽm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

💰 £21k - £22k
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd
📍 Hybrid
8m

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TĂŽm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

Gwnewch cais am y swydd

e Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.     Nod

Cefnogi Swyddogion y Gwasanaeth Cynghori i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu cyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect.   Prif Gyfrifoldebau

·    Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a’r tîm mewnol, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol

¡    Dilyn prosesau a chanllawiau yn ddiwyd 

¡    Mewnbynnu data i system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir e.e. BAS ac CMS

¡    Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio yn ôl y galw

¡    Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr

·    Delio gyda cheisiadau cwsmer a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

·    Delio gyda Hawliad gan y is-gontractiwyr a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

¡    Cysylltu gydag is-gontractiwyr i sicrhau fod y prosesau yn dilyn y drefn cywir

¡    Sicrhau fod pawb perthnasol yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ddiweddaraf 

·    Cefnogi cydweithwyr i goladu’r holl wybodaeth angenrheidiol i gwblhau tasgau

·    Pwynt cyswllt cyntaf ar y ffôn i’r Ganolfan Wasanaeth

·    Tynnu sylw cydweithwyr at unrhyw broblemau posib fel y bo’n briodol, a chyn gynted ag y bo modd

·    Hybu holl weithgareddau a digwyddiadau’r prosiect lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd 

·    Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cefnogi gyda’r prosesau i ymwneud gyda sichrau ansawdd, bydd pwysigrwydd yma ar mewngofnodi data yn gywir.

¡    Cefnogi digwyddiadau CPD yn ôl yr angen.   **Arall **

·    Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

¡    Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad

¡    Addysg hyd at o leiaf NVQ lefel 3 neu lefel gyfatebol, a/neu brofiad gwaith dangosadwy mewn maes perthnasol

¡    Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych

·    Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd (chwilio a phori’r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

¡    Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

¡    Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig

·    Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol

¡    Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da

¡    Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol

¡    Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

¡    Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol

·    Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm   Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch a Lowri James ar 01970 636 294 neu swyddi@menterabusnes.co.uk   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023.    Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 03 Ebrill 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **

e ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £20,919-£22,367

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol

💰 £53k - £64k
📍 Cyffordd Llandudno
📍 Merthyr
+2
8m

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol

Gwnewch cais am y swydd

ae’r Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol i ddarparu arweiniad i bedwar Rheolwr Tîm a cefnogi’r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da. 

ae Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn destun rhaglen newid sylweddol er mwyn cefnogi ffocws cliriach ar wella gwasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar y prosiect ac yn eu cefnogi. 

Dyddiad Cau: 16:00pm ar 28/03/2023 

**Am sgwrs anffurfiol: **kevin.barker@gov.wales - 03000 628822

*Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon 

Cyflog

💰 £53,440 - £63,900

Lleoliad

📍 Cyffordd Llandudno, Merthyr, Caerfyrddin, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cadeirydd

💰 £35k
📍 Caerdydd
8m

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gadeirydd

Gwnewch cais am y swydd

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

·   ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;

¡   profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu amlddisgyblaethol;

¡   hanes profedig o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb gydag ymrwymiad i ehangu mynediad a chyfranogiad ym maes diwylliant ledled Cymru;

¡   profiad o ddatblygu partneriaethau strategol a dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol.

Fel swydd uwch sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru a’r Comisiwn Elusennau, mae hon yn rôl â chyflog o £35,182.80 y flwyddyn.

Mae’r fanyleb person llawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd y Cadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Jason Thomas, Cyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, jason.thomas@llyw.cymru neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, manon.maragakis002@llyw.cymru

Ymrwymiad: Isafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy’n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio publicappointments@llyw.cymru i roi gwybod iddyn nhw.

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Cyflog

💰 £35,182

Lleoliad

📍 Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Is-gadeirydd

💰 Di-dâl + costau
📍 Caerdydd
8m

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-gadeirydd

Gwnewch cais am y swydd

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?

Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:

·   ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;

¡   profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu aml-ddisgyblaethol;

¡   y gallu i ddangos eu hymrwymiad at ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;

¡   ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, bydd yr holl dreuliau rhesymol yr aed iddynt yn cael eu had-dalu. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd yr Is-gadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, Nicola.Guy@llyw.cymru neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, manon.maragakis002@llyw.cymru

Ymrwymiad: Isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.

Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd Cadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.

Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy’n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio publicappointments@gov.cymru i roi gwybod iddyn nhw.

Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.

Cyflog

💰 Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd ddi-dâl ond caiff pob ymddiriedolwr hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Lleoliad

📍 Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ymgynghorydd Bwyd A Diod

💰 £36k - £40k
📍 Caerdydd
📍 Hyblyg
+1
8m

Mae GrĹľp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd Bwyd A Diod

Gwnewch cais am y swydd

Ymunwch â ni yn Grŵp Ymgynghori Lafan i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid a’u cefnogi i wireddu eu cynlluniau. “Gwireddu gyda’n gilydd.”

Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig. 

**Rydym yn cynnig: **

- Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref. 

- Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan. 

- Cefnogaeth reolaidd i’ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig. 

- Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu. 

- Gweithio fel rhan o dÎm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo. 

Dyddiad Cau: 24.04.2023 

Cyflog: ÂŁ36,000 - ÂŁ40,000 y flwyddyn

Yn ddibynnol ar brofiad perthnasol.

Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos). Rydym yn agored i geisiadau i weithio’n rhan amser. 

E-bostiwch post@lafan.cymru am fanylion llawn, neu ffoniwch 01248 665 624. 

Cyflog

💰 £36,000 - £40,000

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We

💰 £20k - £24k
📍 Caernarfon
8m

Mae Delwedd Ltd yn edrych am Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We

Gwnewch cais am y swydd

Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 400 o wefannau byw ar draws amrywiaeth o sectorau.

Rydym ni’n dîm bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith. 

Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:

•  Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)

•  Profi Meddalwedd

•  Cymorth Technegol

•  Ysgrifennu Dogfennau Technegol

Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:

•  PHP

•  MySQL

•  Gosod a Rheoli E-Bost

Gofynnol:

•  Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg

•  Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser

•  Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol

Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)

Cyflog: £20,000 - £24,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.

Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)

Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.

**Dyddiad Cau: **31/03/23

Cyflog

💰 £20,000 - £24,000

Lleoliad

📍 Caernarfon

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Gweinyddwr Gwefannau

💰 £20k - £22k
📍 Caernarfon
8m

Mae Delwedd Ltd yn edrych am Weinyddwr Gwefannau

Gwnewch cais am y swydd

Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Sefydlwyd y cwmni yn 1998 ac erbyn hyn mae gennym bortffolio o dros 400 gwefan byw ar draws sawl sector.

Rydym yn chwilio am Weinyddwr Gwefannau i ymuno a’n tîm.

Prif bwrpas y rĂ´l yma fydd / Tasgau allweddol:

•  Diweddariad dyddiol i wefannau cwsmeriaid – e.e. diweddaru cynnwys gwefan

•  Gwasanaeth cwsmer – Ffôn ac e-bost

•  Dyletswyddau Gweinyddol Cyffredinol

Gall y rĂ´l yma hefyd gynnwys:

•  Ffotograffiaeth ar gyfer gwefannau - gan gynnwys ymweld â chwsmeriaid

Yn ofynnol:

•  Profiad & Sgiliau TG

•  Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg

•  Yn gyfforddus yn gweithio i gyfyngiadau amser

Yn ddymunol:

•  Profiad Gwasanaeth Cwsmer

•  Profiad o weithio mewn swyddfa brysur

•  Profiad / Diddordeb mewn Ffotograffiaeth

•  Trwydded yrru llawn

Nodwch os gwelwch yn dda: Darperir hyfforddiant

Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (oriau yn drafodadwy)

Cyflog: £20,000 - £22,000. Yn ddibynnol ar Sgiliau a Phrofiad.

Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)

**Lleoliad: **Mae ein swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, Gwynedd.

Dyddiad Cau: 31/03/23

Cyflog

💰 £20,000 - £22,000

Lleoliad

📍 Caernarfon

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prentis Datblygiad Cynnar Plant

💰 Isafswm cyflog
📍 Caernarfon
8m

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Datblygiad Cynnar Plant

Gwnewch cais am y swydd

wnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd! 

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes plant?

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau’r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!  

**DYDDIAD CAU: **10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023 

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais. 

