Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Aelod (Lleyg) Annibynnol Is – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae’r Cyngor yn ceisio penodi unigolyn i wasanaethu fel Aelod Annibynnol (‘Lleyg’) ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – i ddechrau ar 30.05.2027, (a sefydlwyd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Bydd y penodiad am leiafswm o 5 mlynedd gyda’r posibilrwydd o estyniad am hyd at 10 mlynedd. Mae’r rôl yn gofyn am hyblygrwydd, gydag ymrwymiad o 5-7 cyfarfod yn ystod y dydd fesul blwyddyn (gan bara rhwng awr a thair awr) ar gyfartaledd, ynghyd â gwaith paratoi, hyfforddiant a datblygiad. Cynhelir yr holl gyfarfodydd o bell.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n cynghori’r Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau a Swyddogion ar lywodraethu, trosolwg ariannol, rheoli risg a pherfformiad, cwynion a rheolaeth fewnol. Mae’n sicrhau systemau llywodraethu effeithiol a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau archwilio mewnol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn a rhaid iddynt gwrdd â’r meini prawf canlynol (gweler y Disgrifiad o’r Rôl a Manyleb y Person am y rhestr lawn o’r meini prawf):
Nid yw’r ymgeisydd yn, neu nad yw wedi bod yn, aelod, aelod cyfetholedig neu weithiwr i’r Cyngor o fewn y pum mlynedd diwethaf;
Nid yw’n weithiwr neu’n aelod o’r Cyngor neu Awdurdod Lleol arall;
Nid oes gan yr ymgeisydd unrhyw berthynas personol, cyfreithiol neu gyfreithiol â Chyngor Sir Ceredigion (gan gynnwys cyflogeion, aelodau neu staff blaenorol), neu unrhyw berthynas/gweithgarwch, a allai gynrychioli gwrthdaro buddiannau);
Nid yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd;
Nid yw’n fethdalwr nas rhyddhawyd;
Nid oes ganddo unrhyw drafodion busnes sylweddol â’r Cyngor na chysylltiad ffurfiol ag unrhyw grŵp gwleidyddol;
Nid yw’n ddeiliad swydd bwysig mewn sefydliad sy’n derbyn cymorth grant/cefnogaeth gan y Cyngor; ac
Nid yw wedi’i wahardd o ddal swydd fel aelod o’r Awdurdod Lleol.
Telir ffioedd ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau yn unol â Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau’r Cyngor.
Mae manylion pellach, ynghyd â’r Disgrifiad o’r Rôl a Manyleb y Person.
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n cwrdd â’r gofynion uchod a bod gennych chi ddiddordeb mewn dod yn aelod (lleyg) annibynnol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gwnewch gais.
Os hoffech chi drafod y rôl, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Sinnett-Jones, Swyddog Llywodraethu ar 01545573062 / [email protected].
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.