Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd Penparc
Yn eisiau o Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosib – Swydd Llawn Amser, Parhaol.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar, yn cydweithio’n agos i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Bennaeth ymrwymiad addysgu, a byddai arbenigedd ym maes ADY yn fanteisiol.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac ysgogol, ac arweinydd effeithiol, sy’n hyrwyddo addysgeg o’r radd flaenaf. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â sgiliau rheolaethol cadarn a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.
Fe fydd yr unigolyn yn:
dylanwadu ar gydweithwyr drwy osod esiampl fel model rôl trefnus a chydwybodol;
bod yn barod i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli cadarn;
hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
ymgynghori â’r Pennaeth a chynnig cyngor adeiladol mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;
cydweithio â staff, disgyblion a rhieni i hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;
bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi o ganlyniad i absenoldebau neu gyfrifoldebau eraill y Pennaeth;
arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;
dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol, ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu ar draws yr ysgol gyfan;
medrau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cadarn;
angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;
gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol sy’n seiliedig ar ymchwil;
ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm effeithiol;
ymrwymiad cryf i gryfhau’r cysylltiadau â’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a phartneriaid ehangach.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: Canol nos Sul, 27 Medi 2026 am 11:59yh
Dyddiad cyfweld: Dydd Llun 5 Hydref 2026
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu â’r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins, am drafodaeth anffurfiol ar [email protected] neu drwy ffonio 01239 810586.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £52,680 - £58,136 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Bennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Bennaeth deinamig ac arloesol gydag egni a gweledigaeth i arwain Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei hadeiladu yn Felin-fach, Dyffryn Aeron yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal honno. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Chorff Llywodraethol Cysgodol ymroddedig a phrofiadol tuag at agoriad yr Ysgol newydd. Yn y cyfamser, bydd yn arwain un o’r ysgolion sy’n dod ynghyd i greu yr Ysgol Ardal, sef Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron.
Mae hwn yn gyfle ardderchog ac unigryw i arweinydd egnïol a llwyddiannus sy’n meddu ar yr adnoddau personol a’r brwdfrydedd i ysbrydoli a symbylu staff a disgyblion. Bydd angen sgiliau profedig mewn rheoli newid yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi’u cefnogi’n llawn a’u hintegreiddio i dîm unedig. Bydd gan yr Ysgol hon adnoddau chwaraeon modern, a bydd y safle hefyd yn gartref i Ganolfan Iaith ac Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr Ysgol newydd yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedau lleol sy’n fwrlwm o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ac yn pontio cymunedau a charfannau cymdeithasol amrywiol a chynnig canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol.
Bydd y Pennaeth newydd:
· yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau plant, yn meddu ar weledigaeth glir am ragoriaeth addysgol, ac yn datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned a sefydliadau lleol
· yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn y modd gorau posibl drwy greu un amgylchedd dysgu eithriadol
· yn meddu ar sgiliau cadarn o ran arwain a chyfathrebu gan ennyn hyder mewn eraill, ac ysbrydoli staff a disgyblion
· yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
· yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn adeiladu partneriaethau cadarn ymysg y cymunedau lleol
· â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion
· â sgiliau addysgu rhagorol a disgwyliadau ar gyfer dyfodol yr ysgol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli rhieni a’r gymuned ehangach i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP.
Bydd angen gwiriad troseddol manylach ar gyfer y swydd hon.
Os am sgwrs anffufiol mae croeso ichi gysylltu gyda Mary Davies, Pennaeth Gwella Ysgolion [email protected]
Cyfweliadau i’w cynnal ar ddydd Iau, 06 Hydref, 2022.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £52,302 - £60,624
Lleoliad
📍 Aberaeron
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.