Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn edrych am Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect Pendinas yn brosiect cymunedol 18 mis i ddysgu mwy am y fryngaer sy’n amlwg iawn yn yr ucheldir uwchben Penparcau. Bydd y prosiect yn ceisio ateb cwestiynau am hanes y fryngaer ar hyd yr oesoedd a thaflu goleuni ar y ffyrdd y bu i’n cyndeidiau ddefnyddio’r safle. Bydd canlyniadau rhaglen o gloddio ac arolwg geoffisegol yn darparu'r deunydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol amrywiol, gan gynnwys creu ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys ac adrodd straeon. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr bywyd gwyllt lleol i glirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar ben y bryn ar gyfer y planhigion prin, yr adar, yr infertebrata a’r trychfilod sydd â chartref ym Mhen Dinas. Bydd y prosiect yn cynnwys gŵyl penwythnos Pendinas ym mis Awst 2024 i arddangos yr holl weithgareddau hyn ac arddangosfa ar ddiwedd y prosiect. Bydd y Swyddog Allgymorth yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno prosiect Pendinas, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fydd yn arwain y gwaith archaeolegol a bydd y gwaith allgymorth yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd panel ymgynghorol yn cael ei sefydlu o aelodau o gymunedau Penparcau ac Aberystwyth i’n helpu ni i weithio’n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrff treftadaeth i rymuso trigolion lleol i ymgysylltu â, dysgu am, cloddio, dehongli, rheoli a gwarchod bryngaer Pendinas drwy arolwg archaeolegol a gwaith maes, gwella'r dreftadaeth naturiol, dysgu a gweithgareddau creadigol. Mae rôl y Swyddog Allgymorth yn cynnwys gweithio’n hyblyg ac yn greadigol gyda phobl o bob oedran a chefndir a’u mentoriaid, trefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau gweinyddol, llywodraethu ac adrodd sy’n ofynnol ar gyfer prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Tasgau allweddol:
Mae Cynllun Gweithgarwch manwl wedi’i ysgrifennu ar gyfer prosiect Pendinas (wedi’i atodi), a bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y tasgau allweddol canlynol:
1. Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda phartneriaid y prosiect, rhanddeiliaid a sefydliadau cymunedol i'w cynnwys hwy a'u haelodau yn y prosiect a sicrhau profiad cadarnhaol a chynhwysol i bawb sy'n cymryd rhan. Hwyluso cyfarfodydd y grŵp cynghori cymunedol a gwneud cofnodion yn y cyfarfodydd.
2. Datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol wedi'u hysbrydoli gan Ben Dinas, yn seiliedig ar y celfyddydau creadigol, i annog y cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd gan arbenigwyr dan gontract, gan gynnwys ffotograffiaeth, teithiau tywys, prosiectau celf, barddoniaeth, astudio natur ac adrodd straeon.
3. Gweithio gyda staff a myfyrwyr dwy ysgol uwchradd leol i greu gweithgareddau cwricwlwm amlddisgyblaethol yn seiliedig ar astudio Pendinas.
4. Trefnu gweithgareddau clirio prysgwydd a rhedyn gan weithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
5. Cefnogi’r rhaglen gloddio a gwaith maes flynyddol drwy recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr lleol a’u hyfforddi i adrodd hanes Pendinas a rhoi teithiau tywys i ymwelwyr.
6. Trefnu penwythnos Gŵyl Pendinas ym mis Awst 2023 a’r arddangosfa gloi yn 2024.
7. Cymryd rhan mewn cyfarfodydd rheoli prosiect i adrodd ar gynnydd a chyflawni a helpu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi.
8. Casglu data sylfaen ar gyfer gwerthuso, gan gynnwys ffigurau ar gyfer nifer cyfranogwyr y prosiect, a chefnogaeth i ddarparu adroddiadau, data gwerthuso a gwybodaeth ar gyfer monitro'r prosiect.
9. Paratoi datganiadau i'r wasg, blogiau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a chasglu lluniau at ddibenion cyhoeddusrwydd a chyfryngau cymdeithasol, ar gyfer arddangosfeydd, adroddiadau ac i hyrwyddo Pendinas yn y dyfodol fel atyniad i ymwelwyr.
10. Cyfrannu at werthuso'r prosiect a'i waddol yn y tymor hwy.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Sector (Archifau a Llyfrgelloedd)
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Cefnogi Sector (Archifau a Llyfrgelloedd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y rôl yn cynorthwyo gyda chyflawni argymhelliad yr Adolygiad Teilwredig i gryfhau’r berthynas rhwng llyfrgelloedd ac archifdai awdurdodau lleol a’r Llyfrgell. Bydd tri phrif amcan i’r rôl: datblygu cynllun hyfforddi cynaliadwy sy’n ymateb i anghenion adrannol; cydlynu arddangos eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell mewn tri lleoliad ledled Cymru a gweithio gyda’r sector llyfrgelloedd i godi ymwybyddiaeth o adnoddau’r Llyfrgell. Bydd angen teithio i wahanol ardaloedd o fewn Cymru fel rhan o’r swydd hon.
Band 3: £24,899 - £28,740
Swydd tymor penodol am gyfnod o 2 flynedd
37 awr yr wythnos.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 16 Mehefin 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.