Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Mae Cylch Meithrin Ty Mair yn edrych am Cymhorthydd Clwb ar ol Ysgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Ysgol Croes Atti, Ffordd Dewi, Oakenholt, Fflint
I weithio fel rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel, ysgogol a chroesawgar i blant ar ôl diwedd y diwrnod ysgol. Gan weithio mewn lleoliad meithrin cyfrwng Cymraeg, byddwch yn cefnogi Arweinydd y Clwb ar ôl Ysgol i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel, gweithgareddau creadigol a gofal rhagorol.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae Hyfforddiant Diogelu / Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf Pediatrig, a Hylendid Bwyd yn hanfodol, neu rhaid eu cwblhau ar ol penodiad I’r swydd.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth:
Rheolwr, Louise Berry – [email protected]
Cyflog
💰 Dibynnol ar brofiad a chymhwyster
Lleoliad
📍 Sir y Fflint
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Ty Mair yn edrych am Staff Banc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad:
Ysgol Croes Atti, Ffordd Dewi, Oakenholt, Fflint ac Ysgol Croes Atti, Plymouth Street, Shotton, Glannau Dyfrdwy
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn unigolyn dibynadwy, egnïol ac hyblyg sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ifanc ac sy'n gallu ymgartrefu'n ddi-dor mewn tîm bywiog ar fyr rybudd. Byddwch yn cefnogi gweithrediadau gofal plant o ddydd i ddydd, gan sicrhau amgylchedd diogel, ysgogol a chroesawgar sy'n hyrwyddo datblygiad blynyddoedd cynnar trwy’r iaith Gymraeg.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae Hyfforddiant Diogelu / Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf Pediatrig, a Hylendid Bwyd yn hanfodol, neu rhaid eu cwblhau ar ôl penodiad I’r swydd.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth:
Rheolwr, Louise Berry – [email protected]
Cyflog
💰 Dibynnol ar brofiad a chymhwyster
Lleoliad
📍 Sir y Fflint
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Arweinydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MCC8 £28,879.50 pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £21,962.49.
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Llansannan yn edrych am Gynorthwyydd (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: YSGOL BRO ALED , LLANSANNAN , DINBYCH
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch drost gyfnod mamolaeth o fis Medi 2026 hyd at Mehefin 2027 neu i gychwyn mor fuan a sydd phosib. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Parodrwydd i wneud cyrsiau Cymorth Cyntaf, Diogelu Plant a Hylendid Bwyd. Byddai profiad a chymhwyster o weithio gyda phlant yn ddelfrydol, ond nid yw’n angenrheidiol.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Ebost: [email protected]
Rhif ffon: 07707 707709
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Uwch Weithiwr Chwarae
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-Weithiwr Chwarae i weithio yn ei Clybiau Sbort a Sbri.
Pwrpas y swydd:
• Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol
• Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
• Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol
• Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
**Prif ddyletswyddau **
• Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.
• Cydlynu a sicrhau y cesglir y plant o'r ysgol/ion.
• Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.
• Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.
• Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.
• Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.
• Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.
• Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.
• Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.
• Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.
• Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.
• Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. Cysylltwch gyda [email protected] am fanylion pellach
Cyflog
💰 £21,000 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.