Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr. **Nod y Rôl **
Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i:
● sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
● cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
● gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
● sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
● rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth Prif Gyfrifoldebau
● Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
● Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
● Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
● Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
● Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
● Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
● Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
● Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
● Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
● Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
● Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
● Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn **Ymchwilio a Monitro ** ** ** ● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
● Mewnbynnu data’n gywir
● Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
● Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
● Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
● Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
● Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
● Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
● Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
● Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
● Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
● Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
● Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
● Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
● Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
● Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol **Manteisiol **
● Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
● Profiad o reoli prosiectau **Gwneud Cais **
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Jayne Jones ar 07957 191 887. Cyfweliadau Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd yn cymryd lle yn rithiol ar ddydd Iau, 15 Medi 2022. Os na fydd y dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00 yb, Dydd Llun, 12 Medi 2022. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru. Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. **Nod y Rôl ** I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio. Prif Gyfrifoldebau · Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd
· Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu
· Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir
· Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol
· Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
• Addysg hyd at lefel gradd
• Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol
• Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol
• Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg
• Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd
• Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir
• Sgiliau prawf ddarllen eithriadol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill
• Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses
• Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
• Sgiliau technoleg gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, meddalwedd cof cyfieithu, E-bost a’r Rhyngrwyd
• Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd • Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm • Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol Dymunol
· Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)
· Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio **Gwneud Cais ** Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helen Lowcock James ar 02920 467 402 Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 yb, 5 Medi 2022. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ar 12 Medi 2022. Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £24,657-£30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd TG
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd TG
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau. Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus. Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:
· reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff Nod y Swydd
Bydd y Cydlynydd TG yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr TG mewnol a darparwyr gwasanaethau allanol i ddarparu'r gwasanaeth TG, drwy sicrhau cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, sicrhau cynnal systemau a datrysiad problemau i safon uchel, a gweithio ar ddatblygiadau'r Adran TG, gyda chyfrifoldeb dros elfennau mwy cymhleth a thechnegol a'u llwyddiant. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon
· Bod yn drydydd bwynt cyswllt i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i gyd-weithwyr TG, rhannu gwybodaeth, helpu datrys ymholiadau, ac esgoli ticedi ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant lefel uwch, a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn
