Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Uwch Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Uwch Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg Gwyddorau Dynol yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Clercyddol parhaol, llawn amser i ymuno â Thîm Gweinyddol y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am yr Ysgol Gwyddorau Addysgol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon i Bennaeth yr Ysgol a'r Uwch Dîm Gweithredol a threfnu a rhoi prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar waith o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon Lefel A neu NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol, neu feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol. Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn swyddfa / swydd weinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr fedru dangos sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i drin baich gwaith amrywiol a thrwm.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Gwawr Griffiths, Gweinyddwr y Coleg, e-bost: [email protected].
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd yn rhoi cefnogaeth weinyddol effeithiol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-radd, a gweithgareddau effaith ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus yn y coleg a'r ysgolion sy’n rhan o’r coleg.
Disgrifiad:
PRIFYSGOL BANGOR
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
CYF: BU02887
Cyflog: £24,285 - £27,131 y flwyddyn ar Raddfa 5
Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus), sy’n swydd llawn amser parhaol yn gweithio yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y swydd yn rhoi cefnogaeth weinyddol effeithiol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-radd, a gweithgareddau effaith ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus yn y coleg a'r ysgolion sy’n rhan o’r coleg.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon lefel A neu NVQ Lefel III mewn maes pwnc perthnasol (neu gymhwyster cyfwerth); bod â phrofiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel ac ati). Mae angen sgiliau cyfathrebu a threfnu da, ynghyd â'r gallu i gofnodi data yn fanwl gywir. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn addysg uwch, yn enwedig mewn swydd weinyddol, yn fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sy’n rhesymol bosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu swydd. Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol am y swydd trwy gysylltu â Sian Peris Owen, Rheolwr y Coleg ar [email protected].
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Ionawr 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.