Swyddi Cymraeg — Ariannin
1 swydd yn cyfateb
Athrawon/Tiwtoriaid y Gymraeg ym Mhatagonia
Mae British Council Cymru yn edrych am Athrawon/Tiwtoriaid y Gymraeg ym Mhatagonia
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cydweithio gydag athrawon â thiwtoriaid er mwyn darparu addysgu deinamig a chynorthwyo wrth baratoi deunyddiau at ddefnydd y dosbarth yn ol anghenion lleol. Rhannu arfer gyfoes ym myd addysg o Gymru gydag athrawon yn y Wladfa er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg fel ail iaith. Cyfrannu at ddatblygiad y cwricwlwm Cymraeg yn yr ysgolion wrth ystyried eu hanghenion unigryw. Cydweithio gyda thiwtoriaid/athrawon er mwyn datblygu eu sgiliau proffesiynol a gwella eu sgiliau iaith. Bod ar gael i athrawon/tiwtoriaid holi ynglyn â materion sydd ynghlwm wrth ddysgu Cymraeg Ail Iaith. Creu dolenni rhwng ysgolion/asiantaethau yng Nghymru a’r Ariannin. Hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn y cymunedau lleol trwy drefnu gweithgareddau cymdeithasol a thrwy fynychu digwyddiadau a gwyliau diwylliannol (e.e. sermeoniau, eisteddfodau). eisteddfodau) Hyrwyddo gwaith y Cynllun yn yr ysgolion a’r dosbarthiadau trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Bod yn weladwy o fewn y cymunedau Cymreig fel cynrychiolydd o Gymru. Unrhyw ddyletswyddau pellach o fewn ffiniau rhesymol sydd yn rhan o’r ddarpariaeth Gymraeg yn y Wladfa.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd Patagonia 2024
Cyflog
💰 £750
Lleoliad
📍 Ariannin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.