Swyddi Cymraeg
12 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyfathrebu Mewnol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Mewnol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Mewnol i ymuno â'n tîm yn barhaol, llawn amser.
Y Manteision
- Cyflog o £26,894 - £29,080
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel y Swyddog Cyfathrebu Mewnol, byddwch yn goruchwylio ein holl waith cyfathrebu mewnol.
Gyda chynnydd yn nifer y staff a mewnrwyd newydd, mae cyfathrebu mewnol effeithiol yn hollbwysig. Byddwch yn datblygu ac yn gweithredu cynllun cyfathrebu mewnol dychmygus a diddorol.
Byddwch yn ysgrifennu, dylunio, prawfddarllen a chyhoeddi cynnwys Cymraeg a Saesneg ac yn gwerthuso ei effeithiolrwydd. Gan gefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddatblygu llywodraethu, byddwch yn helpu cydweithwyr i gynhyrchu cynnwys yn unol â'n safonau sefydliadol.
Yn ogystal, byddwch yn cefnogi datblygiad y fewnrwyd newydd yn seiliedig ar Microsoft SharePoint.
Amdanat ti
Er mwyn cael eich ystyried yn Swyddog Cyfathrebu Mewnol, bydd angen:
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad o gynhyrchu deunyddiau cyfathrebu ysgrifenedig
- Profiad o weithio gyda, a defnyddio, mewnrwyd ar lwyfan Microsoft SharePoint
- Sgiliau Cymraeg a Saesneg rhagorol
- Gwybodaeth am sut i ysgrifennu cynnwys cywir rhagorol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianeli cyfathrebu
- Y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl
Byddai hefyd o fudd i’ch cais os oes gennych chi:
- Gradd neu gymhwyster ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau neu gyfathrebu cyffredinol
- Profiad yn y sector cyhoeddus
- Gwybodaeth ymarferol o lwyfannau e-bost seiliedig ar brosiectau, Adobe InDesign, Adobe Acrobat a Microsoft SharePoint
- Gwybodaeth ymarferol o sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch
- Gwybodaeth ymarferol o gynhyrchu cynnwys fideo hygyrch yn Gymraeg a Saesneg
Dyddiad cau: 11.59pm dydd Iau, 16 Chwefror
Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Cyfathrebu, Arbenigwr Cyfathrebu Mewnol, Swyddog Cyfathrebu Mewnol, neu Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Mewnol.
Felly, os ydych yn barod ar gyfer eich cam nesaf fel Swyddog Cyfathrebu Mewnol, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,080
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Cymru)
£31,031 yn cynnwys pwysoliad rhanbarthol
35 awr yr wythnos
Cyfnod penodol tan fis Chwefror 2026
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru (gweithio hybrid am ddau ddiwrnod yr wythnos) neu'n gweithio gartref.
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf.
Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu.
Wnewch chi ymuno â ni?
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr hyderus sy’n siarad Cymraeg ac sy’n mwynhau cyfarfod â phobl ac adrodd eu straeon mewn ffyrdd cymhellol. Yn y rôl hon byddwch yn cyflwyno gweithgareddau marchnata a chyfathrebu effeithiol i helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio cymorth iechyd meddwl Mind yng Nghymru, helpu i ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru a chefnogi'r gwaith o godi arian. Byddwch yn gyfathrebwr amlochrog sydd yr un mor gyfforddus yn ysgrifennu copi ag yr ydych yn briffio cyflenwyr neu'n ymweld â safleoedd lleol Mind a chyfarfod â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl wyneb yn wyneb. Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl gyfathrebu amrywiol sydd â phwrpas iddi, cysylltwch â ni.
Dyddiad cau: 12pm, 1 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 6 Chwefror 2023
Mae Mind yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar os byddwn yn cael llawer iawn o ymgeiswyr cryf – felly rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais yn gynnar.
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Cyflog
💰 £31,031
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol dwyieithog i chwarae rhan ganolog mewn cefnogi ein cydweithwyr Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau a Digwyddiadau i gyflawni gweithgarwch allanol a mewnol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i adeiladu ymgyrchoedd wedi'u halinio ar gyfer y gwahanol sianeli, gan sicrhau bod cynnwys yn cael ei deilwra i fodloni gofynion allweddol y gynulleidfa er mwyn cynyddu ymgysylltiad a chodi enw da Met Caerdydd. Agwedd hanfodol o’r rôl fydd i reoli gwybodaeth gyhoeddus y Brifysgol, cysylltiadau â'r cyfryngau ac anghenion ysgrifennu copi yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn ogystal, fel ein Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol byddwch hefyd yn:
- Sicrhau bod negeseuon allanol yn gyson ac yn gywir gan cynnwys cydlynu cynnwys dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
- Rheoli'r cynnwys cysylltiedig corfforaethol ar sianeli Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd a gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i alinio cynnwys â'r cynlluniau cyffredinol a grëwyd gan y tîm Brand a Chynnwys.
- Sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno mewn tôn llais cyson a phroffesiynol.
- Gweithio'n agos gyda staff ar draws y Brifysgol i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu beirniadol ac ysgrifennu a dosbarthu straeon newyddion, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau, darnau barn ac ati.
- Cefnogi'r tîm Rhanddeiliaid i reoli cyfathrebiadau staff a myfyrwyr gan gynnwys cynhyrchu ac ysgrifennu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer cylchlythyrau e-bost, llwyfannau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol ac arddangosfeydd ar y campws.
- Cefnogi'r tîm Digwyddiadau Corfforaethol yn enwedig wrth greu, golygu, adolygu'r holl gyfathrebu cysylltiedig.
- Cydweithio â Swyddogion Marchnata Ysgolion i gefnogi cynlluniau marchnata a chynorthwyo recriwtio myfyrwyr. **Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu **
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r allu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad profedig wrth reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Profiad helaeth o ddatblygu, ysgrifennu a golygu cyfathrebiadau deniadol o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd a sianeli.
- Profiad o feithrin perthnasoedd rhanddeiliaid effeithiol gyda gallu profedig i drafod, darbwyllo a dylanwadu'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion strategol.
- Gallu datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu rhagweithiol a weithio yn unol â chanllawiau brand.
- Y gallu i greu cynnwys amlgyfrwng gyda sgiliau TG cryf gan gynnwys yn benodol y defnydd o Microsoft Teams, rheoli cynnwys, prosesu geiriau, taenlenni, e-bost, a golygu delweddau.
- Y gallu i drin gwybodaeth sensitif gyda phwyll a thringarwch ac i gysylltu'n hyderus â chydweithwyr ar bob lefel y tu mewn a'r tu allan i'r brifysgol.
- Wedi cymhwyso i lefel gradd neu gyfwerth mewn maes sy’n gysylltiedig â chyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus/marchnata. Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydyn ni'n falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig i'n gilydd, ac yn un tîm; ni yw Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
- Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
- Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â therapi cyflenwol.
- Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
- Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro ar [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £32,348 - £35,333
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyfathrebu
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu i gynorthwyo’r Prif Weithredwr i greu strategaeth cyfathrebu uchelgeisiol ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn cymryd camau cadarnhaol gydag eraill i wireddu uchelgais S4C o wella’r brand gyda’r gynulleidfa, partneriaid a’n rhanddeiliaid.
Byddwch yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i ddatblygu strategaeth 5-mlynedd i esblygu ein proffil ân ddelwedd ymhellach gyda chynulleidfaoedd newydd sydd yn bodoli yn barod boed yng Nghymru neu yn rhyngwladol. Mi fydd gosod cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid wrth galon y cynllun yn hanfodol. Yn ogystal, i allu meithrin perthnasoedd gweithredol yn fewnol ac yn allanol a defnyddio sianeli a llwyfannau amrywiol mewn amgylchedd cyflym, cystadleuol. Yn brofiadol ym maes cyfathrebu, a materion cyhoeddus cewch gyfle i arwain tîm o fewn sefydliad sy'n trawsnewid a thirwedd sydd yn newid yn gyflym.