· Cefnogi'r Uwch-gynorthwyydd TG gydag adnabod gofynion, ymchwilio, caffael ac archebu caledwedd, meddalwedd, a gwasanaethau TG, gan sicrhau manylebau a nodweddion addas, gwariant priodol a gwerth am arian
· Bod yn rhagweithiol i ymchwilio a datrys achosion a phroblemau, gweinyddu systemau a sicrhau parhad gweithrediadau, gan dderbyn achosion wedi'u hesgoli
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal isadeiledd TG y cwmni drwy'r Cylchred Bywyd cyfan (cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, systemau ffôn, fideo-gynadledda, argraffyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, gweinyddion, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr)
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal systemau craidd a meddalwedd y cwmni (System e-bost a chynhyrchiant, datrysiad cadw data a chydweithio, system gwrth-feirws a diogelwch, system wrthgefn, system rheoli a monitro o bell, system rheoli diweddariadau, system rheoli dyfeisiau symudol, system rheoli cynnwys, system rheoli cleientiaid, a nifer o ddatrysiadau meddalwedd-fel-gwasanaeth)
· Cyfrannu'n weithredol at ddatblygiadau a phrosiectau TG, derbyn tasgau wedi'u hesgoli, arwain ar nifer o dasgau a rhaglenni gwaith cymhleth neu dechnegol, a sicrhau cwblhad o fewn amserlenni
· Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau TG gyda chyllidebau TG prosiectau, trwy gynllunio adfywio caledwedd, cydlynu efo rheolwyr i gytuno gwariant addas i'w gofynion, a sicrhau gwerth am arian
· Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau TG drwy ofalu am a chydlynu cytundebau cyflenwyr amrywiol, ac awdurdodi anfonebau a gwariant rhagweladwy/cyffredin
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data, a bod yn rhagweithiol wrth adnabod ac asesu bygythiadau
· Cyfrannu at ddatblygu polisïau a dogfennau TG dwyieithog yn unol â deddfwriaeth, safonau ac arfer da perthnasol, a chynghori a helpu staff ar ddehongli a gweithredu’r rhain yn gywir, gan gynnwys creu deunydd hyfforddi hawdd eu deall, ac adrodd ar achosion o doriad polisi
· Gweithio'n agos efo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol, a bod yn rhagweithiol am yr elfennau sydd o fewn eu cyfrifoldebau **Arall **
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad
Cymwysterau / Profiad
Hanfodol
Gradd sylfaen neu HNC, neu gyfwerth, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol
Profiad amlwg o weithio a llwyddo mewn rôl TG gyda chyfrifoldebau technegol
Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd TG, a defnyddio system Desg Gymorth
Profiad amlwg o osod, cynnal a chadw caledwedd, meddalwedd, isadeiledd a systemau TG, a darparu cefnogaeth TG mewn amgylchedd busnes
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol TG
Profiad technegol mewn seilwaith rhwydweithio a TG, gyda’r gallu i fod yn ymarferol yn ôl y gofyn Gwybodaeth / Sgiliau
Hanfodol
Gwybodaeth a sgiliau cryf ar nifer o’r canlynol:
– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android, ChromeOS, Linux, CentOS
– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, ffôn ddesg, fideo-gynadledda, argraffyddion
– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau a Phrosiectau, Amlgyfrwng, Meddalwedd Cyllid (Sage), System rheoli cynnwys (CMS), System rheoli cleientiaid (CRM)
– Isadeiledd: Technoleg cwmwl, gweinyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr, NAS, VPN
– Systemau TG: Swît cynhyrchiant (ee Google Workspace), Datrysiadau cynnwys a chydweithio, Diogelwch a gwrth-feirws, System wrthgefn, System ffôn VoIP, Rheoli a monitro (RMM), Rheoli diweddariadau, Rheoli dyfeisiau symudol (EMM, MDM, MAM)
Gwybodaeth gref am dechnolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu, a sut y gellir eu defnyddio at ddibenion busnes penodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Seiberddiogelwch, Cyber Essentials, GDPR, ac arferion gorau’r diwydiant TG Nodweddion Personol
Hanfodol
Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gyda’r gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio ag ymholiadau gan staff
Gallu ymchwilio a datrys problemau, gan gynnwys rhai mwy cymhleth a sylweddol, drwy gymryd ymagwedd wahanol, a gallu cyfleu manteision, anfanteision a risgiau gwahanol ddatrysiadau
Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythurol a dadansoddol, yn ogystal â chefnogi eraill fel rhan o dîm
Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
Sgiliau cyflwyno clir, diddorol ac ymgysylltiol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dymunol
Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) Arall
Hanfodol
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Medi. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 15 Awst
Cyflog
💰 £24,657 - £27,433
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-gynorthwyydd TG
Mae Menter a Busnes yn edrych am Uwch-gynorthwyydd TG
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau. Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus. Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:
· reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff Nod y Swydd Bydd yr Uwch-gynorthwyydd TG yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr TG mewnol a darparwyr gwasanaethau allanol i ddarparu'r wasanaeth TG, drwy sicrhau cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, cynnal systemau a datrys problemau i safon uchel, a gweithio ar ddatblygiadau'r Adran TG. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon
· Bod yn ail bwynt cyswllt i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i gyd-weithwyr TG, rhannu gwybodaeth, helpu datrys ymholiadau, ac esgoli ticedi ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant lefel uwch, a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo gwaith parthed â staffio a rheoli mynediad, gan sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn, amserlenni'n cael eu cwrdd a safon uchel yn cael ei gynnal
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am asedion caledwedd, drwy gynnig cyngor a datrysiadau
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am offer swyddfa a chyfleusterau TG, drwy gynnig cyngor a datrysiadau
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith cynnal rheolaidd, drwy gynnig atebion, ffyrdd o liflinio prosesau, a sicrhau bod amserlenni addas mewn lle ac yn cael eu cwrdd
· Adnabod gofynion, ymchwilio, caffael ac archebu caledwedd, meddalwedd, a gwasanaethau TG, gan sicrhau manylebau a nodweddion addas, gwariant priodol a gwerth am arian
· Bod yn rhagweithiol i ymchwilio a datrys achosion a phroblemau, gweinyddu systemau a sicrhau parhad gweithrediadau
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal isadeiledd TG y cwmni drwy'r Cylchred Bywyd gyfan (cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, systemau ffôn, fideogynadledda, argraffyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, gweinyddion, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad di-wifr)
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal systemau craidd, cwmwl a meddalwedd y cwmni (System e-bost a chynhyrchiant, datrysiad cadw data a chydweithio, system gwrth-feirws a diogelwch, system wrthgefn, system rheoli a monitro o bell, system rheoli diweddariadau, system rheoli dyfeisiau symudol, system rheoli cynnwys, system rheoli cleientiaid, a nifer o ddatrysiadau meddalwedd-fel-gwasanaeth)
· Cyfrannu'n weithredol at waith datblygiadol a phrosiectau TG, arwain ar dasgau a ddyrannwyd, a sicrhau cwblhad o fewn amserlenni
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi
· Gweithio'n agos efo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol, a bod yn rhagweithiol am yr elfennau sydd o fewn eu cyfrifoldebau Arall
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad Cymwysterau / Profiad
Hanfodol
Gradd sylfaen neu HNC, neu gyfwerth, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol
Profiad amlwg o weithio a llwyddo mewn rôl TG gyda chyfrifoldebau technegol
Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd TG, a defnyddio system Desg Gymorth
Profiad amlwg o osod, cynnal a chadw caledwedd, meddalwedd, isadeiledd a systemau TG, a darparu cefnogaeth TG mewn amgylchedd busnes
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol TG
Profiad technegol mewn seilwaith rhwydweithio a TG, gyda’r gallu i fod yn ymarferol yn ôl y gofyn Gwybodaeth / Sgiliau
Hanfodol
Gwybodaeth a sgiliau cryf ar nifer o’r canlynol:
– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android, ChromeOS, Linux, CentOS
– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, ffôn ddesg, fideo-gynadledda, argraffyddion
– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau a Phrosiectau, Amlgyfrwng, Meddalwedd Cyllid (Sage), System rheoli cynnwys (CMS), System rheoli cleientiaid (CRM)
– Isadeiledd: Technoleg cwmwl, gweinyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr, NAS, VPN
– Systemau TG: Swît cynhyrchiant (ee Google Workspace), Datrysiadau cynnwys a chydweithio, Diogelwch a gwrth-feirws, System wrthgefn, System ffôn VoIP, Rheoli a monitro (RMM), Rheoli diweddariadau, Rheoli dyfeisiau symudol (EMM, MDM, MAM)
Diddordeb cryf mewn, a gwybodaeth am, dechnolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu, a sut y gellir eu defnyddio at ddibenion busnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Seiberddiogelwch, Cyber Essentials, GDPR, ac arferion gorau’r diwydiant TG Nodweddion Personol
Hanfodol
Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gyda’r gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio ag ymholiadau gan staff
Gallu ymchwilio a datrys problemau, gan gynnwys rhai mwy cymhleth, drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau datrysiadau
Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â chefnogi eraill fel rhan o dîm
Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
Sgiliau cyflwyno clir, diddorol ac ymgysylltiol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dymunol
Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) Arall
Hanfodol
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Medi. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 15 Awst
Cyflog
💰 £22,864 - £25,520
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.