Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Arweinydd
Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ
Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Arweinydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MCC8 £28,879.50 pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £21,962.49.
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.