Wrth weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli byddwch yn gweithio yn strategol ar bob agwedd o waith S4C gan ddangos gwerthoedd ac ymddygiadau 'un tîm'. Byddwch yn cyfathrebu'n rhagweithiol blaenoriaethau S4C ar y cyd ag eraill, ar draws yr holl gyfryngau, gan ddangos effaith a dealltwriaeth glir o ystyriaethau gwleidyddol a gweithredol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau ** Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 03 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol am benodi Swyddog Cyfathrebu (Cymraeg yn hanfodol) i gefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata’r coleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf, a’r gallu i droi gwybodaeth gymhleth yn gopi diddorol a chreadigol o safon uchel. Byddai profiad o greu cynnwys digidol a fideo i'w ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol a sianeli’r we o fantais.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu’n cefnogi gweithgareddau marchnata a chyfathrebu ysgolion academaidd penodol y coleg ac yn gweithio’n ddwyieithog. Byddant yn mynd ati i wella sut mae’r ysgolion academaidd yn cyflwyno eu hunain i’r byd allanol, ynghyd â chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r ysgolion academaidd i sicrhau bod eu hunaniaeth, eu gwerthoedd a'u gweledigaeth yn cael eu cyfleu mewn gwahanol ddeunyddiau. Bydd llawer o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu sy'n ymwneud â recriwtio myfyrwyr a throsi ceisiadau, yn ogystal ag arddangos a dathlu ymchwil.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys perthnasol ar gyfer ystod o brosiectau digidol ac argraffedig. Byddant yn cydweithio yn yr ysgolion academaidd ac adran cyfathrebu ganolog y brifysgol, yn ogystal â chydweithwyr ar draws timau’r coleg ar gyfer y we, marchnata a chyfathrebu.
Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r coleg yn gymuned fywiog, amrywiol ac ysbrydoledig. Mae’r coleg yn cynnwys deg ysgol academaidd, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg, ac rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil.
O fusnes i’r gyfraith a cherddoriaeth i newyddiaduraeth, mae gennym allu deallusol a gydnabyddir yn rhyngwladol i ystyried y cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol allweddol wrth astudio’r economi, gwleidyddiaeth a chymdeithas.
Cewch ragor o wybodaeth am y swydd hon drwy gysylltu â Rhys Phillips, Rheolwr Cyfathrebu, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ([email protected]).
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) ac mae’n benagored.
Cyflog: £28,762 hyd at £33,314 y flwyddyn (Gradd 5)
Polisi’r brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol ym Manyleb yr Unigolyn (a'r Meini Prawf Dymunol os yw'n berthnasol), gan ddefnyddio'r drefn/rhifo fel y maent yn ymddangos ar ffurf datganiad ategol. Cadwch fel 'Datganiad Name_XXXXXBR_Supporting' wrth lanlwytho eich atodiad fel y gellir ei adnabod yn hawdd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 13 Ionawr 2023 Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £28,762 - £33,314
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy’n achub byd natur ac yn ysbrydoli pobl yn un o dirweddau harddaf y DU.
Rydyn ni’n chwilio am arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus i arwain ein gwaith cyfathrebu lleol yng Nghymru, gan weithio gyda chymheiriaid ledled y DU, i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu i ymgysylltu a grymuso, gan addasu dulliau gweithredu sy’n addas i gyd-destun Cymru.
Mae’r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata yn creu strategaethau cyfathrebu i gefnogi ein gweledigaeth bod pobl yn deall, yn cefnogi ac yn ymgysylltu â gwaith RSPB Cymru. Mae’r swydd hon yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu cyfathrebu yng Nghymru, yn unol â strategaeth gyfathrebu’r RSPB.
Mae’r swydd yn rhan o’r tîm Codi Arian a Chyfathrebu, yn arwain tîm o bedwar ac yn adrodd i’r Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu.
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
1. Gwybodaeth gadarn a phrofiad o gynllunio a strategaeth gyfathrebu, rheoleiddio a chydymffurfiaeth a rheoli risg enw da
2. Dealltwriaeth o strategaeth y brand a sut y dylid gweithredu hyn yng nghyd-destun y wlad
3. Sgiliau arwain a rheoli pobl - profiad o arwain a datblygu timau i ddatblygu aelodau o’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad o safon uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
4. Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad
5. Profiad o ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol ynglyn â chyfathrebu
6. Cymhwyster lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu’n gallu dangos gallu cyfatebol drwy brofiad gwaith
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos.
Mae hon yn swydd hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59, Dydd Sul 11 Rhagfyr 2022
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ddydd Gwener 16 Rhagfyr drwy Microsoft Teams.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a restrir uchod.
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r swydd hon.
