Swyddi Cymraeg — Caerdydd
148 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU – rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi swm anhygoel o £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da. Mae'r arian hwn yn ariannu prosiectau a gweithgareddau sy'n trawsnewid cymunedau, yn diogelu ein treftadaeth ac yn cyfoethogi bywydau drwy'r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant. Rydym yn falch o fod yn un o 12 dosbarthwr sy'n gyfrifol am ddyfarnu'r cyllid hwn ledled y DU.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y llynedd llwyddwyd i ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid sy’n trawsnewid bywyd i gymunedau'r DU, gan gefnogi miloedd o brosiectau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Roedd dros wyth o bob deg o'n grantiau o dan £10,000 ac yn mynd i grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad ledled y DU yn gwneud pethau gwych i gefnogi eu cymunedau, yn ystod cyfnod arbennig o anodd.
Rydym hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n arian y Loteri Genedlaethol, gan weithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar gyllid ar gyfer materion pwysig, megis mynd i'r afael ag unigrwydd, anghenion lluosog a chymhleth, iechyd meddwl a dosbarthu arian Cyfrifon Segur.
Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £3.4 biliwn, ac mae £2.7 biliwn ohono'n arian y Loteri Genedlaethol.
Rydym yn ariannu pethau sy'n bwysig – boed hynny'n helpu cymunedau i ymateb yn gadarnhaol i flaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, neu helpu'r DU i gyflawni ei huchelgeisiau cymdeithasol mawr. Mae ein grantiau'n amrywio o £500 hyd at raglenni gwerth miliynau o bunnoedd – gan gefnogi pobl a phrosiectau i wneud pethau eithriadol a dod â syniadau gwych i'w cymuned yn fyw.
Ynglŷn â’r Rôl
Ydych chi eisoes yn gweithio yn y maes Cyfathrebu ac yn ymddiddori mewn Materion Cyhoeddus yng Nghymru? Ydych chi’n hyderus wrth ymdrin â gwleidyddion a rhanddeiliaid uwch? Ydych chi’n gweithio’n fanwl wrth baratoi deunydd ysgrifenedig?
Ymunwch â’n tîm cyfeillgar o 8 aelod, y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddwyieithog a byddwch chi’n creu cynnwys ysgrifenedig a fideo ar gyfer y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chwarae rôl allweddol wrth gyflawni ein rhaglen ymgysylltu i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion a staff eu hetholaeth ledled Cymru. Byddwch chi’n gweithio gydag aelodau pwyllgor, cydweithwyr ledled y DU, a’r sefydliadau anhygoel rydym yn eu hariannu, i adrodd stori’r gwahaniaeth y mae ein hariannu’n ei wneud.
O ddydd i ddydd, byddwch chi’n trefnu gwaith eich hun i’w gyflawni o fewn terfynau amser. Un diwrnod, gallech fod yn trefnu ymweliad ar gyfer aelod pwyllgor. Y diwrnod nesaf, gallech fod yn paratoi briff ar gyfer staff mewn swyddfa etholaeth am y prosiectau a ariennir yn eu hardal. Gallech fod yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg yn cyhoeddi’r cyllid y gall pobl ymgeisio ar ei gyfer neu fynychu ffair ariannu wyneb yn wyneb i gyfarfod â darpar ymgeiswyr.
Os hoffech chi ddefnyddio eich profiad i hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae elusennau a sefydliadau yn eu gwneud gyda’n grantiau yng Nghymru i’n rhanddeiliaid, cysylltwch â ni.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: Llawn amser 37 awr yr wythnos
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 5 Rhagfyr
Lleoliad: Byddwn ni’n cynnal y cyfweliad yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru, naill ai yng Nghaerdydd neu’r Drenewydd yn dibynnu ar leoliad y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr i’r rôl hon.
*Os hoffech chi gael trafodaeth cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad o weithio naill ai yn y maes Cysylltiadau Cyhoeddus, materion cyhoeddus neu rôl gyfathrebu.
- Profiad o ddatblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion.
- Y gallu i weithio’n fanwl a chyrraedd terfynau amser tynn. Profiad o gynhyrchu copi cryno a chywir o fewn terfyn amser, a sgiliau digidol/cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cynhyrchu cynnwys.
- Byddwch chi’n gweithio’n dda ac yn hyderus gyda chydweithwyr uwch.
