Mae Adra yn edrych am Ddadansoddwr / Datblygwr Data Systemau Busnes Graddedig TGch
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r Tîm Cefnogi Busnes i weithredu, cefnogi, cynnal, cadw, a datblygu systemau busnes Adra mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, a datblygu systemau busnes Adra.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn arbenigo mewn data, dadansoddeg a gwybodaeth busnes.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.