Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant
Mae TIAA Ltd yn edrych am Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ein tîm archwilio mewnol wedi'i sefydlu ers dros 20 mlynedd ac mae'n ganolog i'r gwasanaeth gofalgar a gynigiwn i'n cleientiaid. Ni anghofiwn mai pobl go iawn - cleifion, myfyrwyr, tenantiaid, neu gwsmeriaid sydd wrth wraidd unrhyw archwiliad a thu ôl i'r holl ffigurau a thaenlenni. O’r herwydd, mae ein timau’n cael eu hannog i ddod â’u hunain yn gyflawn i’r gwaith. Gweithredu gydag uniondeb a dealltwriaeth, a defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i wella bywydau pobl. Y rôl A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn Prentisiaeth? Neu a fyddai'n well gennych rywbeth mwy mewnol? Mae gennym opsiynau ar gyfer y ddau fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich dewis o lwybr gyrfa yn berffaith. Defnyddir Archwilio Mewnol gan ein cleientiaid i'w helpu i gynnal fframwaith llywodraethu a rheoli risg cryf. Mae'n helpu i ganfod risgiau gweithredol ac yn arwain at gryfhau a thyfu busnesau. Os ydych chi eisiau gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid, mae’n bosib nad dyma'r rôl i chi, fodd bynnag, os oes gennych chi feddwl dadansoddol ac rydych am fod yn rhan bwysig wrth helpu busnesau eraill i lwyddo yna gallai hyn fod yn berffaith i chi! Fel Archwilydd Mewnol dan Hyfforddiant, byddwch yn cefnogi eich tîm i gynnal adolygiadau archwilio mewnol ar gyfer ystod eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Bwriad yr adolygiadau a gynhelir yw gweld a yw'r prosesau'n gweithredu yn ôl y bwriad ac i ganfod cyfleoedd i weithredu'n fwy effeithiol. Fel Hyfforddai, byddwn yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ennill eich cymwysterau proffesiynol a llwyddo yn eich gyrfa. Mae'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen o fewn y cwmni yn ddiddiwedd. Am hynny, gofynnwn am unigolyn brwdfrydig, gweithgar sy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n cleientiaid. Gofynion:
Byddwn yn rhoi'r arfau sydd eu hangen arnoch i lwyddo fel Archwilydd Mewnol. Waeth beth fo'ch cefndir, dyfnder eich profiad, neu lefel addysg, rydym yn awyddus i archwilio eich addasrwydd gyda TIAA Ltd. Y cyfan a ofynnwn yw bod gennych y meddylfryd cywir a diddordeb cryf ym myd Archwilio Mewnol. Yr elfennau allweddol sydd gan ein Harchwilwyr Mewnol yw:
Sgiliau ysgrifennu cryf.
Meddwl dadansoddol.
Gallu rhagorol i roi sylw i fanylion.
Sgiliau ardderchog o ran cadw at derfynau amser a threfnu.
Y gallu i ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office.
Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Cymhwysedd i fyw a gweithio yn y DU.
Byddai o fudd cael trwydded yrru lawn y DU. Gallai hefyd fod angen aros oddi cartref o bryd i'w gilydd oherwydd lleoliad daearyddol y cleientiaid. Pam ymuno â TIAA Ltd:
Cyflog cychwynnol o £21,200.
30 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc.
Cynllun hyfforddi wedi'i gefnogi'n llawn, sy'n eich galluogi i ennill eich cymhwyster IIA
Opsiynau gweithio o bell a hybrid.
Oriau hyblyg sy'n caniatáu’r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith
Cynllun aberthu cyflog ar gyfer car trydan/hybrid
Prosesau arfarnu rheolaidd gyda chyfleoedd diderfyn o ran camu ymlaen yn eich gyrfa.
Mentrau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad yn y byd gweithio o bell.
Mae gennym ymrwymiad i lwyddo yn hytrach na chyfundrefn a yrrir gan dargedau absoliwt, ac rydym yn gofalu am bob un o’n harbenigwyr unigol ac yno iddynt i gynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant. Rydym yn credu mewn rhoi'r annibyniaeth a'r gydnabyddiaeth i chi ysgogi eich llwyddiant eich hun. P’un a ydych newydd ddechrau ar eich gyrfa neu os oes gennych y profiad i reoli eich maes gwaith eich hun yn hyderus, rydym am eich helpu i wireddu’ch potensial oherwydd rydym yma i’ch gwarchod. Sut i wneud cais:
I ddod yn Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol trwy glicio ar 'Apply Now!', neu mae croeso i chi anfon e-bost at Claire yn [email protected].
Cyflog
💰 £21,200
Lleoliad
📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.