Swyddi Cymraeg — Caerdydd
148 swydd yn cyfateb
Cynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Rhaglenni Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd uchelgeisiol i ymuno a’r tîm materion cyfoes Cymraeg yn ITV Cymru Wales.
Mae Y Byd ar Bedwar wedi bod yn datgelu rhai o straeon mwyaf Cymru a’r byd ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous a phrin i newyddiadurwr profiadol i ddatblygu a chynhyrchu cynnwys i’r safon uchaf a thorri straeon newydd sy'n gosod yr agenda.
Gyda chysylltiadau eang ar draws Cymru bydd gennych syniadau gwreiddiol a gwybodaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r byd.
Bydd gennych ddealltwriaeth gref o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio yn annibynnol dan amgylchiadau heriol.
Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau camera a golygu da a phrofiad o gyfarwyddo timau cynhyrchu.
**Meini prawf allweddol **-
- Hanes profedig o gynhyrchu newyddiaduraeth wreiddiol a chreadigol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu.
- Dealltwriaeth dda o blatfformau digidol a syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd i’n cynnwys.
Gofynion y rôl -
- Ymchwilio, cynllunio a chynhyrchu straeon i’r safon uchaf.
- Storîwr sydd yn arddangos sgiliau sgriptio rhagorol â Chymraeg cywir.
- Sgiliau hunan saethu cryf a golygu sylfaenol yn ddymunol.
- Rhwydweithiau o gysylltiadau eang ac amrywiol ar draws Cymru.
- Sgiliau cyfathrebu da er mwyn arwain a chyd-weithio ar ymchwiliadau gyda thîm o newyddiadurwyr llai profiadol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.itvjobs.com
I ymgeisio - hoffwn i chi anfon CV a blas o’ch gwaith hyd yma i ni fel rhan o’ch cais.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). Dyddiad Cau: 30ain o Fehefin 2022
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n angerddol am greu cynnwys digidol.
Fel Newyddiadurwr Digidol byddwch yn cefnogi’r adran Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales gan sicrhau bod y cynnwys yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn gywir.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio cynnwys digidol y tîm ac am gydlynu cynnwys newyddion dyddiol i wasanaeth newyddion digidol S4C. Byddwch yn cael y cyfle i fynd ar leoliad i gasglu a ffilmio cynnwys unigryw ar gyfer y platfformau digidol ac yn cynhyrchu cynnwys amrywiol i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn arsylwi gwaith dau newyddiadurwr dan hyfforddiant ac yn golygu eu cynnwys i Newyddion S4C.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd â syniadau a gweledigaeth uchelgeisiol ar sut i ddatblygu cynnwys digidol Cymraeg i’r dyfodol, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.
Swydd llawn amser.
Cytundeb 3 blynedd
Sgiliau Allweddol -
- Profiad perthnasol o gynhyrchu cynnwys digidol newyddiadurol.
- Barn olygyddol gref, gyda gwybodaeth eang o gydymffurfiaeth a’r gyfraith.
- Dealltwriaeth wych o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol.
- Sgiliau ieithyddol a Chymraeg cywir
Nodweddion y rôl -
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol.
- Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.
- Yn angerddol dros Gymru a phwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiad o fewn ein cynnwys.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Promos
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Promos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio.
Disgrifiad:
Cynhyrchydd Promos
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. Byddwch yn cyfarwyddo a chynhyrchu deunydd fideo o promos, teasers a showreels i hysbysebion digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu gwylwyr i S4C - naill ai i wylio rhaglenni ar deledu, ar-lein, ar-alw neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo’r promos hyn ar gyfer amrediad eang o gynnwys S4C (drama, adloniant, dogfennau, digwyddiadau), byddwch hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd i hyrwyddo gwahanol elfennau o wasanaeth S4C mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar amrediad o lwyfannau (teledu, cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol ayyb). Yn ddelfrydol byddwch â phrofiad o gyfarwyddo, golygu ac ôl-gynhyrchu ac o gyfarwyddo sesiynau trosleisio. Byddwch a barn olygyddol gref, gwybodaeth eang o dechnegau saethu/golygu, gwybodaeth am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a gwybodaeth eang am arlwy S4C ar draws y llwyfannau gwahanol. Y gallu i fras olygu gan ddefnyddio Avid yn ddymunol. Dyfeisgarwch ac egni’n angenrheidiol.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.
Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 i [email protected] neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Addysg Gymunedol
Mae Y Groes Goch Brydeinig yn edrych am Gydlynydd Addysg Gymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn Y Groes Goch Brydeinig. Mae angen Addysgwr brwd arnom sydd eisiau cefnogi ei gymunedau a’u galluogi i feithrin y sgiliau hanfodol drwy ddarparu addysg ddyngarol, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, a thrwy ddatblygu a rheoli tîm o wirfoddolwyr ledled Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.
Byddwch chi’n rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol a chapasiti’r Groes Goch Brydeinig mewn cymunedau.
Byddwch chi’n atebol i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, yn rheoli cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol allanol ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau a gaiff eu hariannu’n allanol.
Byddwch chi hefyd yn atebol am bob agwedd ar y ddarpariaeth dysgu cyfunol ar gyfer Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gyson ac yn cyrraedd y safon ansawdd briodol.
Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith wirioneddol, drwy ddarparu dysgu wedi’i hwyluso i oedolion a phobl ifanc. Byddwch chi’n ein helpu i baratoi miloedd o bobl yn well ar gyfer ymdopi a chymryd camau os bydd argyfwng.
Cofiwch, er mai 9am i 5pm yw’r oriau craidd ar gyfer y swydd hon, 5 diwrnod yr wythnos, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen.
GAIR AM Y TÎM...
Ein gweledigaeth yw byd lle mae pawb yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw mewn argyfwng.
Mae ein darpariaeth addysg wedi cael ei datblygu ar gyfer y rheini sydd â risg uwch o brofi argyfwng. Rydym ni wedi dylunio ein gwasanaeth i ddatblygu gwytnwch unigolion a chymunedau; gan feithrin sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ymdopi’n effeithiol ag argyfwng a chymryd camau mewn argyfwng.
Rydym ni am i bawb yn y DU gael y cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/addysg, ac rydym ni am i grwpiau risg a nodir feddu ar y sgiliau a’r hyder i allu ymdopi mewn argyfwng, er mwyn iddyn nhw allu helpu eu hunain ac eraill.
GALLAI'R RÔL YMA FOD YN ADDAS I CHI OS...
Mae gennych chi gymhwyster addysg, hyfforddiant neu hwyluso cydnabyddedig (neu gymhwyster cyfatebol drwy brofiad) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol.
Mae gennych chi brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr.
Mae gennych chi brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynnwys dysgu sydd wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd un cwestiwn yn cael ei ofyn yn Gymraeg.
(Darllenwch y Proffil Rôl/Disgrifiad Swydd llawn i gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag hon gan gynnwys cyfrifoldebau a manyleb lawn y person. Cyfeiriwch at y ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ sydd ynghlwm i gael cymorth i lenwi’ch cais)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 21 Chwefror 2022 a chynhelir cyfweliadau.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:
- 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys Gwyliau Banc) - pro rata ar gyfer swyddi tymor penodol
- Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddo
- Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Buddsoddiad gwirioneddol yn eich hyfforddiant a’ch datblygiad personol
Cyflog
💰 £20,501 - £22,429
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna'r Coleg benodi Rheolwr Cyllid, sef rôl newydd a chyffrous i reolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i sicrhau bod yna arweiniad clir a rheolaeth arbenigol wrth ymwneud â holl brosesau cyllid y Coleg. Derbynia’r Coleg Cymraeg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sydd wedi bod yn gwaith ym maes cyllid i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiad helaeth i arwain a grymuso ein gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Byddwch chi’n arwain ac yn llywio holl brosesau cyllid y Coleg ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr y Coleg ar holl faterion cyllid, archwilwyr allanol a’r weithdrefn gaffael.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yna gofodau swyddfa briodol ar gyfer staff y Coleg ar draws 4 lleoliad ac yn gyfrifol am reoli tîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Coleg ac yn rheolwr llinell i’r Uwch Swyddog Cyllid. Yn rhan o dîm o reolwyr uchelgeisiol, blaengar a chydweithredol byddwch yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyngor arbenigol ar holl faterion ariannol y Coleg i’r cyfnod nesaf a thu hwnt.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at gynlluniau cyfryngau a ddatblygwyd gan yr Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn helpu i gyflawni elfennau allweddol y strategaeth gyfathrebu.
