Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Tiwtor Cysylltiol Cymraeg i Oedolion yn uned Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA), o fewn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae cyfle i benodi hyd at bump unigolyn. Darperir cytundeb hyd at 31 Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Disgrifiad:
Gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith, a hefyd hybu astudio’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant cysylltiedig fel disgyblaeth academaidd benodol. Mae'r swydd hon yn gofyn am gyflwyno addysgu o ansawdd uchel ac ymrwymiad i sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd hyd at 31 Gorffennaf 2023. Bydd disgwyl i Diwtor Cysylltiol ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) o fewn rhaglen DCABA. Mae’n bosib hefyd y bydd cyflëon i gyflwyno dosbarthiadau y tu allan i’r ffiniau rhanbarthol yng nghyd-destun darpariaeth yn y gweithle. Bydd cyfrifoldeb ar Diwtoriaid Cysylltiol i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtoriaid fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial. Bydd angen i ymgeiswyr amlygu’r gallu i gyd-weithio’n adeiladol a rhagweithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
Cyflog
💰 £28.72 - £31.48 yr awr
Lleoliad
📍 Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Diwtor Dysgu Cymraeg (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae’r swydd yn gytundeb cyfnod penodedig hyd at 31 Gorffennaf 2023 dros gyfnod mamolaeth.
Mae DCABA yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o wahanol fathau o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl. Mae cyrsiau Croeso i Bawb, cyrsiau Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau a ddarperir mewn gweithleoedd hefyd yn rhan o’n darpariaeth. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rhain yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae mwy o ddarpariaeth arlein yn digwydd yn gynyddol erbyn hyn drwy dechnoleg fideogynadledda.
Disgrifiad:
Bydd disgwyl i’r Tiwtor ddysgu ar ystod o gyrsiau (ffurfiol ac anffurfiol) yn ystod y dydd a chyda’r nos o fewn rhaglen DCABA. Mae’n debygol y bydd pen trymaf yr addysgu yn digwydd ar-lein (o bell), ond bydd disgwyl hefyd i allu addysgu yn un, neu ragor, o’r ardaloedd lleol sydd o fewn dalgylch siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gyfrannu at y gwaith o gefnogi dysgwyr mewn digwyddiadau dysgu anffurfiol ac i hyrwyddo’r cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg. Bydd cyfrifoldeb ar y Tiwtor i gefnogi hefyd weithgaredd rhai o Ganolfannau Cymraeg yr ardal er mwyn darparu amgylchedd groesawgar a naturiol Gymraeg i ddysgwyr fydd yn cefnogi eu datblygiad i fod yn siaradwyr rhugl. Bydd disgwyl i’r Tiwtor gydweithio'n agos ac yn effeithiol fel rhan o dîm eang o gydweithwyr, gan gynnwys cyfathrebu’n rheolaidd â thiwtoriaid eraill, gweinyddwyr a swyddogion arweiniol.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu gyfatebol a rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd profiad o ddysgu’r Gymraeg i Oedolion ar draws yr ystod o lefelau i safon uchel, a’r gallu i adnabod anghenion addysgol dysgwyr a darpar-ddysgwyr y Gymraeg, yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am diwtor fydd yn ymdrechu i wneud y profiad o ddysgu Cymraeg yn un hwylus a hwyliog, ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial.
Cyflog
💰 £31,411
Lleoliad
📍 Abertawe, Ar-lein, Yn y gymuned
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.