Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad prosiectDyffryn Gwyrdd i atal tlodi trwy weithredu amgylcheddol. Mae tîm Dyffryn Gwyrdd yn cefnogi Pantri Pesda sy’n gynllun rhannu bwyd yn lleol a chynlluniau cludiant cymunedol sy’n atal tlodi trafnidiaeth.
Rydym wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd i sefydlu Hwb Cymunedol fydd yn darparu cefnogaeth i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i gynorthwyo’n cymunedaui fyw eu bywyd gorau posib.Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn:
1. Darparu gwasanaethau i wella a grymuso iechyd, llesiant a chymuned ein ardal
2. Creu gofodau cymunedol diogel a chynnes i drigolion Dyffryn Ogwen fanteisio ar wasanaethau yn eu cynefin
3. Cyd-weithio gyda Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid strategol eraill i ddarparu gwasanaethau, cyngor a chefnogaeth ar faterion o bwys i drigolion Dyffryn Ogwen
4. Creu cyfleoedd ar gyfer grymuso cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles cymunedol acamgylcheddol
5. Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli cymunedol acamgylcheddol.
6. Lleihau effeithiau tlodi trafnidiaeth trwy gydweithio gyda chynllun cludiant cymunedol trydan Partneriaeth Ogwen.
7. Lleihau effeithiau tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy weithio mewn partneriaeth gyda Prosiect Sero Net Gwynedd a chyrff eraill i addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.
Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn cael ei redeg o adeiladau cymunedol Partneriaeth Ogwen a bydd y Rheolwr yn cydweithio’n agos gyda Rheolwr Dyffryn Gwyrdd, tim rheoli Partneriaeth Ogwen,Prif Swyddog y Bartneriaeth a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen.Bydd yr Rheolwr yn gweithio’n agos gyda asiantaethau sy’n darparu cymorth i’r cyhoedd.
Rydym yn awr yn chwilio am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen fydd yn gyfrifol am redeg Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen er mwyn gwella iechyd, llesiant a chymuned yn Nyffryn Ogwen.
Oriau Gwaith
Cyflogir y Rheolwr 37 o oriau’r wythnos.
Lleoliad Swydd
Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.
Prif Ddyletswyddau
Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth o adeiladau Partneriaeth Ogwen fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth o’r radd flaenaf i drigolion Dyffryn Ogwen ym maesydd iechyd, llesiant a chymuned. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys;
1. Rheoli’r holl weithgareddau yn, ac yn gysylltiedig gyda Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen.
2. Cydweithio gyda Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen a thîm y Dyffryn Gwyrdd er mwyn cynnwys gymaint o’r gymuned a sydd bosib yng ngwaith yr Hwb.
3. Sicrhau cyfartaledd a hygyrchedd gwasanaethau’r Hwb o fewn y grwp targed/trigolion Dyffryn Ogwen.
4. Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol i sicrhau ystod eang o wasanaethau yn yr Hwb i gyfarfod anghenion trigolion Dyffryn Ogwen.
5. Goruchwylio a chefnogi datblygiad gwasanaethau newydd yn yr Hwb ee cymorth ar fynediad i waith, budd-daliadau, rheoli dyled etc.
6. Cyd-weithio gyda Hybiau Cymunedol yng Ngwynedd a thu hwnt i efelychu eu llwyddiant a rhannu arfer da o Ddyffryn Ogwen.
7. Hyrwyddo a marchnata cyfleoedd a gwaith yr Hwb drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy gyfryngau traddodiadol.
8. Mynychu cyfarfodydd llywio misol gyda Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd i adrodd ar gynnydd y prosiect.
9. Rheoli a chofnodi perfformiad yr Hwb, monitro ac adrodd ar ddatblygiadau a darparu adroddiadau i’r partneriaid a Phwyllgor Rheoli Partneriaeth Ogwen.
10. Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt.
11. Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.
12. Mynychucyfarfodyddtîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd.
13. CynrychioliPartneriaeth Ogwen mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith y sefydliad.
14. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.