Meini Prawf Dymunol
- Mae dealltwriaeth a diddordeb mewn materion gwleidyddol Cymru’n ddymunol.
- Mae’r gallu i sgwrsio’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol ar gyfer y rôl. Nid yw sgiliau ysgrifennu Cymraeg da yn hanfodol a darperir hyfforddiant a chefnogaeth gan dîm Iaith Cymraeg y Gronfa.
- Profiad o drefnu digwyddiadau gan gynnwys creu briffiau.
- Byddai profiad o ffilmio, golygu ac is-deitlo fideos yn ddefnyddiol.
I Chi
Rydym yn ceisio datblygu ein staff a chynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad personol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion hael gan gynnwys:
- Cynllun gwyliau blynyddol a phensiwn cwmni hael
- Gweithio hyblyg i gefnogi staff gyda'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan ystyried pethau fel cyfrifoldebau gofalu, addoli a phresenoldeb mewn gwyliau crefyddol
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu â thâl uwch
- Benthyciadau tocynnau tymor a beicio i'r gwaith
- Absenoldeb gwirfoddoli â thâl
Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £25,000 - £27,000
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr gweithrediadau TG a digidol
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Reolwr gweithrediadau TG a digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â thîm TG Urdd. Rydym yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu'r systemau a'r gefnogaeth TG sy'n ofynnol i symud ymlaen yn unol â'n cynllun strategol.
Mae pandemig COVID wedi cyflymu ein cynlluniau trawsnewid digidol ac rydym yng nghanol ein taith i strategaeth cwmwl yn gyntaf. Rydym yn trosglwyddo ein prif systemau data i Microsoft Dynamics 365 ac yn ehangu ein defnydd o feddalwedd Microsoft 365 a Microsoft Azure.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan bwysig mewn sefydlu yr adran TG yn gadarn fel partner busnes pwysig i bob un o adrannau’r Urdd. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd efo profiad eang yn y maes TG, o bosib wedi rheoli rhan o wasanaeth TG corfforaethol, ac yn gyfforddus yn gweithio efo, a dysgu am ddatblygiadau newydd.
Croesawir ceisiadau oddi wrth ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â Chymry Cymraeg. Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth TG) ar 07976003341 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 21 Tachwedd 2022.
Dyddiad Cyfweld – Yn unol a ceisiadau a trafodaeth efo ymgeiswyr. Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £37,519 - £42,404
Lleoliad
📍 Hyblyg, Llangrannog, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Tîm
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn edrych am Swyddog Cefnogi Tîm
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r rôl o gadw ffiniau a threfniadau etholiadol ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru dan arolwg a gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau sy’n ymddangos i’r Comisiwn yn ddymunol er llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’n gorff statudol â swyddogaethau statudol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff a noddir gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, sydd â’r rôl o gadw’r etholaethau seneddol yng Nghymru dan arolwg, yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd).
Diben y Swydd:
Mae deiliad y swydd yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu am rhoi gymorth i tim y Comisiwn gan gynnwys dyletswyddau swyddfa cyffredinol, gan helpu i gydlynu'r broses achredu o ddyfarniadau amrywiol yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith cymorth busnes a chymorth ariannol arall yn ôl y gofyn. Mae deiliad y swydd hefyd yn ymgymryd â'r un rôl ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Swydd ddisgrifiad:
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Comisiwn gan gynnwys cymryd galwadau ffôn ac ateb ymholiadau lle bo hynny'n bosibl. Trosglwyddo galwadau i'r cydweithwyr priodol pan na allant ateb ymholiad.
Prosesu'r post sy'n dod i mewn.
Cysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Swyddfa'r Cabinet, cyflenwyr, landlordiaid a Chomisiynwyr.
Helpu i gydlynu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Comisiwn Fiiniau i Gymru gan gynnwys cymryd cofnodion, ymweliadau safle, archebion gwestai, a Chyfarfodydd Cyhoeddus achlysurol, os oes angen.
Cynorthwyo gyda'r camau gofynnol i'r Comisiwn gael achrediadau amrywiol yn y gweithle e.e. Gwobr y Ddraig Werdd, IIP a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach.
Cynnal a diweddaru cronfeydd data'r Comisiwn.
Darparu cymorth Cyllid pan fo'n ofynnol gan y Rheolwr Cyllid.
