Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill.
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Sefydlu a Symud Ymlaen:
· Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy: · Ehangu gofod trwy gynllun cyfalaf y llywodraeth a neu gyfuno gwasanaeth allanol a Chylch Meithrin er mwyn sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin
· Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli
· Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi
· Adnabod lleoliad posibl
· Adnabod staff ac arwain proses recriwtio a phenodi
· Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru AGC
· Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun
· Cydweithio a chydlynu gyda’r Cyngor Sir
· Cydweithio gyda’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach
· Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol
· Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian
· Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd
· Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Swyddog Cefnogi penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin Gwaith Cyffredinol:
· Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
· Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal
· Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth
· Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
· Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni/gwarchodwyr, ysgolion ayyb
· Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
· Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen
· Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol.
Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl. Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.
· Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.
· Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.
· Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.
· Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.
· Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.
· Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.
· Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.
· Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.
· Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.
· Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.
· Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.
· Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.
· Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
· Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
· Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.
· Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.
· Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu).
· Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
· Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.
· Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.
· Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £29,614 – £32,375
Lleoliad
📍 De Ddwyrain
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl. Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.
Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.
Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.
Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.
Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.
Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.
Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.
Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.
Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.
Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.
Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.
Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.
Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.
Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.
Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.
Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu)
Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.
Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.
Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont_ _yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Dyddiad Cyfweliadau: 7.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £29,614 – £32,375
Lleoliad
📍 De Ddwyrain
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud x 2 (De Sir Benfro / De Powys a Cheredigion)
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud x 2 (De Sir Benfro / De Powys a Cheredigion)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Sefydlu a Symud Ymlaen:
Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy:
Ehangu gofod trwy gynllun cyfalaf y llywodraeth a neu gyfuno gwasanaeth allanol a Chylch Meithrin er mwyn sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin
Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli
Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi
Adnabod lleoliad posibl
Adnabod staff ac arwain proses recriwtio a phenodi
Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru AGC
Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun
Cydweithio a chydlynu gyda’r Cyngor Sir
Cydweithio gyda’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach
Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol
Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian
Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd
Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Swyddog Cefnogi penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin
Gwaith Cyffredinol:
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth
Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni/gwarchodwyr, ysgolion ayyb
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen
Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.