15. Cefnogi staff a gwirfoddolwyr Pantri Pesda i leihau tlodi bwyd yn yr ardal a chefnogi Cydlynydd Pantri Pesda gyda chynlluniau atal tlodi bwyd. **Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **
Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.
**Cefnogaeth Weinyddol **
Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant yr Hwb. Atebolrwydd a Rheoli Staff
Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwenyn atebol i Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen a bydd yn rheoli Cydlynydd Pantri Pesda.
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad Canolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda.
Ariennir prosiect y Dyffryn Gwyrdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i daclo tlodi gwledig trwy weithredu amgylcheddol arloesol. Mae prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
· Atal tlodi trafnidiaeth trwy gynllun cludiant cymunedol trydan a datblygu cynllun beiciau trydan cymunedol.
· Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol.
· Grymuso Cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles amgylcheddol a chymunedol.
· Atal tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.
· Atal tlodi bwyd trwy gynllun rhannu bwyd cymunedol Pantri Pesda.
Bydd prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn cael ei redeg o ganolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda a bydd tîm o weithwyr yn cydweithio’n agos gyda Prif Swyddog a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen i wireddu’r cynllun.
Rydym yn awr yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyra Llesiant fydd yn cydweithio â mudiadau amgylcheddol yr ardal i ddatlbygu ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol sy’n dod a buddion lles ac amgylcheddol ac yn atal tlodi yn ein cymuned.
Oriau Gwaith
Cyflogir y Cydlynydd 37 o oriau’r wythnos.
Lleoliad Swydd
Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.
Prif Ddyletswyddau
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd gwirfoddolia datblygu prosiectau sy’n gwella iechyd a lles ein cymuned mewn partneriaeth â thîm Dyffryn Gwyrdd a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys:
1. Cydweithio gyda staff y prosiect a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd i adnabod cyfleon gwirfoddoli sy’n dod a buddion lles ac amgylchedd i’n cymuned a sefydlu rhaglen o weithgareddau prescripsiynau cymdeithasol mewn cydweithrediaid a mudiadau a sefydliadau eraill yn lleol.
2. Datblygu cysylltiadau a phartneriaethau newydd i greu rhaglen o gyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau amgylcheddol sy’n hybu llesiant ac sy’n taclo tlodi ac unigedd gwledig (yn cynnwys tlodi trafnidiaeth, tlodi bwyd, a thlodi tanwydd).
3. Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol yn lleol i adnabod unigolion a grwpiau fyddai’n elwa o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol a/neu gyngor ar faterion tlodi trafnidiaeth neu dlodi tanwydd.
4. Cydlynu gweithdrefnau ac asesiadau risg i ddiogelu gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â phrosiectau Dyffryn Gwyrdd.
5. Arwain ar ymgyrch recriwtio gyrrwyr gwirfoddol i’r car trydan cymunedol a chefnogi’r gwirfoddolwyr hynny.
6. Arwain ar ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi’r Bartneriaeth a mannau gwyrdd eraill yn ein cymuned.
7. Datblygu cyfres o ddigwyddiadau llesiant traws genhedlaeth yn Nyffryn Ogwen.
8. Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt.
9. Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.
10. Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol trwy gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau traddodiadol megis y papur bro a Radio Cymru.
11. Mynychu cyfarfodydd tîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd.
12. CynrychioliPartneriaeth Ogwen a phrosiect Dyffryn Gwyrdd mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith prosiect Dyffryn Gwyrdd.
13. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith prosiect Dyffryn Gwyrdd a Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.
**Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **
Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.
**Cefnogaeth Weinyddol **
Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Bydd Gweinyddwr Rhan Amser yn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y prosiect a bydd Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant y prosiect.
**Atebolrwydd **
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddoli yn atebol i Reolwr Prosiect Dyffryn Gwyrdd.
Cyflog
💰 £23,088 pro rata
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.