Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Prif Weithredwr
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i arwain a rheoli sefydliad cenedlaethol a helpu i ddatblygu proffesiwn sy’n hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg.
Os oes gennych chi
- y weledigaeth i ddatblygu’r Gymdeithas ar lefel strategol
- y fenter i gyfrannu at broffesiwn sy’n tyfu a hynny mewn cyfnod o newid
- y brwdfrydedd i hyrwyddo’r diwydiant a bod yn llais cryf a dylanwadol yn y byd cyfieithu
- sgiliau cyfathrebu da
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
I gael pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr neu i gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Geraint ar [email protected] neu 07872 102944.
Dyddiad cau: dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022, am 1pm.
Cyflog
💰 £32,000 - £36,000
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle unigryw i arwain a rheoli’r Gymdeithas, ac i gynnig gweledigaeth a chyfeiriad strategol i’w gwaith.
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dymuno penodi Prif Weithredwr newydd wrth i ddeiliad presennol y swydd ymddeol ddiwedd Medi 2022.
Mae hwn yn gyfle unigryw i unigolyn deinamig a chreadigol a all feddwl yn strategol i arwain a datblygu’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol Cymraeg <> Saesneg trwy adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod y 46 mlynedd diwethaf.
Prif gyfrifoldebau’r swydd yw:
- arwain a rheoli’r Gymdeithas, cynnig gweledigaeth at y dyfodol, a gosod cyfeiriad strategol i’w gwaith er mwyn sicrhau ffyniant a datblygiad y Gymdeithas.
- arwain ac ysbrydoli staff cyflogedig y Gymdeithas, a’r aelodau hynny sy’n cyflawni tasgau ar ran y Gymdeithas, gan sicrhau bod gan y Gymdeithas dîm o weithwyr sy’n gweithio’n effeithiol i gyflawni ei nod ac amcanion.
- sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol yn unol â chyfansoddiad y Gymdeithas trwy roi arweiniad, cyngor a chefnogaeth i Fwrdd y Cyfarwyddwyr, y byrddau a phwyllgorau eraill ar faterion a datblygiadau pwysig ym maes cyfieithu a dwyieithrwydd.
- cynrychioli’r Gymdeithas ar bwyllgorau perthnasol.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw dydd Iau, 16 Mehefin 2022, cyn 1yp.
Cyflog
💰 £32,000 - £36,000
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Brif Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yw’r prif fudiad sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Wedi’i sefydlu ym 1991, daeth y mudiad yn elusen gofrestredig ym 1997, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ganolog i bopeth a wna.
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i wynebu heriau di-ri, ac mae mwy o lawer y medrir ei wneud o hyd i wella a chefnogi eu bywydau ymhellach.
Ydych chi’n barod am yr her hon?
Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar [email protected] i ofyn am becyn swydd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 6 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £38,052 - £43,757
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.