Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Pennaeth Cyfathrebu
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o'r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy'n ddeniadol ac yn hygyrch.
Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae'r Pennaeth hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy'n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.
Amdanoch chi
Mae gennych gymhwyster perthnasol a/neu brofiad proffesiynol sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a phrofiad o lunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu. Bydd gennych yr awdurdod personol i weithredu'n gredadwy ar lefel uchel mewn materion cyhoeddus ar gyfer corff cyhoeddus cenedlaethol, a'r hyblygrwydd i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a Saesneg – er mwyn cynnal perthnasoedd effeithiol ar lefelau uwch yn fewnol ac yn allanol – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Sut i ymgeisio
Dewiswch y botwm ymgeisio a ddangosir i gyflwyno Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, megis nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Mawrth 28ain Chwefror 2023
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22ain Mawrth 2023
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £49,089 - £54,375 pro rata
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd, Bae Colwyn, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.