Swyddi Cymraeg
5 swydd yn cyfateb
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Disgrifiad:
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
· Datblygu cysyniadau
· Storifyrddio
· Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
· Golygu fideo
· Ôl-gynhyrchu
· Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
**Sut i wneud cais: **
Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Cyflog
💰 Ar gais
Lleoliad
📍 Caerdydd, Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynnwys
Mae Rondo yn edrych am Gynhyrchydd Cynnwys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n edrych am Gynhyrchydd profiadol i ymuno â thîm chwaraeon Rondo.
Byddai’r rôl yn berffaith i unigolyn creadigol ac egniol sy’n deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau digidol a llinol.
Bydd gan y Cynhyrchydd Cynnwys gyfrifoldeb dros ddatblygu, cynllunio a chyfleu cynnwys dan frand Sgorio, arlein ac ar deledu llinol, gan ysbrydoli tîm cynhyrchu bywiog i wireddu’r weledigaeth.
Bydd hefyd yn datblygu syniadau newydd i ennill comisiynau nodwedd a dogfen ar deledu ac arlein.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a blaengar gael creu cynnwys cyffrous ac atyniadol, gan ymuno ag adran lwyddiannus.
**Hanfodol **
Ymwybyddiaeth o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth glir o sut i greu cynnwys sy’n gweithio ar bob platfform.
Profiad o greu a chyfleu syniadau creadigol newydd sy’n arwain at gomisiynau yng Nghymru a thu hwnt, o syniadau dogfen llinol i brosiectau uchelgeisiol arlein.
Profiad o amserlennu, a chreu cynnwys, gan sicrhau bod y deunydd yn cael ei gyfleu i safon uchel golygyddol, ar amser ac o fewn cyllideb.
Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Manteisiol **
Dealltwriaeth dechnegol o’r ffyrdd cyfoes o greu a chyfleu cynnwys Sgiliau hunansaethu.
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i drefnu tîm i ymateb i straeon a chyfleu cynnwys ar fyr rybudd.
Diddordeb mewn chwaraeon a phêl-droed. **Nodweddion Personol **
Y gal_lu i ysbrydoli ac ysgogi tîm i fod yn greadigol a beiddgar_
Y gal_lu i fod yn fywiog yn greadigol ac yn finiog yn olygyddol_
Y ga_llu i weithio dan bwysau a heb oruchwyliaeth i safon uchel Y gallu i weithio o fewn tîm a bod yn hyderus i arwain _
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Promos
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Promos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio.
Disgrifiad:
Cynhyrchydd Promos
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. Byddwch yn cyfarwyddo a chynhyrchu deunydd fideo o promos, teasers a showreels i hysbysebion digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu gwylwyr i S4C - naill ai i wylio rhaglenni ar deledu, ar-lein, ar-alw neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo’r promos hyn ar gyfer amrediad eang o gynnwys S4C (drama, adloniant, dogfennau, digwyddiadau), byddwch hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd i hyrwyddo gwahanol elfennau o wasanaeth S4C mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar amrediad o lwyfannau (teledu, cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol ayyb). Yn ddelfrydol byddwch â phrofiad o gyfarwyddo, golygu ac ôl-gynhyrchu ac o gyfarwyddo sesiynau trosleisio. Byddwch a barn olygyddol gref, gwybodaeth eang o dechnegau saethu/golygu, gwybodaeth am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a gwybodaeth eang am arlwy S4C ar draws y llwyfannau gwahanol. Y gallu i fras olygu gan ddefnyddio Avid yn ddymunol. Dyfeisgarwch ac egni’n angenrheidiol.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.
Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 i [email protected] neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
Datblygu cysyniadau
Storifyrddio
Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
Golygu fideo
Ôl-gynhyrchu
Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Sut i wneud cais: Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Lleoliad: Swyddfeydd Aberystwyth neu Gaerdydd
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynorthwyol / Cynhyrchydd Iau
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Gynorthwyol / Gynhyrchydd Iau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gan weithio ar gyfres ffeithiol newydd sbon i S4C, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneuthurwr rhaglenni uchelgeisiol ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu yn ITV Cymru Wales.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynorthwyol profiadol neu gynhyrchydd iau gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen neu faterion cyfoes i ymuno â'n tîm.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn, dawn greadigol i adrodd straeon ac angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel. Byddwch yn hunan saethwr hyderus gyda phrofiad ffilmio blaenorol ar gynyrchiadau, gyda'r gallu i gyfarwyddo cyfranwyr ar leoliad yn ogystal â chriwiau camera a sain. Gan weithio gyda’r Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau a chyfranwyr amrywiol. Byddwch yn chwarae rhan fawr mewn cyfarfodydd cynllunio a chynnwys a bydd disgwyl i chi drefnu'r rhan fwyaf o'r ffilmio ar gyfer y gyfres. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r golygydd ac yn cyfrannu at siapio'r gyfres, yn cynorthwyo’r golygu a’r ôl-gynhyrchu.
Gellid gofyn i chi hefyd gynhyrchu cynnwys arall o fewn tîm Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales.
Meini Prawf Lleiaf -
Profiad o gynhyrchu ffeithiol gydag agwedd greadigol at adrodd straeon, triniaethau a chynhyrchu.
Sgiliau ffilmio hunan saethu cryf
Profiad o systemau golygu/llwytho gyda'r gallu i gynorthwyo cynyrchiadau gyda rhagolygu cynnwys.
Cyfathrebwr gwych gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.
Siaradwr Cymraeg rhugl
_ Meini prawf allweddol -_
Barn olygyddol gadarn gyda gwybodaeth ymarferol drylwyr o faterion Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol.
Sgiliau trefnu gwych gyda hanes profedig o ddatrys problemau o fewn cynyrchiadau.
Mae gweithio i derfynau amser yn hanfodol, ac mae hanes profedig o weithio dan bwysau yn allweddol.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.