Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Uwch Gyfieithydd
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Uwch Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cylch gwaith Caerdydd Ddwyieithog yw cymryd rôl flaenllaw wrth ddatblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Caerdydd gael gafael ar wasanaethau a chymorth o'r un safon yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r tîm yn gyfrifol am hwyluso a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd ar y cyd â’n partneriaid, ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn.
Am Y Swydd
Ydych chi am weld y Gymraeg yn tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'n gweledigaeth ni i greu Caerdydd gwirioneddol ddwyieithog?
Os felly, mae’n bosib taw hon yw’r swydd i chi!
Mae uned Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd yn chwilio am Uwch Gyfieithydd i ymuno â’r tîm. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â gradd dda yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfatebol â phrofiad sylweddol o gyfieithu’n broffesiynol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedr
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg
This is a position for which the ability to speak Welsh is an essential requirement.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfieithu a phrawf ddarllen o’r safon uchaf ac yn cynorthwyo’r Prif Gyfieithydd – Ansawdd gydag unrhyw ddyletswyddau’n ymwneud â’r rôl e.e. dirprwyo mewn cyfarfodydd yn ôl yr angen, cyfrannu at adolygu canllawiau cyfieithu, cynghori aelodau’r tîm ar unrhyw newidiadau i’r derminoleg, cyfrannu at bennu enwau ymgyrchoedd, prosiectau, strategaethau a deunydd cyhoeddus.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedr.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid yw ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Ffion Gruffudd, [email protected].
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
• Canllaw ar Wneud Cais
• Gwneud cais am swyddi gyda ni
• Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter Cyflogeion
• Recriwtio Cyn-Droseddwyr
• Hysbysiad Preifatrwydd
Cyflog
💰 £32,020 - £36,298
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Reolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn rhan o Adran Cyfathrebu a Marchnata’r Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn arwain Tîm Cyfieithu Cymraeg i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg <> Saesneg o’r radd flaenaf i bob adran ac ysgol.
Gan gydweithio'n agos â Deon y Gymraeg ac Academi Iaith Gymraeg y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn darparu ac yn datblygu gwasanaeth sy'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws pob maes a gweithgaredd, gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy.
Swydd Gradd 6 amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.
Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn edrych am Gyfieithydd a Swyddog y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfieithydd a Swyddog Iaith Gymraeg a all ddod â’i angerdd dros y Gymraeg i’r ASB a’n helpu i gyflwyno ein negeseuon o safon fyd-eang i ddefnyddwyr ledled y DU.
Nod yr ASB yw sicrhau bwyd diogel ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn gefnogi defnyddwyr yng Nghymru yw sicrhau bod gan bawb fynediad at yr wybodaeth rydym yn ei rhannu. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu negeseuon hygyrch â phawb yng Nghymru, gan helpu i gyflawni gwaith pwysig yr ASB yn Gymraeg.
Disgrifiad:
Fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg, byddwch yn darparu cyfieithiadau ysgrifenedig, prawfddarllen, golygu, creu ymgyrchoedd a llawer mwy wrth i ni geisio sicrhau darpariaeth gyson o ansawdd uchel sy’n cwmpasu cylch gwaith eang yr ASB yng Nghymru. Yn ogystal â gweithio gyda chydweithwyr yn fewnol, byddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyfieithu Cymraeg er mwyn helpu i safoni terminoleg newydd a rhannu arferion gorau. Ar ben hynny, byddwch yn uwchlwytho cynnwys Cymraeg i’n gwefannau ac yn rheoli ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
Dyma gyfle cyffrous i ymgymryd â gwaith cyfieithu diddorol, amrywiol ac eang sydd yn cefnogi gwaith pwysig yr ASB er budd iechyd y cyhoedd, yn ogystal â hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n gallu ysgrifennu a chyfieithu i’r safon uchaf, bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn maes sy’n cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd, bob dydd. Manteisiwch ar y cyfle i wneud cais i weithio gyda ni fel Cyfieithydd a Swyddog y Gymraeg.
Cyflog
💰 £30,957
Lleoliad
📍 Caerdydd, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru. Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. **Nod y Rôl ** I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio. Prif Gyfrifoldebau · Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd
· Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu
· Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir
· Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol
· Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
• Addysg hyd at lefel gradd
• Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol
• Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol
• Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg
• Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd
• Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir
• Sgiliau prawf ddarllen eithriadol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill
• Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses
• Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
• Sgiliau technoleg gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, meddalwedd cof cyfieithu, E-bost a’r Rhyngrwyd
• Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd • Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm • Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol Dymunol
· Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)
· Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio **Gwneud Cais ** Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helen Lowcock James ar 02920 467 402 Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 yb, 5 Medi 2022. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ar 12 Medi 2022. Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £24,657-£30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.