Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata a Recriwtio'r Coleg
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Marchnata a Recriwtio'r Coleg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd lawn-amser barhaol yn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Cyfathrebu a Recriwtio.
Gan adrodd i Gyfarwyddwr Recriwtio a Derbyniadau yn y Deyrnas Unedig, bydd Rheolwr Marchnata a Recriwtio y Coleg yn cydlynu gwaith recriwtio a derbyniadau yn y Coleg. Mewn ymgynghoriad â Rheolwr y Coleg, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at lunio amcanion recriwtio a marchnata’r Coleg, yn strategol ac yn weithredol, trwy sicrhau bod gweithgareddau’r coleg yn cael eu cynllunio a’u gweithredu ar y cyd â Timau Recriwtio a Marchnata a Rhyngwladol y DU ac yn cael eu cefnogi ganddynt. Bydd deiliad y swydd yn datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol ac allweddol gyda thimau canolog (h.y. Recriwtio Ysgolion y DU, Recriwtio Rhyngwladol, Marchnata Canolog, Derbyniadau, Partneriaethau Rhyngwladol, Cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr, Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth, Ymchwil, Cefnogi Myfyrwyr), a bydd yn adrodd ar hyn i Reolwr y Coleg.
Dylai’r ymgeiswyr feddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) gyda phrofiad a gwybodaeth fanwl am sut i ddarparu marchnata recriwtio llwyddiannus mewn sefydliad Addysg Uwch mawr a chymhleth a hanes helaeth o arwain, cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr o'r radd flaenaf.
Rydym yn chwilio am feddyliwr creadigol gyda galluoedd arwain cryf. Bydd gallu adeiladu cysylltiadau a phartneriaethau cydweithredol ledled y sefydliad ac yn allanol yn hanfodol.
Mae y swydd yn cefnogi’r Coleg Gwyddorau Dynol sy'n cynnwys yr Ysgol Gwyddorau Addysgol, yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd a'r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd hon mor fuan â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg, neu ddangos ymrwymiad i ddysgu’r iaith hyd at lefel benodedig, yn hanfodol i’r swydd hon.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond mewn achosion lle ceir trafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 11 Gorffennaf, 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Marchnata dan hyfforddiant
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Diwtor Marchnata dan hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n berson sydd:
â diddordeb mewn pobl? yn llawn syniadau creadigol? â’r gallu i ysbrydoli eraill? eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu?
Os felly, ymgeisia am swydd Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO).
Mae DCGO yn un o 11 darparwr cyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghymru dan nawdd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn cyflogi dros 70 o staff. Gyda 50 mlynedd o brofiad yn y maes a bron i 2000 o ddysgwyr, mae DCGO wedi derbyn y farn ‘Rhagorol’ gan Estyn gan gadarnhau ei statws fel y darparwr mwyaf ac uchaf ei safon trwy Gymru gyfan.
Swydd dan Hyfforddiant
Os wyt ti’n awyddus i ennill amrywiaeth o brofiadau ym myd gwaith ac eisiau dechrau meithrin arbenigedd ym maes marchnata, addysg oedolion a chynllunio iaith, dyma’r swydd berffaith i ti.
Fel Tiwtor Marchnata dan Hyfforddiant byddi’n cydweithio â’r Tiwtor Marchnata presennol ar ymgyrch farchnata’r haf; gwaith allweddol o bwysig er mwyn denu dysgwyr newydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Byddi’n cael pob cefnogaeth i gwblhau hyfforddiant marchnata a TG a ddarperir i staff y brifysgol.
Cyn dechrau dysgu, byddi’n cael y cyfle i astudio Tystysgrif Lefel 4 CBAC i Diwtoriaid Dysgu Cymraeg, a thrwy hynny, yn cael mewnwelediad gwerthfawr i ddulliau dysgu ac addysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â’r hyfforddiant, byddi’n dod yn rhan o’n cymuned glòs o diwtoriaid ac yn cael mentor a fydd wrth law i dy gefnogi yn ystod dy dymor cyntaf yn y dosbarth.
Bwriad y swydd yw rhoi'r cyfle hyfforddiant, i gefnogi unigolyn i ddatblygu'r profiad a sgiliau fydd yna yn cynnig sylfaen iddynt ystyried cyfleoedd bellach yn y maes. Er hyn bydd y swydd am gyfnod penodol yn unig. Mae’r swydd yn un llawn amser ac mae ar gael hyd at 31 Gorffennaf 2023, a bydd y lleoliad gwaith i’w gytuno arno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r brifysgol yn gweithredu dull hybrid o weithio ar hyn o bryd.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddechrau cyn gynted â phosib ar ôl 31 Mai 2021.
Dylai ymgeiswyr fod gyda 2 Lefel Uwch Gyfrannol neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol, neu brofiad cyfatebol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn Hanfodol i'r swydd hon.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Mehefin 2022.
Bydd cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu cynnal ym Mangor dydd Mercher 15/6/22.
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chefnogi
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata a Chefnogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.