Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Fforwm Rhieni Cenedlaethol
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Fforwm Rhieni Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n rhiant sydd ddim yn siarad Cymraeg? Hoffech chi helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Cymraeg i blant a theuluoedd?
Mae Mudiad Meithrin yn chwilio am rieni o amrywiaeth o gefndiroedd i ymuno â'n Fforwm Rhieni Cenedlaethol. Dyma gyfle unigryw i sicrhau bod llais rhieni o bob cymuned yn cael ei glywed a'i werthfawrogi.
Pwy ydym ni'n chwilio amdanynt?
Efallai eich bod chi:
Wedi siarad Cymraeg yn y gorffennol ond yn defnyddio Saesneg neu iaith arall fel eich prif iaith erbyn hyn.
Heb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn ystod eich addysg.
Yn angerddol am helpu'r genhedlaeth nesaf i gael y cyfle i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg.
Yn deall pa mor bwysig yw gofal plant ac addysg i blant a theuluoedd.
Pam ymuno?
Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i waith Mudiad Meithrin.
Sicrhewch fod lleisiau rhieni o bob cefndir yn cael eu cynrychioli.
Helpwch ni i greu mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd elwa o'r Gymraeg.
Mae eich profiadau a'ch safbwynt chi yn bwysig. Dewch i helpu ni siapio'r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i wneud cais, gweler y swydd ddisgrifiad isod.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau.
Rydym yn chwilio am unigolion ar gyfer y fforwm sy’n rhannu rhai o’r nodweddion isod.
Rhiant i blant/blentyn ifanc
Ddim yn gallu siarad Cymraeg
Rydym angen i’r fforwm gael cynrychiolaeth o’r canlynol
Teuluoedd amrywiol (un rhiant, dau riant, wedi mabwysiadu plant a.y.b.)
Cefndiroedd ethnig / hil amrywiol
Rhan o’r gymuned LHDTC+
Yn magu plentyn / plant sydd ag anableddau neu gydag anabledd eu hunain
Ddim o anghenraid wedi mynychu un o wasanaethau Mudiad Meithrin.
Yn cefnogi egwyddorion a nod Mudiad Meithrin
Cyflog
💰 Tâl o £100 y cyfarfod (gyda chostau rhesymol)
Lleoliad
📍 Ar draws Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.