Swyddi Cymraeg — Betws y Coed
2 swydd yn cyfateb
Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth - Betws-y-coed (x2 swydd)
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Gynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth - Betws-y-coed (x2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn edrych ar ddau Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth i ymuno â ni yn rhan amser ar gytundeb tymor penodol.
Y Manteision
- Cyflog o £20,812 - £21,968 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau (24 diwrnod) (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Gweithio Hybrid
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth, byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad a chymorth i’n hymwelwyr am yr ardal, gan hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o Barc Cenedlaethol Eryri.
Byddwch yn ymateb i ystod o ymholiadau, yn enwedig y rhai am yr ardal leol, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Byddwch yn hyrwyddo atyniadau lleol, yn annog parch a gwerthfawrogiad o rinweddau arbennig y parc ac yn hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Gan gynorthwyo i adeiladu ein presenoldeb ar-lein, byddwch yn cyfrannu straeon a gwybodaeth i'w defnyddio fel cynnwys ar gyfer ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol.
Byddwch yn cefnogi cynnal a chadw a rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd, gan ddiweddaru gwybodaeth ymwelwyr, gwerthu nwyddau, ac ailgyflenwi stoc a sicrhau ei bod yn lân ac yn daclus.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cynorthwyo'r Rheolwr Masnachol i hyrwyddo'r canolfannau
- Cynorthwyo mewn digwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd lleol
- Cefnogi gweithgareddau addysgol ac iechyd a lles
- Archebu llety a chofnodi lleoedd gwag
- Cynorthwyo gyda rotas staff
Amdanoch chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, bydd angen:
- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl
- Gwybodaeth leol a brwdfrydedd dros rinweddau'r Parc Cenedlaethol a'r ardal
- Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth ac atyniadau Cymru
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Sgiliau TG sylfaenol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 3 Mawrth 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.
Felly, i ymuno â'n sefydliad anhygoel mewn rôl werth chweil fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £20,812 - £21,968 pro rata
Lleoliad
📍 Betws y Coed
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau Cymreig? A hoffech chwarae rôl allweddol yn datblygu dyfodol newydd a chyffrous ar gyfer Tŷ Mawr? Os ydych, hoffem glywed gennych. Helpwch ni i roi Tŷ Mawr Wybrnant a gwaddol cyfieithiad yr Esgob William Morgan o’r Beibl yn ôl yn gadarn ar fap treftadaeth Cymru yn dilyn cyfnod o fod wedi cau oherwydd y pandemig. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid a’r gymuned i archwilio opsiynau o ran beth yw’r ffordd orau i ni ddefnyddio ac ymgysylltu â’r lleoliad arbennig hwn wrth symud ymlaen. Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain y gwaith hwn fel bod gennym y model cywir a’r cymorth cymunedol ar waith er mwyn iddo ffynnu.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV os gwelwch yn dda. Rydym yn chwilio am isafswm o lefel 3 Gwrando a Deall a Siarad. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais a bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr mewnol sy’n edrych am ddatblygiad gyrfaol.
Cyfweliadau: 31 Mai.
Mae hwn yn gontract rhan amser cyfnod penodol sy’n golygu gweithio tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Tachwedd 2023. Gall patrymau gwaith gael eu trafod ond bydd yn cynnwys gweithio ar benwythnos a gwyliau’r banc yn achlysurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]
Sut beth yw gweithio yma
Mae Tŷ Mawr yn ffermdy traddodiadol o’r 16eg ganrif sydd wedi’i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno. Yma y ganed yr Esgob William Morgan, ac ef oedd y cyntaf i gyfieithu’r Beibl cyfan i'r Gymraeg, ac i raddau helaeth mae ei rôl yn cael ei hystyried yn allweddol i sicrhau parhad yr iaith. Rydym hefyd yn gofalu am gasgliad anhygoel o dros 200 o Feiblau gan gynnwys un o gyfieithiadau gwreiddiol 1588 a chopïau mewn nifer o ieithoedd ar draws y byd.
Byddwch wedi’ch lleoli yn Nhŷ Mawr yn rheolaidd a byddwch hefyd yn gallu gweithio o’n swyddfa lawr y ffordd yn ein Swyddfa Ystad Dinas. Bydd eich cyrhaeddiad yn ymestyn drwy ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd gyda chymunedau yn lleoliadau fel Pentrefoelas, Penmachno, Llanrwst a Chonwy. Mae hon yn ardal wledig sy’n gyfoethog o ran traddodiadau, a’r Gymraeg yn iaith bob dydd i’r mwyafrif. Mae balchder amlwg ymysg y cymunedau oherwydd arwyddocâd diwylliannol Tŷ Mawr ac rydym yn ymrwymedig i ddathlu ei stori arbennig am genedlaethau i ddod.
Beth y byddwch yn ei wneud
Yn rhan allweddol o dîm ehangach sy’n awyddus i ddatblygu Tŷ Mawr Wybrnant, bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r gymuned leol, sefydliadau partner ac unigolion sy’n awyddus i chwarae rhan yn nyfodol Tŷ Mawr. Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid presennol a newydd, byddwch yn gyfrifol am drefnu, hwyluso a darparu ystod o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â straeon Tŷ Mawr a’r Beibl. Gall hyn fod ar ffurfiau amrywiol e.e. diwrnodau agored, gweithdai, pererindodau, ymweliadau addysgol, gweithgareddau allgymorth o fewn cymunedau a chynnwys ar-lein. Eich gwaith chi fydd meddwl am syniadau creadigol sy’n ein galluogi i ymgysylltu pobl o bob cwr o Gymru - a'r byd - gyda’r lleoliad arbennig hwn a’r casgliad beiblaidd rhyfeddol sydd dan ein gofal.
Byddwch yn profi ac yn gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu amrywiol ac yn gweithio i ddeall yn llawn sut yr hoffai ein cefnogwyr a’n partneriaid weld Tŷ Mawr yn gweithredu yn y dyfodol. Bydd y gwaith yn llywio ein cynllun ar gyfer y dyfodol o ran sut fydd pobl yn ymgysylltu â Thŷ Mawr o 2024 ymlaen.
Am bwy ydym yn chwilio
Unigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi ar y safle, a fydd yn arwain at ddyfodol disglair a chyffrous i Dŷ Mawr.
Os ydych chi'n bodloni'r canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
Sgiliau cyfathrebu rhagorol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Sgiliau pobl da, sy'n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol
Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig
Diddordeb mewn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, gan gynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant
Profiad o gyfleu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randeiliaid gyda’r gallu i addasu cynlluniau ar gyfer anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd
Profiad o fagu, cynnal a datblygu partneriaethau er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol
Dealltwriaeth am yr hyn sy’n gwneud profiad da i ymwelwyr
Profiad o gyflwyno rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio gyda chymuned neu bartneriaid masnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd y sector treftadaeth, ac ar eu cyfer
Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £16,380
Lleoliad
📍 Betws y Coed
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.