Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd
Mae S4C yn edrych am Swyddog Gweithredol i Ysgrifennydd y Bwrdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cytundeb Parhaol
Oriau gwaith 21.75 yr wythnos neu rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio oriau tymor yn unig. Plîs nodwch eich dewis ar eich ffurflen gais. Oherwydd natur y swydd, disgwylir rhywfaint o hyblygrwydd o bryd i’w gilydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol.
Cyfnod prawf 6 mis
Gwyliau Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, mae S4C yn cynnig 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn ar sail oriau llawn amser. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser, byddwch yn derbyn lwfans pro rata.
Pensiwn Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 4 Medi 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caernarfon, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.