Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Pennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)
Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Bennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
_Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn swyddfa Caerdydd, gyda'r cyfle i weithio o adref ar rai diwrnodau bob wythnos yn unol â dull gweithio hybrid Cymorth Cristnogol. _ _ _ _Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel llunio rhestr fer a’r panel cyfweld. _ Amdanom ni
Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich cam proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol. Am y swydd
Rôl gyflenwi dros gyfnod mamolaeth hyd at 12 mis yw hon, gyda phwyslais ar gysylltiadau eglwysig lefel uchel, codi arian yn gymunedol, yn enwadol ac yn sefydliadol a chyfle i lywio tîm newydd i helpu i gyflawni ein strategaeth ar ei newydd wedd.
Mae'r rôl yn arwain ac yn rheoli tîm Cymorth Cristnogol Cymru, gan ysbrydoli a chyflawni targedau codi arian, codi ymwybyddiaeth a sicrhau ymgyrchu ac eirioli effeithiol. Drwy gydweithio mewnol rhagorol a phartneriaethau allanol cryf, mae'r rôl yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros uwch gynrychiolaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru ac am reoli rhanddeiliaid gyda'r eglwysi ac arweinwyr eglwysig, y cyhoedd yn ehangach, y cyfryngau, y sector preifat a sefydliadau eraill. Amdanoch chi
Byddwch yn unigolyn sy’n angerddol am weledigaeth Cymorth Cristnogol a'r effaith y gall eglwysi a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru ei chael i drechu tlodi byd-eang.
Bydd gennych brofiad o arwain, rheoli, cefnogi ac ysgogi staff a gwirfoddolwyr mewn cyd-destunau eglwysig a/neu fusnes/codi arian, a byddwch yn gallu arwain a gweithio ar y cyd â chydweithwyr o bell, gan gynnal gweledigaeth ac egni a throi'r weledigaeth honno yn gynlluniau gwaith.
Bydd gennych wybodaeth sylweddol am ddiwinyddiaeth a phrofiad o weithio gyda'r eglwys a strwythurau eciwmenaidd yng Nghymru. Yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o godi arian, ymgyrchu a gweithio gyda'r cyfryngau, bydd gennych hefyd sgiliau cyflwyno rhagorol yn gyhoeddus, yn y cyfryngau ac ar draws ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys pregethu ac arwain gwasanaethau eglwysig.
Mae Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Er mwyn diwallu anghenion y rôl, bydd gofyn i chi fynychu digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn enwedig ar adegau allweddol yng nghalendr Cymorth Cristnogol.
Cyflog
💰 £54,516
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru
Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich ca\m proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol. **Gofynion y swydd **
Dyma swydd gyffrous yn nhîm Cymorth Cristnogol Cymru (un o ddwy rôl o’r fath sy’n bodoli yng Nghymru) sy'n gweithio i gryfhau, ysgogi, ysbrydoli a darparu adnoddau i bobl ac i eglwysi yng Nghymru er mwyn eu galluogi i roi, gweithredu a gweddïo mewn ymateb i dlodi byd-eang. Gan ganolbwyntio'n benodol ar y De a’r De-ddwyrain, bydd y rôl yn cynnig cymorth pwrpasol ac yn aml wyneb yn wyneb i eglwysi, Grwpiau a rhwydweithiau Cymorth Cristnogol, gan weithio'n greadigol ar draws yr enwadau i feithrin cefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am rai o feysydd gwaith y tîm mewn eglwysi ledled Cymru. Er enghraifft, cyfathrebu rheolaidd â rhwydweithiau eglwysig, datblygu rhwydwaith o siaradwyr gwirfoddol mewn eglwysi yng Nghymru, ymgysylltu â phobl sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ymgyrchoedd eglwysig, meysydd codi arian pwrpasol, a digwyddiadau a gwyliau. **Amdanoch chi **
Byddwch yn awyddus iawn i weithio ar y cyd ag eglwysi ac eraill er mwyn eu hysbrydoli i fynd ati i weithredu i oresgyn tlodi ym mhob cwr o’r byd. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r gwahanol gynulleidfaoedd eglwysig sy’n bodoli yng Nghymru, ac o ardaloedd daearyddol y De/De-ddwyrain. Bydd gennych brofiad o weithio i ddatblygu cydberthynas sy’n ysbrydoli pobl i weithredu, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu negeseuon mewn cyd-destun diwinyddol. Byddwch yn hapus i fod allan yn cwrdd â phobl, gan feithrin partneriaethau, cefnogi gwirfoddolwyr a chyfathrebu'n greadigol ac yn ddeinamig am waith Cymorth Cristnogol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig da.
Mae disgwyl i ymgeiswyr fyw yn yr ardal benodol y mae'r swydd yn ei chwmpasu, sef De/De-ddwyrain Cymru.
Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel sy’n llunio rhestr fer a’r panel cyfweld.
Cyflog
💰 £36,255 - £39,644
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.