Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Rheolwr Rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Cymru
Mae Y Rhwydwaith Maethu yn edrych am Reolwr Rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl, Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn ymagwedd arloesol tuag at gynorthwyo teuluoedd ar ffiniau gofal, sy’n dangos gostyngiad yn niferoedd y plant a ddaw i ofal, a gwell deilliannau i blant a theuluoedd. Wrth ei chraidd y mae gofalwyr maeth arbenigol, sydd wedi’u hyfforddi’n dda i roi cymorth i deuluoedd, sy’n darparu cymorth ataliol, â therfyn amser arno i hyd at bedwar o deuluoedd ar unrhyw adeg benodol.
Bydd y Rheolwr Rhaglen yn rheoli’r gorchwyl o weithredu a datblygu’n barhaus y rhaglen Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Nghymru. Yn gychwynnol, fe’i lleolir mewn dau awdurdod lleol, gan weithio’n gydweithredol â’r gwasanaethau i wreiddio’r model Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl. Bydd y Rheolwr Rhaglen yn cynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol ar gyfer y rhaglen ac yn darparu rheolaeth linell i’r ddau swyddog arweiniol sy’n cyflenwi Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl.
**Amdanoch Chi **
Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros wella bywydau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc. Mae arnom angen ichi fod wedi cael profiad o reoli rhaglenni, o arwain timau, ac o weithio’n gydweithredol â sefydliadau sy’n bartneriaid. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i weithio o fewn sefyllfa a hysbysir gan drawma, gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau. Mae’r rôl hon drwy Gymru gyfan, rydym yn cynnig gweithio cymysg neu hybrid ac mae gennym swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd pan fo angen, yn ogystal â mynychu digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru. Fel sefydliad, rydym wedi’n hymrwymo i gefnogi gweithio hyblyg. Hysbysebir y swydd hon fel swydd amser llawn ond rydym yn agored i geisiadau gan unigolion fyddai’n hoffi gweithio fel rhan o drefniant rhannu swydd. Dynodwch yn eich cais, os gwelwch yn dda, a hoffech gael eich ystyried fel rhan o drefniant rhannu swydd. Dyddiad cau: Dydd Llun, y 6ed o Fawrth am 9.00yb
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mawrth, y 14eg neu ddydd Mercher, y 15fed o Fawrth
Lleoliad y Cyfweliad: Yn bersonol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Cyflog
💰 £36,000 - £40,000
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academi Sgrîn
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Academi Sgrîn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd dros dro llawn amser uchod yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Bangor i’n helpu i adeiladu darpariaeth unigryw, ddwyieithog gydag Academi Sgrîn Gogledd Cymru – menter gydweithredol iawn sydd â’r nod o hybu cyfleoedd rhanbarthol i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle yn stiwdios cynhyrchu ffilm a theledu yng Cymru. Mae’r fenter hon yn torri tir newydd. Mae’n gofyn am ddull pragmatig ac ar sail gwerth o weithio gyda diwydiant, Addysg Uwch, Addysg Bellach ac ysgolion yng Ngogledd Cymru.
Mae Academi Sgrîn Gogledd Cymru yn rhan o rwydwaith newydd sbon o Academïau Sgrîn sydd wedi’u lleoli mewn prifysgolion a stiwdios ledled Cymru. Bydd academi gogledd Cymru yn canolbwyntio'n arbennig ar hybu sgiliau a chyfleoedd mewn cynhyrchu dwyieithog yn y stiwdio.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg i lefel gradd, neu brofiad proffesiynol cyfatebol, a bydd yn datblygu ac yn helpu i gyflwyno cynllun busnes cydweithredol a darparu rheolaeth effeithiol o ddydd i ddydd ar gyfer Academi Sgrîn Gogledd Cymru Prifysgol Bangor yn Stiwdios Aria, Llangefni (www.ariafilmstudios.com). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo Academi Sgrîn fel adnodd a rennir, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i gyrsiau Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor a chyrsiau partneriaid addysgol eraill gan gynnwys Colegau Addysg Bellach a Chynghrair Sgrîn Cymru wrth iddynt geisio cael mynediad at y cyfleusterau newydd hyn ac ymgysylltu â nhw.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o gynhyrchu ffilm a theledu a phrofiad o reoli projectau a chyllidebau. Mae sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl.
Gwnaed y swydd hon yn bosibl gan gefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r gofyniad am wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Bydd y swydd hon ar gampws Bangor, a disgwylir y treulir amser yn rheolaidd yn Stiwdios Aria. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 17 Chwefror 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i reoli’r tîm Addysg Bellach a Phrentisiaethau a rheoli’r prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr er mwyn gweithredu’r strategaeth ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli tîm a phrosiectau amrywiol.
Cyflog
💰 £44,737 – £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiectau Gwella Busnes
Mae Adra yn edrych am Reolwr Prosiectau Gwella Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni nifer o brosiectau newid a gwella’r busnes a fydd yn helpu’r cwmni i gyflawni’r blaenoriaethau allweddol y cytunwyd arnynt yng nghynllun corfforaethol y busnes.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 09/06/22
Cyflog
💰 £37,823 - £41,166
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.