Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth Cyllid yn gwahodd ymgeiswyr am swydd Swyddog Clercyddol parhaol i ymuno â thîm prysur sy’n cefnogi gweithrediadau’r Gwasanaeth Ystadau a Champws. Byddwch yn gweithio'n agos â rheolwyr y tîm ac aelodau eraill y tîm i wneud amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd cyllidol, gan rannu cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol ar draws amrywiaeth o leoliadau yn ôl gofynion gweithredol.
Byddwch wedi cael addysg hyd lefel TGAU (lleiafswm o 5 gyda graddau A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm mawr prysur. Mae sgiliau TG da a gwybodaeth o Excel a Word yn hanfodol. Byddwch yn aelod tîm blaengar, ymroddedig, effeithiol a chefnogol sy'n gallu gweithio'n hyblyg, yn gyflym ac yn gywir i derfynau amser tynn.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn un o ofynion dymunol y swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Tachwedd, 2022.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu ag: Alison Armstrong, Uwch Gyfrifydd, e-bost; [email protected], ffôn: (01248) 38382169
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £22,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.