Darparu cymorth busnes pan fo'n ofynnol gan y Pennaeth Busnes e.e. cymorth gweinyddol ar gyfer recriwtio, asesiadau DSE, cysylltu â'r Rheolwr Adeiladu a dod o hyd i gyflenwyr newydd.
Adeiladu a chynnal perthynas waith gref â rhanddeiliaid allweddol.
Dyletswyddau cyffredinol eraill.
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Ysgol yn cynnig BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) (rhaglen ddwyieithog). Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 700 awr o brofiad lleoliad gwaith dros y tair blynedd o astudio ac mae'n cyfuno theori ac ymarfer.
Bydd deiliad y swydd yn atebol am addysgu, datblygu'r cwricwlwm, ymchwil a dysgu proffesiynol yn y maes. Byddant yn defnyddio strategaethau dysgu arloesol a chynhwysol i gymell a chefnogi myfyrwyr i gyflawni canlyniadau academaidd a phroffesiynol rhagorol.
Bydd deiliad y swydd yn addysgu ac yn asesu ar y BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) (rhaglen ddwyieithog), ac yn gweithio gyda lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion Cynradd i rymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial tra byddant ar leoliad.
Cyflog
💰 £42,155 - £47,423
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Mae Estyn yn edrych am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n frwd am TG a gwasanaeth cwsmeriaid? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog. Fel rhan o’n tîm Systemau Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn y Gwasanaethau Canolog, bydd gennych chi rôl hanfodol mewn cefnogi cyflawni ein hamcanion allweddol.
Mae ein Gweinyddwyr Systemau Gwybodaeth yn helpu i gynnal a chefnogi’r systemau busnes hanfodol sy’n ategu ein gwaith arolygu a chyngor.
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal a chadw ein cofnodion a’n systemau rheoli gwybodaeth (gan gynnwys SharePoint ar-lein, yr allrwyd a systemau pwrpasol eraill) ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth TG technegol i ddefnyddwyr systemau i sicrhau y caiff ein swyddogaethau allweddol eu cyflawni. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gwahanol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd a systemau TG, er enghraifft:
· Darparu cymorth gweinyddol a thechnegol effeithiol a defnyddiol ar gyfer yr holl systemau TG wyneb-yn-wyneb, drwy’r e-bost a thros y ffôn, gan gymryd camau angenrheidiol, lle bo hynny’n briodol
· Ychwanegu, tynnu a diweddaru caniatâd defnyddwyr a strwythurau safleoedd
· Awgrymu gwelliannau i brosesau gan ddefnyddio technoleg
· Datrys unrhyw faterion y rhoddir gwybod amdanynt
· Ymateb i ymholiadau technegol a helpu defnyddwyr systemau TG i ddatrys problemau
· Paratoi nodiadau arweiniad a fideos ‘sut i’ i gynorthwyo defnyddwyr a datrys problemau cyffredin
· Paratoi a darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr
· Darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau systemau gwybodaeth
· Sicrhau diogelwch safleoedd drwy reolyddion mynediad, creu copïau wrth gefn a chynnal a chadw polisïau diogelwch
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol:
· bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da
· eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office 365
· eich bod yn drefnus, yn gallu rheoli amser yn dda a’ch bod yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn terfynau amser cytûn
· eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol
· eich bod yn deall sut i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd da
· eich bod yn gallu nodi a datrys problemau’n gyflym gan ddilyn prosesau sefydledig
· eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff
· eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad ar yr un pryd
· eich bod yn gallu canolbwyntio a chyflawni mewn amgylchedd gweithio hybrid
Mae’n fanteisiol:
· bod gennych brofiad o greu cynnwys a gweinyddu SharePoint Online
· bod gennych brofiad o weinyddu systemau gwybodaeth ac egwyddorion diogelwch
· bod gennych brofiad o ddatblygu/cymhwyso dangosfyrddau Microsoft Power Apps, Power Automate a Power BI
· eich bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun cyflawn
· Newid a gwella
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni’n gyflym
Cyflog - £21,300 - £24,630 (codiad cyflog yn yr arfaeth)
Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim.
Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, ddydd Llun, 14 Tachwedd 2022.
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr Cyllid, mae’r swydd yma yn rhoi cyfle unigryw i unigolyn gyda chymwyster cyrifeg proffesiynol i ddarparu gwasanaethau rheolaeth cyllid cadarn ac adrodd ar berfformiad a rhagolygon ariannol y mudiad yn gyson ac yn gywir.
