Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Prif Weithredwr
Mae Plaid Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn dymuno chwarae rhan allweddol yn arweinyddiaeth Plaid Cymru a helpu i symud ein gwlad tuag at Annibyniaeth? Allwch chi arwain ac ysbrydoli tîm bach ond ymroddedig o staff a gweithio gyda miloedd o aelodau’r Blaid?
Yna mae'r swydd hon ar eich cyfer chi.
Disgrifiad:
Mae rôl Prif Weithredwr Plaid Cymru yn cyfuno elfennau o lywodraethiant, arweinyddiaeth, rheolaeth, cydymffurfiaeth, cyfathrebu a datblygu strategol. Mae'r Prif Weithredwr yn bennaeth ar dîm staff y blaid, ond mae hefyd yn arwain y gwaith o gyfathrebu a chydgysylltu gyda sylfaen gwirfoddol a strwythurau llywodraethiant mewnol y Blaid, ac yn sicrhau cyswllt agos ag arweinyddiaeth wleidyddol y Blaid yn y Senedd a San Steffan. Y Prif Weithredwr sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ac am gysylltu'n agos â'r Comisiwn Etholiadol a'r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Prif Weithredwr yw'r uwch gynghorydd staff i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ac yn gyfrifol am yr ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer.
Gweithredir llawer o'r uchod trwy ddirprwyo i staff priodol, a bydd y Prif Weithredwr yn ffurfio ac yn datblygu'r tîm staff hwnnw er mwyn cyflawni amcanion strategol y Blaid.
Lleoliad – Caerdydd ond gellir ystyried gweithio'n hybrid
Cynhelir cyfweliadau ar 10/3/23 yng Nghaerdydd
Ffoniwch Geraint Day ar 029 20 472272 am sgwrs anffurfiol am y swydd.
E-bostiwch ceisiadau wedi'u cwblhau i [email protected]
Cyflog
💰 £53,788 - £64,492
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Cenedlaethol
Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hanfod RhAG ers y cychwyn yw cefnogi rhieni a gwarchodwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy Addysg Gymraeg a thu hwnt. Mae’r cyfnod yn cychwyn cyn geni’r plentyn, gyda’r gwaith hyrwyddo o fewn y sector cyn geni a'r blynyddoedd cynnar, ac fe gydweithiwn gyda rhanddeiliaid yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol i sicrhau bod mynediad at Addysg Gymraeg ar gael i bawb sydd yn ei ddymuno.
Disgrifiad:
Byddwch yn arwain gwaith y mudiad yn hybu twf addysg Gymraeg, yn cydweithio gyda’n rhanddeiliaid er mwyn cyflawni ein hamcanion ac yn cefnogi rhieni a gofalwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy addysg Gymraeg a thu hwnt.
Cyflog
💰 Hyd at £40,000
Lleoliad
📍 O gartref, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
£101,830 + pensiwn rhagorol. Gall y Prif Weithredwr fod yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau’r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.
Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Bydd disgwyl i'r Prif Weithredwr dreulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Y Prif Weithredwr yw'r uwch aelod o staff Cyngor Celfyddydau. Maent yn arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) o bum person, gyda'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llywio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol Cyngor Celfyddydau ac arwain y gwaith o gyflawni polisïau. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau a phobl Cyngor Celfyddydau yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.
Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:
* Cynyddu cydraddoldeb mynediad i’r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector * Ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor * Arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydau newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024 * Datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith yn y cwrs arferol o gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i’w defnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Gwener 13 Mai 2022
Dyddiadau cyfweliadau: Dydd Mawrth 5 neu ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £101,830
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.