Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Disgrifiad:
Mae Silver Cloud yn wasanaeth Cymru gyfan unigryw sy’n darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion reoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n darparu'r gwasanaeth, felly bydd croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar sy’n cynnig y cyfle i weithio gyda chleifion ar draws y wlad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae’r gallu i gynnal sgwrs naturiol yn Gymraeg i gefnogi cleifion yn hanfodol, ynghyd â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gyfwerth).
Rhoddir hyfforddiant gan dîm SilverCloud ar bob agwedd o'r rôl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i wella sgiliau ysgrifenedig Cymraeg os oes angen. Mae cyfleoedd hyfforddiant DPP hefyd ar gael trwy’r bwrdd iechyd. Mae cymorth clinigol ar gael i chi 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gofynion y swydd yn cynnwys cynnal safon uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gwneud y canlynol:
Gweithio o fewn tîm cyfeillgar mawr, ochr yn ochr â Chydlynwyr CBT eraill i hybu a gweinyddu'r Gwasanaeth CBT Ar-lein.
Cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr newydd i’r gwasanaeth, rhannu manylion actifadu a monitro cynnydd.
Arwain gwaith cyfathrebu gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru.
Ysgogi, annog a chynnig cymorth clinigol dros y ffôn/e-bost.
Gwneud penderfyniadau ar addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan gadw at brotocolau cyfeirio'r adran a chyfeirio cleientiaid anaddas ymlaen at y gwasanaeth perthnasol.
Cynnig cymorth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cwblhau’r atgyfeiriad, gan ateb ymholiadau sydd ganddyn nhw neu ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Chwarae rhan weithredol wrth gynnig a chefnogi newidiadau i weithdrefnau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r broses protocol ar gyfer monitro ac adrodd unrhyw rybuddion risg, bwriad troseddol neu ddirywiad cleifion fel yr adroddwyd gan y defnyddwyr naill ai o fewn y system CBT ar-lein neu'n uniongyrchol.
Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunan-atgyfeiriadau.
Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gydweithwyr ac i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yn ymwneud â'r gwasanaeth CBT ar-lein.
Mae hon yn swydd lawn amser am gyfnod o ddwy flynedd gyda lleoliad hyblyg. Am fanylion pellach am y swydd a sut i ymgeisio ewch i: Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.