Mae’r mudiad yn awyddus i fuddsoddi yn yr adran gyllid, er mwyn gwellhau y modd y mae perfformiad ariannol yn cael ei adrodd a dadansoddi, a sicrhau bod rheolaeth cadarn dros holl brosesau ariannol y mudiad ar bob adeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenno Williams (Cyfarwyddwr Cyllid) ar 07836 583868 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 9ed o Dachwedd
Dyddiad Cyfweld – I’w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £42,828 - £47,483
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr x2 (Iaith Gymraeg)
Mae Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn edrych am Gynghorydd Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr x2 (Iaith Gymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Mae'n amser gwych i weithio i'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae gennym fwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen ac mae ein graddedigion ym mhob man – ledled Cymru ac o bob cefndir. Mae gennym dros 50 mlynedd o brofiad o ddarparu dysgu o bell â chymorth ac, yn 2021, ni oedd y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.
Ni allwn wneud hyn heb ein staff – dyna pam mae recriwtio pobl dalentog ac uchelgeisiol ymhlith ein prif flaenoriaethau.
Cymerwch gip ar y fideo hwn i ddysgu mwy am Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
**Y rolau **
Mae gennym sawl cyfle newydd a chyffrous i weithwyr gwasanaethau cwsmeriaid proffesiynol ymuno â'n tîm rheng flaen yn y Gwasanaethau Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a phobl sy'n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau ynglŷn â'u dysgu.
Bydd y rôl yn cynnwys cryn dipyn o waith dros y ffôn (gwneud a derbyn galwadau) ynghyd â defnyddio e-bost, llythyrau, gwe-sgwrsio a dulliau eraill yn ôl yr angen. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda systemau a gwybodaeth gymhleth gan ein bod yn defnyddio sawl cronfa ddata i gadw manylion myfyrwyr, cwmnïau ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod ymholwyr a myfyrwyr yn cael gwybodaeth gywir a byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol er mwyn darparu cymorth.
Sgiliau a phrofiad
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i lenwi'r rolau hyn – pobl sy'n dod ag egni i'w gwaith bob dydd ac sy'n gallu darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog. Mae angen pobl arnom sy'n gallu cyfathrebu'n effeithiol â myfyrwyr dros y ffôn ac yn ysgrifenedig a defnyddio systemau TG i gefnogi eu gwaith. Byddant yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn gallu cydweithio ac addasu i gyflawni'r nod. Byddant yn ymuno â thîm profiadol o hunanddechreuwyr sydd bob amser yn anelu at ragoriaeth. Maent yn credu mewn cefnogi ei gilydd a gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr.
Rydym yn credu bod ein myfyrwyr yn bobl ragorol, a dyna pam rydym am i bobl ragorol wneud cais.
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys proses sefydlu drylwyr yn y sefydliad ac adolygiadau rheolaidd o'ch anghenion hyfforddiant a datblygu.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o fuddiannau sy'n cefnogi ein cyflogeion a'u teuluoedd yn yr hirdymor. Mae'r buddiannau'n cynnwys cynllun pensiwn deniadol a 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn i staff cymorth, yn ogystal â Gwyliau Banc a diwrnodau dros y Nadolig pan fydd y swyddfa ar gau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y rôl hon yn gofyn am ychydig o hyblygrwydd er mwyn gwasanaethu anghenion y busnes.
**Gwerthoedd ein Tîm **
Mae ein gwerthoedd yn y Tîm Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr, Cymru yn bwysig i ni, ac rydym yn disgwyl i'n cydweithwyr ymddwyn mewn ffordd sy'n hybu'r rhain. _Ymddiriedaeth _
Rydym yn ymddiried yn ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd i wneud ein gwaith gorau a chymryd cyfrifoldeb personol am ein rolau unigryw o fewn y tîm. Cydymdeimlad
Rydym yn ymateb yn gydymdeimladol tuag at ein myfyrwyr, tuag at ein gilydd, ac yn y penderfyniadau a wnawn. Cynhwysiant_ _
Rydym yn gynhwysol, yn croesawu amrywiaeth ac yn cymeradwyo unigoliaeth – byddwch yn chi eich hun! Datblygiad
Rydym bob amser yn dysgu ac yn esblygu yr hyn rydym yn ei wneud i greu'r profiad gorau i'n myfyrwyr a'n staff.
