Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Etholaeth
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Etholaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n chwilio am swydd ddiddorol ac amrywiol, ble galli di wneud gwahaniaeth i fywyd pobol Ceredigion?
Mae Elin Jones AS yn chwilio am aelod o staff i ymuno â thîm gweithgar ei Swyddfa Etholaeth yng Ngheredigion. Bydd y swydd yn cynnwys siarad gydag etholwyr y sir, i'w helpu i ddatrys problemau a chyflawni prosiectau. Mae pob diwrnod yn amrywiol, a bydd cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o'r gymdeithas sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar systemau a gwaith y swyddfa, ac rydym yn barod iawn i drafod gweithio'n hyblyg, rhannu swydd, a gweithio yn rhannol o gartref.
*Noder os gwelwch yn dda taw swydd tymor benodol 1 blwyddyn yw hon.
Disgrifiad: Prif rôl y Swyddog Etholaeth fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Cyflog
💰 £27,450-£38,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Reolwr Prosiect – Ymlaen Gyda’r Dysgu – E-sgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau adolygu ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu’r gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol. Prosiect cyffrous arall sydd ar y gweill yw gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i geisio gwireddu nod Llywodraeth Cymru o gynnig gwersi Cymraeg am ddim i bobol ifanc 16-18 oed ar draws Cymru gyfan.
Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gydlynu’r prosiect newydd hwn trwy fod yn gyswllt cyson gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, yr ysgolion a’r tiwtoriaid Cymraeg yn ogystal â marchnata’r prosiect yn genedlaethol. Dewch i ymuno â thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn arwain ar brosiect newydd a chyffrous.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Gweithio Hybrid: Gall yr ymgeisydd llwyddiannus, yn amodol ar fodloni ein gofynion sylfaenol o ran band eang, gweithle a diogelwch gwybodaeth, ddewis a yw’n gweithio gartref neu yn ei leoliad gwaith dan gontract.
Dyddiad cyfweliad: 18/11/2022
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol mae croeso i chi gysylltu gyda Llifon Ellis, Pennaeth e-sgol, ar: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Cyflog
💰 £29,174 - £30,984 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yma yn cynnwys:
Croesawu etholwyr/ymwelwyr i’r swyddfa, ateb y ffôn, cymryd negeseuon, gwneud apwyntiadau ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
Ymateb i negeseuon ebost ac ymholiadau tebyg yn broffesiynol gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
Cynorthwyo i baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol.
Cynorthwyo’r Uwch Gynghorydd yn ôl y galw, gan gynnwys helpu i weinyddu’r system achosion ar-lein ac i gynnal y gwaith achos
Cynorthwyo’r Rheolwr Ymchwil a Chyfathrebu drwy ddrafftio datganiadau ac erthyglau i’r wasg yn ôl y galw, a monitro cynnwys y papurau newydd lleol.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o brosesu a chofnodi gwariant y Swyddfa
Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal cyfleusterau’r swyddfa, gan gynnwys sicrhau trefniadau cynnal y cyfleusterau ac archebu offer/nwyddau’r swyddfa
Mynychu cymorthfeydd yn ôl y galw, gan ddelio gydag unrhyw faterion sy’n codi
Cyflog
💰 £21,225 - £28,624 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.