Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych am Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson uchel ei gymhelliant sy'n angerddol am iechyd y cyhoedd ac sy'n chwaraewr tîm. Gyda Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol yn y gwaith ym maes Iechyd y Cyhoedd, byddwch yn gweithio o fewn meysydd blaenoriaeth gyfredol y tîm a allai gynnwys: Lles Meddyliol, Iechyd Gwyrdd, Mannau Iach a Dechrau Gorau.
Yn y tymor hir, bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn swyddfa Bangor ac yn y tymor byr trefniant hybrid gan gynnwys gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu a dylanwadu ar yr agenda iechyd cyhoeddus a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau; bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws cymunedau ac asiantaethau i wella iechyd poblogaeth Gogledd Cymru.
Gan gefnogi gwaith tîm Iechyd y Cyhoedd, bydd deiliad y swydd yn gweithio i set o amcanion y cytunwyd arnynt a bydd yn cael cefnogaeth uniongyrchol gan ei reolwr llinell.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn rôl Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn nhîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am arwain gwaith ar draws yr Ardal Gorllewin (Ynys Mon a Gwynedd) yn ogystal â gweithio’n rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru ar brosiectau neu raglenni o fewn y cynllun gwaith blynyddol; mae’r blaenoriaethau cyfredol yn cynnwys Lles Meddyliol, Iechyd Gwyrdd, Mannau Iach a Dechrau Gorau.
Mae proffil poblogaeth yr ardal yn effeithio ar ehangder a chymhlethdod y gwaith a wneir gan y tîm fel yr amlinellir ym mlaenoriaethau strategol a gweithredol Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio, gweithredu ac arfarnu ystod o raglenni iechyd y cyhoedd sy’n hybu iechyd a lles ar draws sectorau yn unol â strategaethau lleol a chenedlaethol y cytunwyd arnynt.
Mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda grwpiau targed penodol mewn amrywiaeth o leoliadau, mewn partneriaeth â chymunedau lleol a sefydliadau partner. Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar ddatblygu rhaglenni hybu iechyd/iechyd y cyhoedd ac yn cefnogi cynlluniau a dulliau datblygu iechyd cymunedol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £40,057 - £45,839 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.