Swyddi Cymraeg — Ar-lein
3 swydd yn cyfateb
Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol – Aelodau Annibynnol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol – Aelodau Annibynnol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (Cyngor y Celfyddydau) yn cydnabod taw ei staff yw ei ased pwysicaf. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol i’w gynorthwyo i gyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â staff, ac yn benodol ar faterion recriwtio, cadw a rheoli staff; am dâl ac amodau gwasanaeth wrth ddiwallu anghenion llywodraethu’r Cyngor a’r Swyddog Cyfrifo ar gyfer y sefydliad; ac er mwyn sicrhau ei fod yn cyfrannu’n effeithiol at gyflawni nod strategol ac anghenion busnes y Cyngor.
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol hefyd am bennu a monitro targedau perfformiad blynyddol y Prif Weithredwr, ac am gyflwyno argymhellion i’r Cyngor am gydnabyddiaeth ariannol flynyddol y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd yn amodol ar gyfyngiadau a sêl bendith Llywodraeth Cymru. Mae manylion pellach am ein gwaith yn y maes yma, gan gynnwys Cylch Gorchwyl llawn y Pwyllgor, ar ein gwefan.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn fel rheol, er y gellir gofyn i aelodau fynychu cyfarfodydd ychwanegol os oes angen. Am resymau amgylcheddol, cynhelir y cyfarfodydd ar lein fel rheol. Cynhelir cyfarfodydd yn ystod oriau swyddfa arferol fel rheol. Nid oes tâl am gyflawni’r rôl, ond telir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol.
Amdanoch chi
Mae diddordeb gennym glywed gennych os:
- ydych chi’n gweithio ym maes AD neu â chefndir ym maes AD
- ydych chi’n gweithio ym maes y gyfraith gyflogaeth neu â chefndir yn y maes gwaith yma
- oes gennych brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a’ch bod yn deall y materion sy’n wynebu sefydliadau’r sector cyhoeddus
- oes gennych brofiad o ddatblygu a chyflawni cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- oes gennych brofiad o weithio mewn lleoliad dwyieithog
Byddai dealltwriaeth am fyd celfyddydol a diwylliannol unigryw Cymru’n fanteisiol.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y ddogfen ‘Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol - Gwybodaeth Bellach’.
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, dylid cyflwyno CV a llythyr esboniadol byr (dim mwy na dwy ochr A4) sy’n ymdrin â gofynion y rôl, ynghyd â manylion cyswllt dau eiriolwr a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. I gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel ar ffurf nodyn llais neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig, cysylltwch â ni am gyfarwyddiadau.
Anfonwch eich cais erbyn 12:00pm (canol dydd) ar ddydd Mercher, 12 Hydref 2022.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyflogwr cynhwysol sydd am adlewyrchu’r cymunedau amrywiol a wasanaethwn. Anogir ceisiadau gan bobl o amrywiaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig a grwpiau a dangynrychiolir, ac fe’u croesewir yn wresog. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn ni’n gohebu â chi yn iaith eich dewis. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael eu dethol ar gyfer swyddi’n llwyr seiliedig ar eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.
Cyflog
💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol
Lleoliad
📍 Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Tiwtor Cysylltiol Cymraeg i Oedolion yn uned Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA), o fewn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae cyfle i benodi hyd at bump unigolyn. Darperir cytundeb hyd at 31 Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Disgrifiad:
Gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith, a hefyd hybu astudio’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant cysylltiedig fel disgyblaeth academaidd benodol. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd hyd at 31 Gorffennaf 2023. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtoriaid fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial. Bydd angen i ymgeiswyr amlygu’r gallu i gyd-weithio’n adeiladol a rhagweithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
Cyflog
💰 £28.72 - £31.48 yr awr
Lleoliad
📍 Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae’r swydd yn gytundeb cyfnod penodedig hyd at 31 Gorffennaf 2023 dros gyfnod mamolaeth.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Disgrifiad:
Bydd disgwyl i’r Tiwtor ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) yn ystod y dydd a chyda’r nos o fewn rhaglen DCABA. Mae’n debygol y bydd pen trymaf yr addysgu yn digwydd ar-lein (o bell), ond bydd disgwyl hefyd i allu addysgu yn un, neu ragor, o’r ardaloedd lleol sydd o fewn dalgylch siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gyfrannu at y gwaith o gefnogi dysgwyr mewn digwyddiadau dysgu anffurfiol ac i hyrwyddo’r cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl. Bydd disgwyl i’r Tiwtor gydweithio'n agos ac yn effeithiol fel rhan o dîm eang o gydweithwyr, gan gynnwys cyfathrebu’n rheolaidd â thiwtoriaid eraill, gweinyddwyr a swyddogion arweiniol.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtor fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial.
Cyflog
💰 £31,411
Lleoliad
📍 Abertawe, Ar-lein, Yn y gymuned
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.