**Sut i wneud cais **
Er mwyn gwneud cais, anfonwch ffurflen gais wedi'i chwblhau i [email protected]. Bydd angen i chi gynnwys rhif cyfeirnod y swydd yn nheitl eich e-bost, a dylai eich ffurflen gais nodi'n glir sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol sydd wedi'u cynnwys yn y disgrifiad swydd.
Mae'r ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael o'r dolenni sydd i'w gweld ar dudalen we swyddi'r Brifysgol Agored.
Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn wythnos i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb ac yn eich annog i wneud cais am gyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol.
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cyflogaeth ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £21,630 - £23,71
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Rydym yn chwilio am berson deinamig, ymroddgar a brwdfrydig i ymgymryd â’r swydd allweddol hon.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Ceren Roberts (Cyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd) ar [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Cyflog
💰 £37, 519 - £42,404
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio fel hyfforddwr, creu a chyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i gwsmeriaid a dangos dealltwriaeth dda o'r egwyddorion y tu ôl i ddysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â’r Gymraeg, a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gefnogi sefydliad.
Mae’r swydd yn addas i’w rhannu swydd ac mae'n un dros dro am 12 mis.
Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedredd.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy fynd i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn ymgeisio, ffoniwch John Latchem-Agnew ar 07966 228534.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n llawn syniadau am straeon uchelgeisiol.
Fel Newyddiadurwr o fewn adran Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales byddwch yn gweithio ar draws ein cynnwys i S4C gan ymchwilio ar gyfer cyfres Y Byd ar Bedwar yn ogystal â datblygu straeon i gynulleidfa Hansh. Byddwch yn ymchwilio, yn cynllunio’r ffilmio ac yn creu cynnwys digidol fel rhan o’r tîm. Byddwch yn angerddol am gynrychioli cymunedau amrywiol Cymru ac yn cynnig syniadau creadigol sy’n herio’r drefn.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd yn chwilio am her ac eisiau profiad o greu cynnwys ffurf hir, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.
Cytundeb 6 mis.
Cyflog : Yn ôl profiad
Dyddiad cau: 28ain o Hydref
**Sgiliau Allweddol **-
- Sgiliau ymchwil trylwyr a’r gallu i ddatblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau.
- Ymwybyddiaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
- Dealltwriaeth dda o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol.
- Yn angerddol dros Gymru a phwy
Nodweddion y rôl -
- Datblygu a chynnig syniadau yn gyson
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol.
- Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant: Cyfrwng Cymraeg
Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn edrych am Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant: Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hynod falch o fod yn ehangu ei dîm, ac yn cynnig cyfle cyffrous i'r person priodol i lenwi’r ddwy swydd ganlynol: Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant: Cyfrwng Cymraeg (WL/CBDO/09/22)
£27,741 y flwyddyn, yn codi i £28,226 ar dderbyn cadarnhad mewn swydd
37 awr yr wythnos
Y swyddfa wedi’i lleoli ym Mae Colwyn, Caerdydd neu Cross Hands (gweithio ystwyth yn ei le)
Disgrifiad: Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn rhan o’r meini prawf hanfodol i'r rôl hon o gefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol ledled Cymru i ateb y gofyn cynyddol am ofal plant o Ansawdd, sydd wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gyflenwi parthed y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio; datblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu Lleoliadau a chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r swydd hon yn un newydd, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm sydd wedi ei gymell yn gynhenid i weithio i ddwyn gwelliant i’r sector Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg. Mae cynigion o gyflogaeth yn amodol ar eirdaon boddhaol, gwiriadau adnabod a gwiriadau’r GDG ar y lefel briodol.
Cyflog
💰 £27,741 - £28,226
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Caerdydd, Cross Hands, Gweithio ystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd – Practis Cymru
Mae Odgers Berndtson yn edrych am Ymchwilydd – Practis Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis Cymru llwyddiannus, gan weithio ar aseiniadau chwilio gweithredol ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector nid-er-elw.
Odgers Berndtson yw cwmni chwilio gweithredol blaenaf y Deyrnas Unedig (DU), gyda’r tîm mwyaf o ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol. Ni yw’r unig gwmni chwilio gweithredol rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Mae hwn yn gyfle go unigryw i wneud cyfraniad gwych i ddyfodol Cymru wrth benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau yn cynnwys rhai o’r rolau uchaf yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Gwasanaethau Ariannol Admiral a Chanolfan Mileniwm Cymru.