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru 

• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol

• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o’r ddau

• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch Prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

Cyflog

💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

Lleoliad

📍 Caernarfon

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prentis Chwaraeon x6

💰 Isafswm cyflog
📍 Amrywiol
8m

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Chwaraeon x6

Gwnewch cais am y swydd

wnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd! 

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes chwaraeon? 

Prentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

💰 Isafswm cyflog
📍 Bangor
8m

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwnewch cais am y swydd

wnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd! 

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol? 

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau’r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!  

DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023 

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais. 

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru 

• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol

• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o’r ddau

• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch Prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

Cyflog

💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

Lleoliad

📍 Bangor

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prentis Cefnogi Busnes Gwaith Gwynedd

💰 Isafswm cyflog
📍 Caernarfon
8m

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes Gwaith Gwynedd

Prentis Cefnogi Busnes a Systemau

💰 Isafswm cyflog
📍 Dolgellau
8m

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes a Systemau

Gwnewch cais am y swydd

wnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd! 

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes cefnogi busnes?

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau’r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!  

DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023 

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais. 

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru 

**Am ragor o wybodaeth - **

https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships 

• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol

• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o’r ddau

• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch Prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

Cyflog

💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol

Lleoliad

📍 Dolgellau

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol

💰 £23k - £24k
📍 Hybrid
📍 Hyblyg
+1
8m

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol

Gwnewch cais am y swydd

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.

Disgrifiad:

Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC: https://wcva.cymru/cy/gweithio-i-cggc/

SWYDDOG CYMORTH CYFATHREBIADAU DIGIDOL

Cymraeg yn hanfodol

35 awr yr wythnos

ÂŁ23,307 yn cynyddu i ÂŁ24,830 pro rata y flwyddyn

Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad:

Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.

Ynglŷn â’r rôl:

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.

Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:

Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau

Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol

Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg

Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.

Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/

Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10am

Cyflog

💰 £23,307 - £24,830 pro rata

Lleoliad

📍 Hybrid, Hyblyg, O gartref

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cydlynydd Cynrychiolaeth

💰 £24k - £27k
📍 Bangor
8m

Mae Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Cynrychiolaeth

Gwnewch cais am y swydd

Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i weithio yn adran Datblygu Aelodaeth Undeb Bangor fel Cydlynydd Cynrychiolaeth. Byddwch yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn yr Undeb, gan gynnwys Cynrychiolwyr Cwrs, y Cyngor Myfyrwyr, etholiadau a pholisi a gweithgarwch cynrychioliadol UMCB.

Byddwch wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a byddwch yn gweithio fel rhan o’r Tîm Llais Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi’r gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn unol ag amcanion strategol yr Undeb.

Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â’r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn maes cynrychioliadol a democrataidd a chyda dealltwriaeth dda o faterion sy’n bwysig i fyfyrwyr. Byddai profiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a gallu i ffynnu mewn sefyllfa waith gyflym ei naws dan arweiniad myfyrwyr yn fantais. 

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib. 

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dangos ymrwymiad i ddysgu hyd at safon benodedig, yn hanfodol i’r swydd hon.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. 

Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Mawrth 2023.

Dyddiad y cyfweliad: 29 Mawrth 2023.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131

Lleoliad

📍 Bangor

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Fideograffydd

💰 Yn ddibynnol ar brofiad
📍 Porthaethwy
📍 Llangefni
8m

Mae Rondo yn edrych am Fideograffydd

Gwnewch cais am y swydd

Mae Grŵp Rondo Media yn chwilio am Fideograffydd i gynllunio, saethu a golygu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig, creadigol gyda’r weledigaeth a’r gallu technegol i fynd â phrosiect o’r syniad cychwynol drwodd i’w gyhoeddi ar amrywiol lwyfannau.

Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys:

- Gweithio’n agos gydag adran olygyddol Rownd a Rownd i adnabod cyfleon i dyfu’r brand arlein

- Creu, datblygu, saethu a golygu cynnwys sy’n apelgar i’n cynulleidfa arlein, ar ba bynnag blatfform

- Adnabod targedau ar gyfer gwahanol lwyfannau a rhoi camau yn eu lle i’w cyrraedd

- Ymchwilio tueddiadau digidol ar draws llwyfannau amrywiol ac ymateb yn gyflym i fanteisio arnynt

- Dod yn gyfarwydd â chynnwys Rondo gan fod yn barod i awgrymu strategaeth ddigidol i fynd law yn llaw â hynny

- Tyfu dealltwriaeth o gynulleidfa ein brandiau, a sut y mae’r gynulleidfa yna yn amrywio o blatfform i blatfform, gan gynllunio cynnwys yn benodol i garfannau arbennig

- Sicrhau fod popeth sy’n cael ei gyhoeddi yn weddus i’r brand dan sylw

- Cynnig syniadau a bod â’r gallu i weithio law yn llaw â chynhyrchiadau i fynd a’r syniadau yna drwy bob cam o’r broses gynhyrchu

Byddwch:

- Yn gyfarwydd â meddalweddau golygu fideo megis Premiere Pro

- Yn hyderus wrth ddefnyddio camerâu, yn benodol camerâu DSLR neu mirrorless

- Ag ymwybyddiaeth o offer recordio sain syml

- Â phrofiad o saethu ar gyfer fideos cymhareb agwedd (aspect ratio) amrywiol

- Yn greadigol, gydag angerdd tuag at greu cynnwys o’r safon uchaf

- Yn gallu creu deunydd mewn amryw o steiliau gwahanol gan fod yn ysgafn neu ddwys yn ôl y galw

- O fewn rheswm, yn hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau penodol arlein 

- Yn gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

**Cytundeb: **12 mis

**Lleoliad: **Porthaethwy/Llangefni

**Cyflog: **Yn ddibynnol ar brofiad

**Oriau Gwaith arferol: **0900 – 1700 Llun i Gwener, gall yr oriau amrywio ar adegau 

**Dyddiad cau: **Ebrill 6ed 2023

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Porthaethwy, Llangefni

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Swyddog Cefnogi Busnes

💰 £22k - £24k
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd
8m

Mae GwE yn edrych am Swyddog Cefnogi Busnes

Gwnewch cais am y swydd

GwE yw’r gwasanaeth Gwella Ysgolion dros ogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gydrennir ar draws chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth gan ddarparu cefnogaeth fusnes gyffredinol. Bydd dyletswyddau yn cynnwys yr holl drefniadau cefnogi busnes, h.y. cefnogi rhaglenni, cadw cofnodion i safon uchel, ymgymryd â gweinyddu ariannol, tracio a chofnodi gwariant, casglu data, bod yn brif pwynt cyswllt i’r holl randdeiliaid. 

Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.

DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 6 Ebrill 2023

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost anngrenet@GwEGogledd.Cymru 

Am ragor o fanylion a ffurflen gais defnyddiwch y ddolen ymgeisio neu ffonio 01286 679076.

Cyflog

💰 £22,369 - £24,054

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)

💰 £21k - £22k
📍 Aberdyfi
📍 Hybrid
8m

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)

Gwnewch cais am y swydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.

Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth i ymuno â ni yn rhan amser, gan weithio pedwar i bum diwrnod yr wythnos ar gontract tymor penodol.

Y Manteision

- Cyflog o ÂŁ20,812 - ÂŁ21,968 y flwyddyn (pro rata)

- Pensiwn

- Lwfans Gwyliau (24 diwrnod) (pro rata)

- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)

- Gweithio Hybrid

- Cynllun beicio i’r gwaith

- Cynllun Cymorth Prynu Car

- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Y RĂ´l

Fel Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth, byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad a chymorth i’n hymwelwyr yn ein canolfan yn Aberdyfi.

Yn y rôl hon sy’n delio â chwsmeriaid, byddwch yn gwneud ymholiadau, yn hyrwyddo atyniadau lleol, yn tynnu sylw at rinweddau arbennig y parc ac yn hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Byddwch yn helpu i adeiladu ein presenoldeb ar-lein trwy gynnwys a chyfryngau cymdeithasol a chynorthwyo gyda rhedeg y ganolfan, gwerthu nwyddau, archebu stoc a sicrhau ei bod yn lân ac yn daclus.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Cynorthwyo mewn digwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd lleol

- Cefnogi gweithgareddau addysgol ac iechyd a lles

- Archebu llety a chofnodi lleoedd gwag

Amdanoch chi

Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, bydd angen:

- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl

- Gwybodaeth leol a brwdfrydedd dros rinweddau’r Parc Cenedlaethol a’r ardal

- Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth ac atyniadau Cymru

- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol

- Sgiliau TG sylfaenol

Y dyddiad cau ar gyfer y rĂ´l hon yw 27 Mawrth 2023.

Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.

Felly, i ymuno â’n sefydliad anhygoel mewn rôl werth chweil fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir. Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae’r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Cyflog

💰 £20,812 - £21,968 pro rata

Lleoliad

📍 Aberdyfi, Hybrid

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cynghorydd y Gymraeg

💰 £55k
📍 Caerdydd
8m

Mae Ofcom Cymru yn edrych am Gynghorydd y Gymraeg

Gwnewch cais am y swydd

Mae tîm Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg i arwain ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Safonau Cymraeg. Yn unigolyn medrus sy’n siarad Cymraeg, bydd yr unigolyn hwn yn hyrwyddo gwaith Ofcom drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad.

Bydd eich rôl yn cynnwys sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth ohonynt i dimau ar draws y sefydliad; goruchwylio’r gwaith o gyfieithu dogfennau Ofcom yn Gymraeg yn unol â’i phrosesau cymeradwy a’i hamserlenni cyhoeddi tynn; a chynnal a datblygu’r berthynas â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i Ofcom, ac mae’r tîm yn falch o’i hymroddiad a’r ffordd y maent yn integreiddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. 

Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ei gwaith yng Nghymru ac yn credu bod ei dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn eu dewis iaith.

Mae hon yn rôl lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau yn yr iaith Gymraeg a chynhelir y cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn Gymraeg.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Ofcom yn gyflogwr blaengar a chynhwysol ac mae’n cydnabod gwerth amrywiaeth i “sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb”. Mae’r sefydliad yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u cefndir, yn enwedig ymgeiswyr sy’n fenywod, yn anabl ac yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg yn ei gweithlu ar hyn o bryd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae Ofcom yn gwarantu y bydd yn cyfweld unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol hanfodol.   Mae gan Ofcom fodel gweithio ystwyth, sy’n ei galluogi i gael dull niwtral o ran lleoliad wrth lenwi swyddi gwag. Mae hefyd yn cefnogi dulliau gweithio’n hyblyg, lle bo’n bosibl. Mae cydweithwyr yn rhydd i symud o gwmpas ei swyddfeydd, gan alluogi iddynt weithio ochr yn ochr â thimau a grwpiau eraill, a chydweithio â nhw. Mae’r mentrau hyn yn helpu cydweithwyr Ofcom i weithio’n hyblyg mewn ffordd sy’n eu cefnogi.

I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â thÎm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 / gwybodaeth@goodsonthomas.com. 

Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.

Cyflog

💰 £55,000

Lleoliad

📍 Caerdydd

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prentis Chwaraeon x6

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth
📍 Amrywiol
8m

Mae Byw'n Iach yn edrych am Brentis Chwaraeon x6

Gwnewch cais am y swydd

**PWRPAS Y SWYDD **

Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Chwaraeon a Hamdden.

Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw. 

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Disgrifiad:

**NODWEDDION PERSONOL ** 

**HANFODOL **

Dangos ymddygiad ac agwedd cywir 

Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch 

I fod yn gwrtais ac yn bositif    Dangos ymrwymiad i waith neu brosiect 

I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib 

I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol    Gweithio fel rhan o dîm 

Gallu gweithio mewn tÎm 

I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm    Cyfathrebu gyda hyder 

Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg 

Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa    Bod yn barod i ddysgu 

I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth 

Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw    Deall beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor 

Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor 

Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol  

Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud 

**DYMUNOL **   **CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL **

**HANFODOL **

Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod:    **Un ai **

4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg) 

Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma)    Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol.    **ANGHENION IEITHYDDOL **   Gwrando ac siarad

Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.

Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.    **Darllen a deall **

Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.  Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)    Ysgrifennu 

Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy’n gyfarwydd i’r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan). 

Cyflog

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth

Lleoliad

📍 Amrywiol

Ceishiwch

Gwnewch cais am y swydd

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!