Cyflog
💰 £42,768 - £47,446
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Reolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
35 awr yr wythnos
Contract cyfnod mamolaeth 1 Rhagfyr 2022 – 3 Ionawr 2024
Gradd F £33,191.01 - £40,682.87 y flwyddyn (pro rata)
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 22 Tachwedd erbyn 5:00yh
Dyddiad Cyfweliad: w/d 28 Tachwedd
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £33,191 - £40,682
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfryngau, Cyfathrebu & Adnoddau Cymru
Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Swyddog Cyfryngau, Cyfathrebu & Adnoddau Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma swydd gyffrous fel aelod o dîm Cymorth Cristnogol Cymru sy’n cydweithio’n agos â swyddogaeth yr adran gyfathrebu ar lefel y DU. Mae Swyddog y Cyfryngau, Cyfathrebu ac Adnoddau Cymru yn helpu i godi mwy o ymwybyddiaeth o waith Cymorth Cristnogol a sicrhau cefnogaeth iddo drwy ddefnyddio cyfryngau amrywiol (cyfryngau newyddion, y cyfryngau cymdeithasol, gwefan etc) a thrwy gynhyrchu adnoddau a deunydd cyfathrebu â chefnogwyr sy’n effeithiol ac o ansawdd uchel. Mae rhan o'r gwaith yn cynnwys cydlynu, datblygu a chyhoeddi adnoddau ar gyfer cefnogwyr Cymorth Cristnogol sy'n ystyried gofynion y Gymraeg a'r cyd-destun Cymreig, gan gynnwys cywiro, golygu a phrawf-ddarllen testun Cymraeg. Amdanoch chi:
Byddwch yn awyddus iawn i weithio ar y cyd ag eglwysi ac eraill er mwyn eu hysbrydoli i fynd ati i weithredu er mwyn goresgyn tlodi ym mhob cwr o’r byd. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, eglwysig, y sector gwirfoddol a’r cyfryngau yng Nghymru a byddwch yn gyfforddus yn cyfathrebu'n greadigol ac yn briodol o ran iaith a naws gyda chynulleidfaoedd eglwysig gwahanol. Bydd gennych brofiad helaeth o waith yn y cyfryngau, cyfathrebu, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus neu brofiad cyfatebol, a gallu amlwg i fanteisio ar wahanol gyfryngau i gynyddu ymwybyddiaeth, diddordeb a chyfranogiad. Bydd gennych brofiad hefyd o gywiro a golygu a phrawf-ddarllen testun Cymraeg.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig da.
Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel sy’n llunio rhestr fer a’r panel cyfweld.
Cyflog
💰 £36,255 - £39,644
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU – rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi swm anhygoel o £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da. Mae'r arian hwn yn ariannu prosiectau a gweithgareddau sy'n trawsnewid cymunedau, yn diogelu ein treftadaeth ac yn cyfoethogi bywydau drwy'r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant. Rydym yn falch o fod yn un o 12 dosbarthwr sy'n gyfrifol am ddyfarnu'r cyllid hwn ledled y DU.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y llynedd llwyddwyd i ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid sy’n trawsnewid bywyd i gymunedau'r DU, gan gefnogi miloedd o brosiectau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Roedd dros wyth o bob deg o'n grantiau o dan £10,000 ac yn mynd i grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad ledled y DU yn gwneud pethau gwych i gefnogi eu cymunedau, yn ystod cyfnod arbennig o anodd.
Rydym hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n arian y Loteri Genedlaethol, gan weithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar gyllid ar gyfer materion pwysig, megis mynd i'r afael ag unigrwydd, anghenion lluosog a chymhleth, iechyd meddwl a dosbarthu arian Cyfrifon Segur.
Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £3.4 biliwn, ac mae £2.7 biliwn ohono'n arian y Loteri Genedlaethol.
Rydym yn ariannu pethau sy'n bwysig – boed hynny'n helpu cymunedau i ymateb yn gadarnhaol i flaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, neu helpu'r DU i gyflawni ei huchelgeisiau cymdeithasol mawr. Mae ein grantiau'n amrywio o £500 hyd at raglenni gwerth miliynau o bunnoedd – gan gefnogi pobl a phrosiectau i wneud pethau eithriadol a dod â syniadau gwych i'w cymuned yn fyw.
Ynglŷn â’r Rôl
Ydych chi eisoes yn gweithio yn y maes Cyfathrebu ac yn ymddiddori mewn Materion Cyhoeddus yng Nghymru? Ydych chi’n hyderus wrth ymdrin â gwleidyddion a rhanddeiliaid uwch? Ydych chi’n gweithio’n fanwl wrth baratoi deunydd ysgrifenedig?