**Y rôl **
Rôl Ymchwilydd yw adnabod, cysylltu ac ymgysylltu â gweithwyr newydd posibl ar gyfer ein cleientiaid. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn ennill dealltwriaeth o anghenion y sefydliad cleient cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a mynd atynt, gan asesu eu diddordeb a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl. Mae’n rôl heriol sy’n gofyn am ddyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio o fewn cwmni chwilio gweithredol blaenaf y DU, ond mae hefyd yn golygu bod mewn cysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu oddi wrthynt. Mae’r gofynion hanfodol fel a ganlyn:
- Gweithio’n dda dan bwysau a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Ymagwedd drefnus a rhoi sylw rhagorol i fanylion
- Bod yn gadarn ac yn greadigol ac arddangos atebolrwydd personol
- Angerdd gwirioneddol dros faterion cyfoes sy’n ymwneud â busnes
**Cais **
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl, drwy e-bost at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, drwy [email protected], neu ffoniwch 02920 783 050.
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithrediadau
Mae National Theatre Wales yn edrych am Gydlynydd Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a hawdd mynd ato sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur i fod yn Gydlynydd Gweithrediadau newydd i ni.
Cyflog: £28,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 5pm ddydd Sul 23 Hydref
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 31 Hydref
Cyflog
💰 £28,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i reoli’r tîm Addysg Bellach a Phrentisiaethau a rheoli’r prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr er mwyn gweithredu’r strategaeth ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli tîm a phrosiectau amrywiol.
Cyflog
💰 £44,737 – £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu’r Gymraeg
Mae Undeb Rygbi Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp URC am glywed gennych os oes gyda chi’r angerdd, yr egni a’r weledigaeth i helpu llunio ac arwain ar ddatblygu a gweithredu strategaeth iaith a diwylliant newydd.
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig ar draws y busnes i hyrwyddo gwerth a manteision cynyddu defnydd y Gymraeg a hyrwyddo diwylliant Cymreig i rygbi Cymru.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 30 Medi 2022.
Bydd cyfweliadau yn dechrau yr wythnos o 17 Hydref 2022
Cyflog
💰 £30,000 – £35,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Darllenwch fwy amdanom ni yma
Am Y Swydd
Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol yn cynorthwyo i gyflawni strategaeth farchnata gyffredinol Rhentu Doeth Cymru er mwyn sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yng Nghymru yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gan weithio'n agos gyda'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, bydd y rôl hon yn cynnwys datblygu cyfathrebiadau a marchnata, cynllunio a chyflawni effeithiol, yn ogystal â chynnal perthnasoedd gwaith da â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant i gefnogi ymgyrchoedd a phrosiectau Rhentu Doeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a chyflawni prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau rheolaeth dros enw da’r brand.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2+ mlynedd) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol Yn siaradwr Cymraeg Rhugl (i Lefel Uwch 4)
Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio a geir o fewn y Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator (dymunol)
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar newid i'r sector rhentu preifat yng Nghymru; gan weithio'n agos gyda phartneriaid o lywodraeth leol ar draws 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, landlordiaid a sefydliadau asiantau a chwmnïau hyfforddi i sicrhau ei lwyddiant.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch gyda Rhiannon Williams - [email protected].
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 4 - Uwch.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Rhiannon Williams - [email protected].
Cyflog
💰 £25,927 - £30,095
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Marchnata Cymdeithasol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych am Gydlynydd Marchnata Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at weithredu a gwerthuso prosiectau marchnata cymdeithasol cenedlaethol integredig, gyda'r bwriad o hyrwyddo ymddygiadau iach ymhlith y cyhoedd yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gyfle cyffrous i fod yn gyfrannwr gweithgar o fewn maes pwnc pwysig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant grwpiau poblogaeth ledled Cymru.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata, hysbysebu neu gyfathrebu gyda phrofiad o weithredu ymgyrchoedd a chreu cynnwys atyniadol sydd â'r nod o hyrwyddo effaith gadarnhaol. Bydd gennych brofiad o weithio ar draws amrywiaeth o sianeli a phlatfformau digidol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis Tîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Byrddau Iechyd, y trydydd sector ac wrth gwrs, y cyhoedd.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio o fewn strwythur staff pwrpasol ar gyfer dulliau gwaith systemau ac amlasiantaethol o ran gwella iechyd. Mae’r Is-adran yn rhoi pwyslais mawr ar ymarfer, ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â chymhwyso gwyddor ymddygiad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o 2 flynedd.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn edrych am Gyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg Prifysgol Cymru, Gwasg genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyhoeddwr i arwain gwasgnod ffeithiol a lansiwyd ganddi yn ddiweddar, Calon.
