Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Am gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Penrhyn, ac am rôl bwysig yn ein portffolio; rôl a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dyfodol. Yn gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli a chreu cyfleoedd i gyd-greu gyda chymunedau, byddwch yn gweithio gydag eraill i gyflwyno cyfleoedd cyfranogi perthnasol a chyffrous.
Bydd y rôl yn ceisio rhannu stori lawn Penrhyn ac yn dygymod â gwirionedd hanes sy’n seiliedig ar ecsbloetiaeth ddynol yn Jamaica, yn ogystal ag yma ar garreg y drws y castell ym Methesda.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog, a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho gyda’ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando a Deall, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu ar o leiaf lefel 3-4. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais, a gellir darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau Cymraeg.
Dylech hefyd gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi pam eich bod yn gwneud cais a pha sgiliau unigryw y credwch y gallwch eu cyflwyno i'r rôl.
Dyddiadau cyfweld: 22 a 23 Medi. Sut brofiad yw gweithio yma?
Wrth gyflwyno profiad yr ymwelwyr, byddwch yn ymuno â thîm gweithredol brwdfrydig ac ymroddgar o staff a gwirfoddolwyr, yn gweithio ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo.
Mae Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth ger Bangor, gyda gardd restredig Gradd II ffurfiol, a thir parc gyda golygfeydd anhygoel o Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Mae'n lle cymhleth; mae ymdeimlad hwyliog, rhydd a thawel yr ardd yn gyferbyniad llwyr i'r cefndir gothig o orthrwm ac ecsbloetiaeth sydd wedi talu am fawredd a godidowgrwydd Fictoraidd ar raddfa mor eang.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo. Yn rheoli ac ymgorffori newid wrth ehangu ac ymestyn ein perthynas â chynulleidfaoedd hen a newydd. Cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu stori lawn Castell Penrhyn mewn modd gonest ac agored, wrth ddygymod â'r hyn yr oedd yn ei gynrychioli ar un adeg, a'i effaith a'i ddylanwad, yn lleol ac yn fyd-eang. Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a chymunedau, wrth gadw amcan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn magu hyder a gallu eraill wrth gyd-greu amgylchedd cydweithredol, hyblyg a chynhwysol ar gyfer partneriaid, cymunedau a gwirfoddolwyr hen a newydd.
Am bwy ydym yn chwilio?
Rhywun sy'n meddu ar y canlynol:
- dealltwriaeth o arfer da mewn perthynas â chyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â gwaith partner a chyfranogiad ehangach
- y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned
- dealltwriaeth o arfer da o safbwynt rheoli gwirfoddolwyr
- profiad llwyddiannus ac ymarferol o ddatblygu a gweithredu agweddau a chynnyrch newydd sy'n ymwneud â gwirfoddoli
- sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- y gallu i hyfforddi a chefnogi rheolwyr gwirfoddolwyr
- sgiliau cyfathrebu cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Y Pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Profiad Ymwelwyr
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Profiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a brwdfrydig, sydd wrth ei fodd yn rhyngweithio ag eraill, ymuno â'n tîm cyfeillgar yng Nghastell a Gardd Penrhyn. Os ydych ch'n frwd dros natur a chyflwyno profiadau cofiadwy a rhagorol i'n hymwelwyr, dyma'r swydd i chi.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a threfnus i reoli rhaglen o ddigwyddiadau tymhorol i ymwelwyr, o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r rôl hon yn gofyn am gysylltiadau gwaith da o fewn tîm a dyhead, arloesedd a'r gallu i gynllunio gwaith a goruchwylio staff a gwirfoddolwyr.
Mae patrymau shifftiau’n cynnwys gwaith ar benwythnosau/gwyliau banc o bryd i'w gilydd, ac yn gofyn ichi ymgymryd ag ychydig o ddyletswyddau rheoli. Mae'r cyfle hwn dros 12 mis yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu ei brofiad o fewn y byd Treftadaeth a Thwristiaeth.
Mae gweithio'n ddwyieithog yn bwysig i ni. Rhowch wybod i ni eich gallu o ran eich gallu gyda’r iaith Gymraeg drwy gwblhau'r matrics fel rhan o'ch cais. Mae hyn er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi a bydd yn cael ei ystyried fel sgil ychwanegol.
Caiff cyfweliadau eu cynnal ar 14 Gorffennaf, neu'n gynharach, ac rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd efallai y byddwn yn cau'r hysbysiad swydd wag yn gynnar. Dyddiad dechrau posibl 27 Gorffennaf.
Sut beth yw gweithio yma?
Fel aelod o dîm darpariaeth gwych Penrhyn, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Profiad a Gweithrediadau Ymwelwyr a'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Byddwch hefyd yn gweithio â staff a gwirfoddolwyr ein tîm croesawu, yn rhannu straeon, gan ymgysylltu ymwelwyr â'n gwaith cymunedol a chynaliadwyedd.
Mae Castell Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth, gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n dod â'r eiddo unigryw hwn yn fyw o fewn waliau'r castell, ac yn yr awyr agored ar ein tir 60 erw hyfryd. Mae ei hanes wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, llechi, ysblander a streiciau, ac rydym yn falch o barhau i rannu'r straeon hyn gyda'n cymunedau lleol.
Eich Gwaith
Fel Swyddog Profiad Ymwelwyr, byddwch yn gyfrifol am reoli ein rhaglen o ddigwyddiadau, fel y gwanwyn, Pasg, yr haf, yr hydref, a gaeaf, o'r dechrau i'r diwedd. Bydd cynllunio, cyflwyno dehongliad effeithiol, creu rhaglenni ymgysylltiol a'u gwerthuso, yn hanfodol. Wrth weithio ochr yn ochr â'r tîm, byddwch yn rheoli staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu dehongliad ymgysylltiol ac ystyrlon, a all ein helpu i feithrin cefnogaeth am ein gwaith. Bydd deall sut a pham rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr hefyd yn allweddol i'r rôl hon.
Byddwch yn cyflwyno'r eiddo at safonau uchel, er mwyn sicrhau bod ein cyfathrebu’n glir ac yn gyson ar gyfer ein hymwelwyr. Fel hyrwyddwr cyfathrebiadau da, gwasanaeth a phrofiad ymwelwyr rhagorol, byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac yn ymgymryd â’r ddyletswydd o reoli’r rota, yn helpu i gynnal y gweithrediad ymwelwyr.
Am bwy ydym ni’n chwilio?
Mae hon yn rôl sylweddol mewn eiddo prysur, ac rydym yn awyddus i benodi unigolyn sy’n medru ymgymryd â her. Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, byddwch angen:
- Agwedd hyblyg sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda safonau gwasanaeth cwsmer uchel
- Sgiliau pobl rhagorol a’r gallu i weithio’n dda mewn tîm
- Sgiliau iaith Gymraeg lefel un, Sylfaenol, gyda pharodrwydd i ddatblygu (gweler matrics)
- Profiad o weithio i sawl terfyn amser a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
- Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- Llygad craff am fanylder a dawn greadigol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau TG cryf
Y Peyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £21,684
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.