Ymunwch â’n tîm cyfeillgar o 8 aelod, y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddwyieithog a byddwch chi’n creu cynnwys ysgrifenedig a fideo ar gyfer y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chwarae rôl allweddol wrth gyflawni ein rhaglen ymgysylltu i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion a staff eu hetholaeth ledled Cymru. Byddwch chi’n gweithio gydag aelodau pwyllgor, cydweithwyr ledled y DU, a’r sefydliadau anhygoel rydym yn eu hariannu, i adrodd stori’r gwahaniaeth y mae ein hariannu’n ei wneud.
O ddydd i ddydd, byddwch chi’n trefnu gwaith eich hun i’w gyflawni o fewn terfynau amser. Un diwrnod, gallech fod yn trefnu ymweliad ar gyfer aelod pwyllgor. Y diwrnod nesaf, gallech fod yn paratoi briff ar gyfer staff mewn swyddfa etholaeth am y prosiectau a ariennir yn eu hardal. Gallech fod yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg yn cyhoeddi’r cyllid y gall pobl ymgeisio ar ei gyfer neu fynychu ffair ariannu wyneb yn wyneb i gyfarfod â darpar ymgeiswyr.
Os hoffech chi ddefnyddio eich profiad i hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae elusennau a sefydliadau yn eu gwneud gyda’n grantiau yng Nghymru i’n rhanddeiliaid, cysylltwch â ni.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: Llawn amser 37 awr yr wythnos
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 5 Rhagfyr
Lleoliad: Byddwn ni’n cynnal y cyfweliad yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru, naill ai yng Nghaerdydd neu’r Drenewydd yn dibynnu ar leoliad y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr i’r rôl hon.
*Os hoffech chi gael trafodaeth cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad o weithio naill ai yn y maes Cysylltiadau Cyhoeddus, materion cyhoeddus neu rôl gyfathrebu.
- Profiad o ddatblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion.
- Y gallu i weithio’n fanwl a chyrraedd terfynau amser tynn. Profiad o gynhyrchu copi cryno a chywir o fewn terfyn amser, a sgiliau digidol/cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cynhyrchu cynnwys.
- Byddwch chi’n gweithio’n dda ac yn hyderus gyda chydweithwyr uwch.
Meini Prawf Dymunol
- Mae dealltwriaeth a diddordeb mewn materion gwleidyddol Cymru’n ddymunol.
- Mae’r gallu i sgwrsio’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol ar gyfer y rôl. Nid yw sgiliau ysgrifennu Cymraeg da yn hanfodol a darperir hyfforddiant a chefnogaeth gan dîm Iaith Cymraeg y Gronfa.
- Profiad o drefnu digwyddiadau gan gynnwys creu briffiau.
- Byddai profiad o ffilmio, golygu ac is-deitlo fideos yn ddefnyddiol.
I Chi
Rydym yn ceisio datblygu ein staff a chynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad personol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion hael gan gynnwys:
- Cynllun gwyliau blynyddol a phensiwn cwmni hael
- Gweithio hyblyg i gefnogi staff gyda'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan ystyried pethau fel cyfrifoldebau gofalu, addoli a phresenoldeb mewn gwyliau crefyddol
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu â thâl uwch
- Benthyciadau tocynnau tymor a beicio i'r gwaith
- Absenoldeb gwirfoddoli â thâl
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,000 - £27,000
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)
Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (Cyfnod penodol hyd at 2 flynedd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau, byddwch yn cefnogi creu, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol yn ein rhaglen digwyddiadau a hyfforddi, ac ar draws cyfryngau a berchnogir, a enillir ac y telir amdanynt i helpu cyflawni ein Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Byddwch yn defnyddio eich medrau cyfathrebu a’ch gwybodaeth i gefnogi ein hymagwedd ddigidol at gyfathrebu i gyrraedd ein cynulleidfa darged a chefnogi ein nodau strategol.