Bydd y Cyhoeddwr yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu’r gwasgnod newydd hwn, gan gynnwys comisiynu a datblygu cynnwys llyfrau newydd cyffrous i’r portffolio. Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr, bydd y Cyhoeddwr yn cymhwyso ei wybodaeth a’i brofiad o’r farchnad fasnachol yn y fenter ddiweddar hon.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn egnïol, yn greadigol ac yn ymroddedig i wneud y cyfle cyffrous hwn yn llwyddiant. Bydd ganddo brofiad solet mewn comisiynu ar gyfer marchnad ffeithiol, bydd yn gallu adnabod a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer llyfrau newydd, a datblygu cynnwys yn greadigol â chynulleidfa ryngwladol mewn golwg. Dylai darpar ymgeiswyr fod â sgiliau rheoli awduron rhagorol, dylent fod â ffocws masnachol, a dylent fod â phrofiad o weithio gyda swyddogion cyhoeddusrwydd a phartneriaid allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r farchnad fasnachol yn rhagweithiol â chydweithwyr ym mhob rhan o’r Wasg. Byddai rhwydweithiau perthnasol ag awduron a phartneriaid allanol, a diddordeb brwd mewn pynciau Cymreig, yn ddymunol. Mae’r gallu i sgwrsio a chyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddymunol am y swydd hon.
Mae’r Wasg yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr amrywiol. Mae’r swydd dros gyfnod mamolaeth Cyhoeddwr Calon. Gall y swydd fod yn swydd amser llawn ac wedi’i lleoli yn adeilad urddasol Cofrestrfa’r Brifysgol yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae hyblygrwydd yn bosibl i’r ymgeisydd priodol.
Y cyflog yw hyd at £33,500 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn, gan ddibynnu ar brofiad, â gwyliau hael o 25 diwrnod ynghyd ag 8 diwrnod statudol a 7 diwrnod arferol y flwyddyn, pro rata. Bydd deiliad y swydd yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y Brifysgol.
Os oes gennych ymholiadau am y swydd ac i ofyn am gopi o'r swydd ddisgrifiad, cysylltwch â[email protected] Os hoffech wneud cais am y rôl, anfonwch lythyr esboniadola CV at Eleri Lewis, Partner Busnes Adnoddau
Dynol:[email protected]
Dyddiad cau: dydd Mawrth 13 Medi 2022
Cyflog
💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Mae ColegauCymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl gyfathrebu a marchnata cyffrous a heriol yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr Polisi a Materion Cyhoeddus ac adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal a datblygu llwyfannau marchnata digidol i raddau helaeth i hyrwyddo buddion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac i gyfleu negeseuon allweddol y sefydliad yn glir i'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Manylion pellach ar sut i gyflwyno cais ar ein gwefan: https://www.colegau.cymru/cy/page/careers
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi cydweithwyr ColegauCymru i ddatblygu ein hunaniaeth brand ac ehangu ymwybyddiaeth o bwrpas, gweithgareddau a blaenoriaethau ColegauCymru.
Ar hyn o bryd mae hwn yn gyfle gweithio gartref yn bennaf ond bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd, felly mae'r gallu i gymudo yma yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol.
**Y Broses Ymgeisio **
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni pob agwedd ar y Fanyleb Person. Yn ogystal, er mwyn ystyried eich cais, atebwch y pedwar cwestiwn isod (uchafswm o 200 gair fesul cwestiwn).
Yn eich barn chi, pa sgiliau sydd eu hangen ar Swyddog Cyfathrebu a Marchnata i fod yn llwyddiannus?
Rhowch enghraifft o sut y byddech chi'n mesur ymgyrch farchnata ddigidol.
Amlinellwch pa Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y byddech chi'n eu defnyddio mewn adroddiadau gwefan a chyfryngau cymdeithasol.
Amlinellwch pa welliannau cyfathrebu digidol y byddech yn eu hargymell i ColegauCymru.
