Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Cymorth E-ddysgu
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Cymorth E-ddysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan aelodau presennol o staff sy'n dymuno gwneud cais fel cyfle secondiad.
Mae'r swydd a hysbysebir yn rhan o'r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae'r Uned yn adrodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae’n gweithio'n eang ar draws y Brifysgol yn cynorthwyo staff sy'n datblygu dysgu ac addysgu. Un o feysydd gwaith yr Uned yw datblygu a darparu cymorth e-ddysgu.
Prif nod y swydd 0.5 CALl hon yw cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio'r technolegau dysgu a gynigir gan y Brifysgol, gan gynnwys Blackboard, Turnitin a Panopto. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth i ddefnyddwyr dros Teams, dros y ffôn a thrwy'r ebost, yn ogystal â darparu sesiynau hyfforddiant i staff a myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan wrth gefnogi arholiadau ar-lein yn y brifysgol a chynnal yr Arolwg Mewnwelediadau Profiad Digidol blynyddol.
Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfarwydd â defnyddio'r offer hyn ac yn gallu helpu staff y Brifysgol i'w defnyddio.
Gellir rhannu'r prif ddyletswyddau fel hyn:
Rhoi cymorth i staff a myfyrwyr dros y ffôn, drwy'r ebost ac yn bersonol.
Darparu hyfforddiant i grwpiau ac ymgynghoriadau i grwpiau bach neu i aelodau unigol o'r staff.
Cynnig cymorth ar gyfer yr arholiadau ar-lein a gynhelir yn ystod cyfnod yr arholiadau yn ogystal â'r arholiadau canol-semester.
Cynnal yr Arolwg Mewnwelediadau Profiad Digidol blynyddol Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i Reolwr yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.
Swydd ran-amser yw hon – bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 4 diwrnod yr wythnos, yn ddelfrydol yn y boreau. Serch hynny, mae rhywfaint o hyblygrwydd o ran yr oriau a’r dyddiau y byddwch yn gweithio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Ms Kate Wright, Rheolwr yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu ([email protected])
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aseswyr Anghenion Astudio (x 2 swydd)
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Aseswyr Anghenion Astudio (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser uchod am gyfnod penodol yn gweithio i Ganolfan Asesu Prifysgol Bangor. Mae un swydd ar gael ym Mangor, a swydd arall ar gyfer Aberystwyth. Mae angen i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn glir o ran eu lleoliad arfaethedig wrth wneud cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfwerth a chyda phrofiad o weithio â myfyrwyr anabl mewn addysg ôl-16, a’i brif swyddogaeth fydd darparu asesiadau anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar ffurf trafodaeth â’r myfyrwyr ynglŷn ag effeithiau eu hamhariad, gofynion eu cwrs, a’u ffordd o weithio.
Mae’r swyddi hyn yn amodol ar gliriad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd ym Mangor ac yn ddymunol ar gyfer y swydd yn Aberystwyth.
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau gynted ag sy’n bosib, ac mae’r swyddi ar gael ar hyn o bryd tan 31 Gorffennaf 2023. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swyddi hyn ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at yr oriau a hysbysebir.
Lleolir y swyddi hyn ar y campws ym Mangor ac Aberystwyth. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Medi, 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aseswr Anghenion Astudio
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Aseswr Anghenion Astudio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser uchod am gyfnod penodol yn gweithio i Ganolfan Asesu Prifysgol Bangor, yng Nghanolfan Allgymorth Prifysgol Aberystwyth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfwerth a’i brif swyddogaeth fydd darparu asesiadau anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar ffurf trafodaeth â’r myfyrwyr ynglŷn ag effeithiau eu hamhariad, gofynion eu cwrs, a’u ffordd o weithio. O ganlyniad, ceir argymhellion ar gyfer cefnogaeth briodol sydd fel arfer yn gyfuniad o gefnogaeth ddynol, meddalwedd cynorthwyol a chaledwedd, ynghyd â’r addasiadau rhesymol y gallai sefydliad addysg uwch y myfyriwr eu gwneud. Bydd y swyddog yn egluro’r cymorth y gall y myfyriwr ei gael, neu’n rhoi arddangosiad yn achos technoleg gynorthwyol, ac yn ei drafod â’r myfyriwr. Nodir y drafodaeth, yr argymhellion a’r cyfiawnhad mewn adroddiad, a anfonir i gorff cyllido’r myfyriwr sydd, yn y pen draw, â’r cyfrifoldeb dros benderfynu pa gymorth y dylid talu amdano trwy’r Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 1 Awst 2022 ac mae’r swydd ar gael ar hyn o bryd tan 31 Gorffennaf 2023. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail ran-amser neu rannu swydd hyd at yr oriau a hysbysebir.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin, 2022.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Dylan Griffiths, Rheolwr y Ganolfan Asesu, ffôn: 01248 383797, e-bost: [email protected]
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.