Byddwch yn darparu dull ymatebol iawn o drin y cyfryngau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio a chreu straeon a datblygu cynnwys o safon gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Byddwch yn rheoli anghenion gwybodaeth gyhoeddus, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ysgrifennu copi y Brifysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn y Gymraeg i safon uchel.
Beth rydym yn chwilio amdano
Cynorthwyo'r Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol a lleol sy'n deilwng o newyddion, wedi'u teilwra, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau gan y cyfryngau, delio ag ymholiadau'r wasg, a dod o hyd i arbenigwyr ar gyfer sylwadau yn y cyfryngau.
Drafftio datganiadau i'r wasg ansawdd o fewn protocolau y cytunwyd arnynt. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar bob lefel o bob rhan o'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth a chael cymeradwyaeth.
Cymryd cyfrifoldeb am negeseuon corfforaethol ar gyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform, monitro proffiliau allanol a diogelu enw da'r Brifysgol.
Darparu'r cynnwys diweddaraf i holl grynhowyr tablau Cynghrair gan gysylltu ag adrannau mewnol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ar Wicipedia a phyrth tebyg eraill i sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol yn gywir.
Cefnogi academyddion ar sut y gallant hyrwyddo eu hymchwil/gwaith a chodi eu proffil yn y cyfryngau.
Sefydlu cyfweliadau cyfryngau ar gyfer staff, gan ddarparu sesiynau briffio llawn a phresenoldeb yn ôl yr angen.
Cysylltu â staff ar draws Met Caerdydd i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu pwysig.
Gweithio gydag uwch gydweithwyr i ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer cyhoeddiadau corfforaethol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu'r holl gynnwys (gan gynnwys dwyieithog), prawfddarllen a goruchwylio ansawdd cyhoeddiadau lle bo hynny'n briodol.
Meintioli effaith gweithgarwch cyfathrebu Met Caerdydd drwy gasglu gwybodaeth gan y darparwyr cyfathrebu allanol sy'n gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd ar y canlyniadau i'r tîm Rheoli.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu (Mewnol) yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i gydlynu â chydweithwyr ar draws Met Caerdydd i ddarparu dulliau cyfathrebu mewnol amserol, clir ac effeithiol.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn ymdrin ag ymholiadau cyfathrebu mewnol ac yn helpu i gynghori ar y dull gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd, monitro, diweddaru a gwella sianeli cyfathrebu mewnol yn rheolaidd a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth gyfathrebu integredig yn llwyddiannus.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal.
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Rheolwr Cyfathrebu, trwy e-bostio [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £31,406 - £34,304
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Reolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysbrydoledig i arwain gwaith tîm o Swyddogion Cefnogi. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Byddai profiad blaenorol o reoli ac arwain tîm o staff a dealltwriaeth eang o waith Mudiad Meithrin yn fanteisiol.