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i [email protected]
**Dyddiad Cau **
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw Dydd Mercher 14 Medi 2022 am 12.00pm.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. **Cyfweliadau **
Cynhelir cyfweliadau Dydd Llun 26 Medi 2022 wyneb i wyneb yn ein swyddfeydd yn Tongwynlais, Caerdydd.
Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cyflog
💰 £25,612 - £28,756 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi rhan-amser yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd CAERDYDD CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Dyma rôl rhan-amser ac fe’i gynigir am hyd at 18.5 awr yr wythnos.
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Ifan Brychan, Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog yn:
Mae’r swydd yn rhan-amser i weithio hyd at 18.5 awr yr wythnos.
Mae’r cyflog a gyflwynir yn berthnasol i 37 awr yr wythnos serch hynny ac – gan ei fod yn swydd rhan-amser – bydd yn cael ei gynnig pro rata.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer mawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy ymweld â'n gwefan www.caerdydd.gov.uk
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith www.imewniwaithcaerdydd.co.uk neu ar 029 20871071
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Trwyddedu
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Trwyddedu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn elwa ar we-systemau a ddyluniwyd ar gyfer y cwsmer, technoleg ffôn canolfannau cyswllt, trefniadau partneriaeth gyda’r 22 o awdurdod lleol ar draws Cymru, a chymorth ymgyrch farchnata gynhwysfawr dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Am Y Swydd
Rydym am recriwtio nifer o unigolion brwdfrydig i ymuno â’n tîm fel Swyddogion Trwyddedu yng Nghanolfan Gyswllt Rhentu Doeth Cymru i gynorthwyo â’r gwaith o roi gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid dros y ffôn ac e-bost.
Mae gofyn i Swyddogion Trwyddedu gefnogi a chynghori amrywiaeth eang o gwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol. Bydd deiliaid y swydd yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth cwsmeriaid o’r lefel uchaf a bod eu hymholiadau’n cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf lle y bo’n bosibl.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu, cynllunio, blaenoriaethu a dadansoddi gwych a byddant yn frwd ac yn gyfrifol wrth eu gwaith.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio gartref mewn man gweithio addas, gan sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal bob amser tra'n cydymffurfio â'r holl reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion rheoliadau Offer Sgrin Arddangos.
Cyflog
💰 £20,043 - £22,129
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am ddarlithydd brwdfrydig i ymuno â thîm sy'n anelu at ragoriaeth mewn addysgu ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys: datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni yn rhan o ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol; goruchwylio myfyrwyr; a chyflawni dyletswyddau gweinyddol yn y maes gwaith yn ôl yr angen.
Mae'r swydd hon yn rhan amser, am dridiau'r wythnos (21 awr), ac am gyfnod penodol hyd at 30 Mehefin 2024. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Dr Siwan Rosser neu Dr Dylan Foster Evans.
Cyflog: £34,304 - £40,927 y flwyddyn (Gradd 6, pro rata)
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 13 Medi 2022
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Mae S4C yn edrych am Brentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae' NS4C yn wasanaeth newyddion digidol Cymraeg gafodd ei lawnsio yn Ebrill 2021. Mae swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn chwilio am ddau brentis fyddai'n gallu ymuno a'r tîm wrth i'r gwasanaeth dyfu.
Bydd prentisiaeth newyddion digidol yn S4C yn rhoi cyfle i chi:
• Fod yn rhan o'r tîm newyddion digidol yn S4C.
• Gweithio gyda'r tîm i becynnu cynnwys newyddion.
• Ymchwilio a datblygu syniadau am straeon.
• Ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan ac App newyddion a phenawdau bachog ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
• Ffilmio a golygu deunydd digidol ar gyfer platfformau fel Instagram, Facebook, Twitter yn ogystal a'r App Newyddion.
• Creu graffeg ar gyfer platfformau digidol.
• Gweithio gyda phartneriaid ac adrannau eraill o fewn S4C i rhoi llwyfan i'n cynnwys.
• Helpu S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Manylion Eraill
Dyddiad Cychwyn: Canol/diwedd Medi 2022
Lleoliad: Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon
Cyflog: £15,000 y flwyddyn
Pensiwn: Mi fydd S4C yn cyfrannu 3% a disgwylir i chi cyfrannu 4%. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfanswm cyflog.
Cytundeb: 18 mis
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio patrwm sifft yn unol â'r gwasanaeth sydd ar draws 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Nifer o brentisiaeth ar gael: 2
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 4 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.
Cyflog
💰 £15,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!