Meini prawf yn benodol i swydd
Mae’n hanfodol:
· fod gennych chi brofiad neu gymhwyster perthnasol mewn amgylchedd cyfathrebu – yn enwedig arbenigedd mewn defnyddio technoleg ddigidol mewn ymgyrchoedd, fel gweminarau, ffrydio byw a chreu fideo difyr
· bod gennych chi hanes profedig o gynnal ymgyrchoedd cyfathrebu
· eich bod yn dilyn hynt a helynt tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn cyfathrebu digidol ac yn cymhwyso a rhannu’r wybodaeth hon
· eich bod yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol
· eich bod yn meddu ar fedrau ysgrifenedig cryf a phrofiad profedig o ysgrifennu copi ac yn gallu trosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill ei deall (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr)
· eich bod yn unigolyn hawdd mynd ato/ati ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir
· eich bod yn hyderus yn defnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office
· eich bod yn drefnus ac yn meddu ar fedrau rheoli amser da, ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytûn
· eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol, defnyddio’ch blaengaredd, gan hefyd gydweithio â phobl eraill ar draws y sefydliad, gan gynnwys uwch reolwyr
Mae’n fanteisiol eich bod yn meddu ar y canlynol:
· y gallu i fonitro a dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrch gyfathrebu, gan ddefnyddio ystod o ffynonellau sydd ar gael i werthuso gwybodaeth
· medrau dylunio sylfaenol neu brofiad a gwybodaeth ymarferol am Adobe PremierPro, Photoshop ac InDesign
· medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun mawr
· Cyfathrebu a dylanwadu
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni ar gyflymdra
· Gwneud penderfyniadau effeithiol
Dyma’r Cymwyseddau Proffesiynol Cyfathrebu ar gyfer y rôl hon:
· Defnyddio mewnwelediad i nodi cynulleidfaoedd targed a phartneriaid a llywio amcanion, negeseuon ac atebion cyfathrebu · Datblygu’r strategaeth a’r cynllun cyfathrebu. Dewis sianelau a datblygu negeseuon a chynnwys allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd targed
· Nodi meini prawf gwerthuso
· Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau cyfathrebu effeithiol. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni cyfathrebu
· Asesu effaith ac effeithiolrwydd cyfathrebu. Adolygu cyflawni amcanion. Nodi’r gwersi a ddysgwyd a rhannu adborth
Cyflog: £25,860 - £29,430
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, Dydd Llun 8 Awst 20
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hybrid, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at gynlluniau cyfryngau a ddatblygwyd gan yr Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn helpu i gyflawni elfennau allweddol y strategaeth gyfathrebu.
Byddwch yn darparu dull ymatebol iawn o drin y cyfryngau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio a chreu straeon a datblygu cynnwys o safon gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Byddwch yn rheoli anghenion gwybodaeth gyhoeddus, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ysgrifennu copi y Brifysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn y Gymraeg i safon uchel.
Beth rydym yn chwilio amdano
Cynorthwyo'r Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol a lleol sy'n deilwng o newyddion, wedi'u teilwra, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau gan y cyfryngau, delio ag ymholiadau'r wasg, a dod o hyd i arbenigwyr ar gyfer sylwadau yn y cyfryngau.
Drafftio datganiadau i'r wasg ansawdd o fewn protocolau y cytunwyd arnynt. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar bob lefel o bob rhan o'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth a chael cymeradwyaeth.
Cymryd cyfrifoldeb am negeseuon corfforaethol ar gyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform, monitro proffiliau allanol a diogelu enw da'r Brifysgol.
Darparu'r cynnwys diweddaraf i holl grynhowyr tablau Cynghrair gan gysylltu ag adrannau mewnol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ar Wicipedia a phyrth tebyg eraill i sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol yn gywir.
Cefnogi academyddion ar sut y gallant hyrwyddo eu hymchwil/gwaith a chodi eu proffil yn y cyfryngau.
Sefydlu cyfweliadau cyfryngau ar gyfer staff, gan ddarparu sesiynau briffio llawn a phresenoldeb yn ôl yr angen.
Cysylltu â staff ar draws Met Caerdydd i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu pwysig.
Gweithio gydag uwch gydweithwyr i ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer cyhoeddiadau corfforaethol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu'r holl gynnwys (gan gynnwys dwyieithog), prawfddarllen a goruchwylio ansawdd cyhoeddiadau lle bo hynny'n briodol.
Meintioli effaith gweithgarwch cyfathrebu Met Caerdydd drwy gasglu gwybodaeth gan y darparwyr cyfathrebu allanol sy'n gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd ar y canlyniadau i'r tîm Rheoli.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu (Mewnol) yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i gydlynu â chydweithwyr ar draws Met Caerdydd i ddarparu dulliau cyfathrebu mewnol amserol, clir ac effeithiol.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn ymdrin ag ymholiadau cyfathrebu mewnol ac yn helpu i gynghori ar y dull gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd, monitro, diweddaru a gwella sianeli cyfathrebu mewnol yn rheolaidd a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth gyfathrebu integredig yn llwyddiannus.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal.
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Rheolwr Cyfathrebu, trwy e-bostio [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £31,406 - £34,304
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.