Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gryfhau a datblygu ei safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol ym meysydd cynllunio iaith, gweinyddiaeth ddwyieithog a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio ar draws y Brifysgol a chynorthwyo i sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol a’i cholegau academaidd yn gweithredu Polisi iaith y Brifysgol a gwireddu amcanion Strategaeth y Gymraeg. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd medrau dwyieithog ym maes cyflogaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd berthnasol ynghyd â dealltwriaeth dda o egwyddorion cynllunio iaith a’r modd y mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu gweithredu o fewn sefydliadau. Bydd ganddo/i ddealltwriaeth gadarn hefyd o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg uwch ac yng nghyd-destun cyflogadwyedd.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol).
Trwy ein fframwaith Gweithio'n Ddeinamig, bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, a fydd yn cael ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mawrth neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.
Mae hon yn swydd barhaol.
Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu (01248 388697; [email protected]).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023.
Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.