Disgrifiad:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Datblygu Gwasanaethau am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Ysgwyddo cyfrifoldeb am holl agweddau rheolaeth gwaith Mudiad Meithrin o fewn y dalaith
· Rheoli gwaith, a chynnig arweiniad a chefnogaeth i holl staff y dalaith
· Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad i’r gwaith
· Sicrhau bod cyfarfodydd tîm tymhorol i holl staff y dalaith er mwyn darparu hyfforddiant, trafod cynlluniau gwaith a derbyn adroddiadau
· Sicrhau bod gwaith y dalaith yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
· Adnabod ac arwain cynlluniau gweithredu er mwyn cynyddu ac ymestyn gwaith y Mudiad yn y dalaith
· Gweithio i hybu enw da’r Mudiad drwy farchnata, cyfathrebu a delio a chwynion yn effeithiol
· Sicrhau bod strwythurau a gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin yn gynaliadwy
· Sicrhau bod cyfleoedd i staff a phwyllgorau cylchoedd fynychu digwyddiadau hyfforddiant a rhannu arfer dda
· Arwain ar gynllunio strategol lleol gan reoli cynlluniau sirol penodol yn ôl yr angen
· Mynychu ac eirioli dros aelodau’r Mudiad a’r Mudiad ei hun mewn cyfarfodydd strategol megis Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg,cyfarfodydd gyda swyddogion yr Awdurdodau lleol
· Arwain ar ddatblygu cynllun Sefydlu a Symud o fewn y dalaith
· Mynychu cyfarfodydd Tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
· Sicrhau presenoldeb Mudiad Meithrin mewn digwyddiadau ac achlysuron e.e. Sioeau, sioeau babis, Eisteddfodau
· Sicrhau tîm o staff cyflawn ac adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu pob aelod o staff
· Ateb gofynion grantiau perthnasol gan gasglu gwybodaeth, data ac adnabod cyfloed yn ôl y gofyn e.e. UGMA
· Datblygu perthynas a chydweithio gyda phartneriaid o fewn y dalaith
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
· Ymgymryd â chyfrifoldebau dros ddarpariaeth/au Meithrinfeydd Cymru (Cylchoedd Canolog) drwy’r Dirprwy Rheolwr Talaith
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Mudiad Meithrin yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 £36,918 – £46,335 pro rata
Lleoliad
📍 Llangefni, Aberystwyth, Wrecsam, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol?
Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon?
Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol?
Os mai ‘ydw’ yw’ch ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi.
Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg.
Byddwch yn dilyn cynllun hyfforddiant am 12 mis, yn creu cynnwys digidol ffurf fer i Hansh Dim Sbin ac i wasanaeth newyddion digidol S4C.
Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gyda’r ffocws ar gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Bydd cyfle i chi ddatblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol.
Bydd gennych ddealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn angerddol am gynnwys amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tan-gynrychioli.
I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod.
Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael asesiad ond yn hytrach, cynnwys eich ateb. Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych. Gallwch recordio eich clip ar eich ffôn neu unrhyw declyn, a’i uwchlwytho i Youtube neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi.
Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma -
- Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……
- Pa straeon sy’n eich diddori chi a sut y byddai’r straeon yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?
Hoffwn i chi anfon y ddau ateb fel un clip ac ni ddylai’r atebion fod yn fwy na 60 eiliad yr un.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). Dyddiad Cau: 27ain o Fehefin 2022
Lleoliad: Caerdydd
Llawn Amser
Cytundeb: 12 mis
**Meini prawf allweddol - **
Greddf Newyddiadurol
Meddyliwr Creadigol
Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol
Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.
**Gofynion y rôl - **
Diddordeb mewn newyddion a materion cyfoes.
Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf.
Profiad o waith tîm.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Rhagoriaeth Gwasanaeth
Mae CCW yn edrych am Reolwr Rhagoriaeth Gwasanaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
CCGC yw'r llais annibynnol angerddol, sy'n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim i helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a diddordebau pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil, sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheolydd i wneud i newid ddigwydd.
Ym maes Cysylltiadau Cwsmeriaid, ein cenhadaeth yn syml yw bod y gorau, gan ddarparu gwasanaeth a chymorth rhagorol i unrhyw un sy'n cysylltu â ni i gael cymorth gyda chwynion a phryderon cwmnïau dŵr. Rydym yn gweithio ar y cyd â’r sector dŵr ei hun i gael canlyniadau teg i gwsmeriaid a hyrwyddo newid trwy rannu arfer gorau a gweithio mewn partneriaeth er budd pawb.
Ein gwerthoedd:
Rydym yn disgwyl ac yn cefnogi holl gydweithwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCGC drwy Ynni Cadarnhaol, Parchu pawb, Ysbryd Arloesol, Cyflawni ein haddewidion a bod yn Ymgysylltu fel un (PRIDE).
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaeth delio â chwynion o'r radd flaenaf. Trwy ddadansoddi achosion sylfaenol, data a mewnwelediad, byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi perfformiad a thueddiadau yn ogystal â meincnodi y tu mewn a'r tu allan i'r sector i arloesi, gwella a siapio teithiau cwsmeriaid yn barhaus.
