Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Ymchwil
Mae CCW yn edrych am Reolwr Ymchwil
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.
Amdanom ni:
CCW yw’r llais annibynnol a brwd sy’n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim er mwyn helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda’u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn cefnogi anghenion a buddiannau pawb, gan gynnal ac amlygu gwaith ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau newid.
Yr Adran Polisi ac Ymchwil sy’n gyfrifol am ddatblygu ein sail dystiolaeth a fydd yn ei dro yn ein helpu i ddatblygu polisïau er budd defnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn drwy:
· Gynnal ymchwil gyda chwsmeriaid
· Casglu a dadansoddi data cwmni cymharol
· Cadw mewn cysylltiad â chwmnïau a monitro eu perfformiad ar lefel leol
· Datblygu, profi a chytuno ar bolisïau
· Dylanwadu ar gwmnïau, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid.
Ein gwerthoedd:
Rydym yn disgwyl holl gydweithwyr CCW i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW ac yn eu cefnogi i wneud hynny drwy Egni Positif, Parch i bawb, Ysbryd arloesol, Cyflawni ein haddewidion ac Ymgysylltu fel un.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:
Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.
Byddwch yn darparu mewnbwn adeiladol i gynigion ar gyfer ymchwil gyda defnyddwyr, a bydd allbynnau hyn yn llywio polisi cwmni CCW ar gyfer cwsmeriaid dŵr.
Elfen allweddol o’r rôl hon yw herio CCW i gadw ei ddull seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod ymchwil yn cael ei chyfathrebu’n effeithiol yn fewnol a gyda rhanddeiliaid allweddol.
Am bwy rydym ni’n chwilio:
Fel Rheolwr Ymchwil, byddwch yn gallu arddangos:
- Profiad o weithio ym maes ymchwil cwsmeriaid gyda gwahanol dechnegau ymchwil
- Sgiliau datblygu ymchwil a pholisi
- Y gallu i ddehongli canfyddiadau ymchwil (ansoddol a meintiol)
- Y gallu i gynrychioli CCW yn effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol
- Hyder i siarad mewn grwpiau ac mewn digwyddiadau lle gellid gweld gwahanol safbwyntiau
- Dull creadigol o ddatrys problemau
- Profiad o reoli sawl prosiect ar yr un pryd
- Parodrwydd i deithio o gwmpas Cymru a Lloegr
- Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i’w gilydd.
Dymunol
- Addysg i lefel radd (neu gyfwerth)
- Aelodaeth o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad
- Profiad o weithio mewn amgylchedd defnyddwyr ar faterion ar lefel genedlaethol
- Gwybodaeth am y diwydiant dŵr a/neu reoleiddio cyfleustodau.
Cyflog a Buddion:
Mae CCW yn cynnig cyflog cychwynnol o £33,835 gyda’r cyfle i gynyddu eich cyflog drwy berfformiad i hyd at £36,000.
Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio’n Hyblyg, Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio, Benthyciadau Beiciau, Mynediad am ddim at Health Assured a llawer mwy.
Cyflog
💰 £33,835
Lleoliad
📍 Birmingham, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.