Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Mae Cwmni Ymchwil Arad yn edrych am Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cwmni ymchwil wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Arad. Mae Arad yn darparu gwasanaethau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori o’r safon uchaf ar ran cleientiaid yng Nghymru a gweddill y DU. Ymhlith ein cleientiaid presennol mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae gan ein tîm arbenigeddau ym meysydd addysg a sgiliau; datblygiad economaidd; diwylliant a threftadaeth; polisi plant a phobl ifanc; cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Y swydd
Mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at gyflawni prosiectau ymchwil a gwerthuso ansoddol a meintiol. Mae hyn yn cynnwys dylunio offer ymchwil data, cynnal cyfweliadau ansoddol â grwpiau ffocws; cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu arolygon; drafftio cynigion ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a chysylltu'n broffesiynol â chleientiaid allanol.
Rydym yn bwriadu penodi ar lefel ymchwilydd, gyda dilyniant i lefel uwch ymchwilydd. Mae uwch ymchwilwyr yn rheoli astudiaethau ymchwil gyda goruchwyliaeth, cysylltu â chleientiaid, adolygu cyfleoedd tendro; arwain ar ysgrifennu tendrau; cydlynu gwaith maes; drafftio adroddiadau ymchwil ac ymgymryd â chyflwyniadau.
Sgiliau a Phrofiad
**Angenrheidiol **
Bydd gan yr ymgeisydd:
· brofiad o gwblhau gwaith maes (e.e. cyfweliadau, grwpiau ffocws) dadansoddi ac adrodd;
· y gallu i ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth gymhleth;
· y gallu i fod yn flaengar a gweithio’n annibynnol;
· gymhwyster lefel gradd;
· sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i weithio yn uniongyrchol gyda chleientiaid;
· sgiliau TGCh da a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Office.
Manteisiol
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd:
· sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg;
· brofiad fel ymchwilydd neu swyddog polisi;
· gymhwyster ôl-radd neu brofiad mewn gwyddorau cymdeithasol / economeg / dulliau ymchwil;
· brofiad o ysgrifennu adroddiadau;
· ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi yng Nghymru;
· brofiad o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol neu ansoddol. **SUT I WNEUD CAIS **
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cyflwyno at Sioned Lewis at [email protected]. Cysylltwch ar yr e-bost hwnnw hefyd os ydych am drefnu sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn.
Cyflog
💰 £23,625 - £27,825
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Ymchwil
Mae CCW yn edrych am Reolwr Ymchwil
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.
Amdanom ni:
CCW yw’r llais annibynnol a brwd sy’n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim er mwyn helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda’u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn cefnogi anghenion a buddiannau pawb, gan gynnal ac amlygu gwaith ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau newid.
Yr Adran Polisi ac Ymchwil sy’n gyfrifol am ddatblygu ein sail dystiolaeth a fydd yn ei dro yn ein helpu i ddatblygu polisïau er budd defnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn drwy:
· Gynnal ymchwil gyda chwsmeriaid
· Casglu a dadansoddi data cwmni cymharol
· Cadw mewn cysylltiad â chwmnïau a monitro eu perfformiad ar lefel leol
· Datblygu, profi a chytuno ar bolisïau
· Dylanwadu ar gwmnïau, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid.
Ein gwerthoedd:
Rydym yn disgwyl holl gydweithwyr CCW i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCW ac yn eu cefnogi i wneud hynny drwy Egni Positif, Parch i bawb, Ysbryd arloesol, Cyflawni ein haddewidion ac Ymgysylltu fel un.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:
Byddwch yn gyfrifol am gyflawni ymchwil i gefnogi mentrau ac ymgyrchoedd Blaengynllun Gwaith CCW. Byddwch yn arwain y swyddogaeth Ymchwil ac yn nodi a datblygu atebion ymchwil, gan sicrhau darpariaeth ymchwil, wrth dywys CCW ar ganfyddiadau a chasgliadau ymchwil, effeithiau posibl ar bolisi, gofynion ymchwil newydd a phroblemau posibl.
Byddwch yn darparu mewnbwn adeiladol i gynigion ar gyfer ymchwil gyda defnyddwyr, a bydd allbynnau hyn yn llywio polisi cwmni CCW ar gyfer cwsmeriaid dŵr.