Byddwch yn ymuno â sefydliad sy'n blaenoriaethu profiad y cwsmer ac felly rhan fawr o'ch rôl fydd creu diwylliant cwsmer yn gyntaf, gan sicrhau bod Ymgynghorwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cael eu cefnogi a'u hyfforddi'n llawn i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n bodloni ac yn rhagori ar uchelgeisiau CCGC.
Eich rôl:
Arwain tîm o Hyfforddwyr Rhagoriaeth Gwasanaeth i ddarparu hyfforddiant effeithiol i Gynghorwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid Perchnogi a gwella taith y cwsmer, ffyrdd o weithio, polisïau a systemau mewnol yn barhaus.
Gweithredu fel yr arweinydd ar gyfer gwreiddio tôn y llais ym mhob agwedd ar gyfathrebu Cysylltiadau Cwsmeriaid â chwsmeriaid.
Sbarduno arloesedd, effeithlonrwydd a ffocws cwsmeriaid wrth ddarparu gwasanaethau wrth ystyried effaith lawn gweithredu newidiadau.
Cymryd cyfrifoldeb am gynhyrchu’r holl adroddiadau cwynion ac ymholiadau a dadansoddi, cynhyrchu a chyflwyno’r MI ar gwynion misol i’r Bwrdd Gweithredol a thimau ehangach yn ôl yr angen.
Arwain y fforymau Cwynion, gan sicrhau ein bod yn dwyn ynghyd safbwyntiau, safbwyntiau a chynrychioli “anghenion rhanddeiliaid” amrywiol bob amser.
Gweithredu fel eiriolwr rhagoriaeth gwasanaeth allweddol gyda chwmnïau dŵr a charthffosiaeth, manwerthwyr, Defra, Llywodraeth Cymru, Ofwat, CEDR a sefydliadau allanol eraill.
Mynd ati i hyrwyddo a gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn eich holl waith.
Am bwy rydyn ni'n chwilio:
Fel Rheolwr Rhagoriaeth Gwasanaeth, byddwch yn angerddol am brofiad y cwsmer i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth.
Profiad sylweddol o weithio yn y sector cyfleustodau neu mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid neu gyflenwi cwynion.
Profiad cadarn o ddylunio prosiect/ taith cwsmer gan gynnwys data, cynllunio a dadansoddi prosesau i gefnogi gwelliant parhaus.
Sgiliau arwain pobl cryf, gyda phrofiad o reoli, cefnogi a hyfforddi timau yn llwyddiannus.
Meddylfryd strategol a dadansoddol gyda llygad craff am nodi pwyntiau gwan mewn prosesau a strwythurau trefniadol.
Y gallu i ddeall a dehongli data perfformiad a'i gymhwyso mewn ffordd gadarn i nodi meysydd i'w gwella.
Adeiladwr perthnasoedd arbenigol gyda'r gallu i ffurfio partneriaethau newydd sy'n pontio rhanddeiliaid a sefydliadau mewnol ac allanol.
Cyflog a Buddion:
Mae CCGC yn cynnig cyflog cychwynnol o £45,450 gyda'r cyfle i gynyddu eich cyflog trwy berfformiad hyd at £51,508.
Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio Hyblyg, Benthyciadau Tocynnau Tymor Teithio, Benthyciadau Beic, Mynediad am Ddim i Sicrwydd Iechyd a llawer mwy.
Cyflog
💰 £45,450
Lleoliad
📍 Caerdydd, Birmingham, Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid x 6 swydd
Mae CCW yn edrych am Gynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid x 6 swydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth. Byddwch yn naturiol empathig gyda diddordeb brwd mewn helpu pobl.
Disgrifiad:
Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd
Oriau: Ar hyn o bryd amser llawn yw 37 awr dros 5 diwrnod yr wythnos, er y byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio'n hyblyg dros 4 diwrnod neu am o leiaf 25 awr yr wythnos.
Rydym yn cynnig gweithio hyblyg a hybrid yn ystod ein horiau gweithredu o 7am i 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda'r opsiwn i weithio gartref 3 diwrnod yr wythnos.
Amdanom ni:
CCGC yw'r llais annibynnol angerddol, sy'n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim i helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a diddordebau pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheolydd i wneud i newid ddigwydd.
