Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Ymgynghorydd Gwasanaeth (Cymraeg yn hanfodol)
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Ymgynghorydd Gwasanaeth (Cymraeg yn hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tîm Llyfrgelloedd MyUni yn falch o gynnig cyfle prin i weithio ochr yn ochr â ni yn ein llyfrgelloedd ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae amrywiaeth o gontractau dros dro am chwe mis ar gael, gan gynnwys oriau amser llawn a rhan-amser. Rydym yn cynnig hyblygrwydd o ran patrymau shifft sy'n cynnwys rhywfaint o waith gyda'r hwyr a thros y penwythnos, ynghyd â gwyliau banc.
Dylech gynnwys manylion o'ch argaeledd yn eich cais.
Mae'r swydd hon sy'n ymwneud â chwsmeriaid yn un brysur ac mae'r dyletswyddau'n amrywiol, o helpu rhywun i ganfod man astudio addas, defnyddio'r argraffwyr, cysylltu â'n Wi-Fi, i ddod o hyd i lyfr neu fenthyg gliniadur o un o'n loceri hunanwasanaeth. Ar adegau prysur, byddech yn cynorthwyo wrth reoli ciwiau wrth y Ddesg Wybodaeth. Ein pwyslais yw helpu myfyrwyr a defnyddwyr eraill llyfrgelloedd i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau.
I gyflwyno cais am y swydd, cliciwch ar y ddolen: www.abertawe.ac.uk/swyddi
Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein, gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.
Dylech gynnwys CV presennol ynghyd â'ch cais gorffenedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd hon, a wnewch chi e-bostio'r Cydlynwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid canlynol:
Amber Arrowsmith – [email protected]
Chris Condon – [email protected]
Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmeriaid Dros Dro:
Felicity Williams – [email protected]
Nod Prifysgol Abertawe yw darparu amgylchedd gwaith ac amgylchedd dysgu, heb wahaniaethu annheg, a fydd yn galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial personol.
Rydym yn croesawu ac yn dathlu'r amrywiaeth y mae ein staff a'n myfyrwyr yn ei chynnig i'r Brifysgol, gan ein hannog i feddwl yn wahanol a gweithredu'n wahanol.
Sylwer bod y swydd hon hefyd yn cael ei hysbysebu i gronfa o gydweithwyr mewnol fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gyflogi pobl drwy adleoli. Os caiff y swydd hon ei llenwi drwy'r llwybr hwn, byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau hyn. Os nad ydych yn derbyn e-bost, dylech dybio bod eich cais yn dal i gael ei brosesu.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Cyflog
💰 £21,197 pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr (Siaradwr Cymraeg)
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Gynorthwy-ydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr (Siaradwr Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Er mwyn cyflawni ei huchelgais o barhau ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.
Mae Gwasanaethau Academaidd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau proffesiynol o safon uchel i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol. Mae’r Gwasanaethau Academaidd yn galluogi ac yn cyflawni, lle y bo'n briodol, newid ar draws y sefydliad, gan gyflawni gwelliannau mewn meysydd strategol allweddol i wella profiad myfyrwyr yn Abertawe. Rydym yn falch o ennill Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Swyddfa'r Cabinet a Gwobr Arian Buddsoddwyr mewn Pobl, a byddwn yn parhau i sicrhau gwasanaeth rhagorol drwy ymgysylltu, gwaith partneriaeth ac arloesi.
Mae holl feysydd Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithredu'n unol â set ddiffiniedig o Werthoedd Craidd, a disgwylir i bawb allu dangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o adeg cyflwyno cais am swydd i gyflawni'u rôl o ddydd i ddydd.
Prif Ddiben y Swydd
- Cynnig croeso cwrtais i MyUniHub a bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth eang o fyfyrwyr ac ymwelwyr.
- Ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol, effeithlon, sensitif a chwrtais boed ydynt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Lle bo'n bosib, ymateb i ymholiadau fel cyswllt cyntaf neu gyfeirio pobl at y ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau priodol lle na fydd ymateb cychwynnol yn bosib.
- Rhoi cyngor cywir mewn perthynas â pholisïau, rheoliadau, gweithdrefnau a gwasanaethau'r Brifysgol.
- Casglu dogfennaeth gan fyfyrwyr er mwyn cefnogi eu ceisiadau am amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cyhoeddi estyniadau i fisâu, apeliadau, gwiriadau etc.
- Os bydd angen, cyfeirio ymholiadau i'r arbenigwr neu'r gwasanaeth perthnasol i gael atebion drwy wneud apwyntiadau gyda'r gwasanaethau proffesiynol hynny, os yw'n briodol.
- Cynnig llythyron safonol a pherthnasol i unigolion penodol mewn ymateb i wiriadau i brofi statws fel myfyriwr.
- Ymdrin ag ymholiadau'n gyfrinachol ac mewn ffordd ddiplomatig, yn unol â Rheoliadau Diogelu Data.
- Prosesu taliadau ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau.
- Gweithio fel rhan o dîm gyda'r Swyddogion Gwybodaeth Myfyrwyr eraill ym MyUniHub a chydweithwyr eraill i gynnig gwasanaethau blaen tŷ sy'n groesawgar, yn gadarnhaol ac yn gefnogol.
- Cynnig cefnogaeth a chymorth i Swyddogion Gwybodaeth Myfyrwyr a Rheolwr MyUniHub, yn ôl y galw.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: Carly Taylor, Rheolwr MyUniHub,
E-bost: [email protected]
Mae rhagor o fanylion am y Gwasanaethau Academaidd ar gael yn: http://www.swansea.ac.uk/academic-services/
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Cyflog
💰 £20,092 - £22,254
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.