Elfen allweddol o’r rôl hon yw herio CCW i gadw ei ddull seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod ymchwil yn cael ei chyfathrebu’n effeithiol yn fewnol a gyda rhanddeiliaid allweddol.
Am bwy rydym ni’n chwilio:
Fel Rheolwr Ymchwil, byddwch yn gallu arddangos:
- Profiad o weithio ym maes ymchwil cwsmeriaid gyda gwahanol dechnegau ymchwil
- Sgiliau datblygu ymchwil a pholisi
- Y gallu i ddehongli canfyddiadau ymchwil (ansoddol a meintiol)
- Y gallu i gynrychioli CCW yn effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol
- Hyder i siarad mewn grwpiau ac mewn digwyddiadau lle gellid gweld gwahanol safbwyntiau
- Dull creadigol o ddatrys problemau
- Profiad o reoli sawl prosiect ar yr un pryd
- Parodrwydd i deithio o gwmpas Cymru a Lloegr
- Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o bryd i’w gilydd.
Dymunol
- Addysg i lefel radd (neu gyfwerth)
- Aelodaeth o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad
- Profiad o weithio mewn amgylchedd defnyddwyr ar faterion ar lefel genedlaethol
- Gwybodaeth am y diwydiant dŵr a/neu reoleiddio cyfleustodau.
Cyflog a Buddion:
Mae CCW yn cynnig cyflog cychwynnol o £33,835 gyda’r cyfle i gynyddu eich cyflog drwy berfformiad i hyd at £36,000.
Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio’n Hyblyg, Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio, Benthyciadau Beiciau, Mynediad am ddim at Health Assured a llawer mwy.
Cyflog
💰 £33,835
Lleoliad
📍 Birmingham, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgoloriaeth Ymchwil tair blynedd yn Ysgol Reoli Caerdydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ysgoloriaeth Ymchwil tair blynedd yn Ysgol Reoli Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am berson brwdfrydig i ymgymryd â doethuriaeth mewn Busnes Cynaliadwy. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn Ysgoloriaeth tair blynedd a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd yr ymchwil yn nodi ac yn tynnu sylw at yr arferion gorau o ran Cynaliadwyedd mewn busnes ac yn rhoi sylw i'r dulliau y mae busnesau Cymru yn eu cymryd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol, tra hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd lleol, gan ddiogelu cymunedau Cymru a'r Iaith Gymraeg.
Mae'r ysgoloriaeth yn agored i unrhyw un o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig (DU) a'r UE sy'n bodloni amodau trigolion y DU. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, er mwyn cynnal a chyflwyno'r ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad:
Effaith debygol: Canlyniad y gwaith fydd i gefnogi arfer gorau mewn busnes, arddangos arfer da Cymru wrth arwain y ffordd mewn busnes cynaliadwy a chreu canllaw cymorth ar gyfer busnesau newydd a phresennol, mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd diwydiannol (e.e. gwledig, trefol a arfordirol) i ehangu a datblygu ffyrdd sy'n diwallu anghenion y gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd naturiol.
Yr ysgoloriaeth: O Hydref 2022, am uchafswm o 3 blynedd (os nad yw'r ymgeisydd wedi’i gwblhau o fewn y cyfnod hwn, bydd angen iddynt ariannu gweddill y PhD eu hunain)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd cwrs PhD a thâl grant cynhaliaeth pob blwyddyn. Y tâl a delir i'r ysgolhaig bob blwyddyn fydd £16,062. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o staff Met Caerdydd gan gynnwys mynychu cynadleddau, symposiwm posteri, sesiynau datblygiad proffesiynol, a chyfarfodydd o leiaf unwaith bob 2 fis gyda'u goruchwyliwr. Mae angen mynychu cyfarfodydd goruchwylio yn rheolaidd fel rhan o'r contract. Cefnogir gwiethio hybrid, ac mae dilyniant PhD yn dibynnu ar gwblhau Adolygiadau Cynnydd yn foddhaol ar ôl 6 mis, 12 mis a 24 mis.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17:00 Dydd Iau 30 Mehefin 2022, i wneud cais, anfonwch CV gyda datganiad ategol byr at [email protected]
Cyflog
💰 £16,062
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.