Ym maes Cysylltiadau Cwsmeriaid, ein cenhadaeth yn syml yw bod y gorau, gan ddarparu gwasanaeth a chymorth rhagorol i unrhyw un sy'n cysylltu â ni i gael cymorth gyda chwynion a phryderon cwmnïau dŵr. Rydym yn gweithio ar y cyd â’r sector dŵr ei hun i gael canlyniadau teg i gwsmeriaid a hyrwyddo newid trwy rannu arfer gorau a gweithio mewn partneriaeth er budd pawb.
Ein gwerthoedd:
Rydym yn disgwyl ac yn cefnogi holl gydweithwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCGC drwy Ynni Cadarnhaol, Parchu pawb, Ysbryd Arloesol, Cyflawni ein haddewidion a bod yn Ymgysylltu fel un (PRIDE).
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
Gan adrodd i'r Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn rhan o dîm sefydledig sy'n darparu gwasanaeth trin cwynion i gwsmeriaid dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Gyda’ch llwyth achosion eich hun i’w reoli, byddwch yn cefnogi ein cwsmeriaid drwy eu taith gwyno drwy:
• Delio â chwynion yn erbyn cwmnïau dŵr naill ai'n ysgrifenedig neu dros y ffôn, yn unol ag ymrwymiadau perfformiad CCGC
• Ymgysylltu â chwmnïau dŵr i wneud yn siŵr eich bod yn cael y canlyniad gorau posibl o ran cwyn neu ymholiad ar gyfer eich cwsmer
• Cymryd perchnogaeth a chynnal cofnodion cywir ar y system cronfa ddata
• Gweithio gyda chydweithwyr i uwchgyfeirio cwynion unigol a/neu geisio cyngor ac arweiniad i symud cwynion ac ymholiadau yn eu blaenau
• Rhannu arfer gorau ymdrin â chwynion gyda'ch tîm
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a mentrau CCGC a chwmnïau
Am bwy rydyn ni'n chwilio:
Fel Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth. Byddwch yn naturiol empathig gyda diddordeb brwd mewn helpu pobl.
Byddwch hefyd yn gallu dangos:
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
• Sgiliau trefnu a blaenoriaethu da
• Y gallu i addasu i newid
• Profiad o weithio'n dda o fewn tîm
Cyfleoedd datblygu gyrfa:
Yn CCGC, rydym am weld ein tîm yn datblygu ac yn tyfu yn eu llwybr gyrfa dewisol. Am y rheswm hwn, mae gan y rôl hon dair lefel wahanol i chi symud ymlaen ynddynt. Ein hymrwymiad i chi yw y bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi symud drwy'r lefelau hyn yn llwyddiannus.
Cyflog a Buddion:
Mae CCGC yn cynnig cyflog cychwynnol o £21,879 gyda'r cyfle i gynyddu eich cyflog trwy berfformiad hyd at £26,869.
Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio Hyblyg, Benthyciadau Tocynnau Tymor Teithio, Benthyciadau Beic, Mynediad am Ddim i Sicrwydd Iechyd a llawer mwy.
Cyflog
💰 £21,879
Lleoliad
📍 Caerdydd, Birmingham
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Nofio Caerdydd a’r fro (Datblygu Chwaraeon)
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Brentis Nofio Caerdydd a’r fro (Datblygu Chwaraeon)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Nod y swydd fydd i gynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc a chynorthwyo datblygiadau nofio, drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Caerdydd a’r Fro.
Amdanom ni Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
**Y Swydd **
Nod y swydd fydd i gynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc a chynorthwyo datblygiadau nofio, drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Caerdydd a’r Fro.
Am fwy o fanylion cysylltwch a’r Rheolwyr Prentisiaethau: [email protected] / [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at [email protected]
Dyddiad Cau – 30.6.22
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Adnoddau, Cymru
Mae Stonewall Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Adnoddau, Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau a defnyddiau e-ddysgu dwyieithog ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi Ysgolion, Colegau a Gweithleoedd Cymru i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Uwch Swyddog Adnoddau (Cymru) yn Stonewall.
Elusen hawliau dynol yw Stonewall. Rydyn ni'n sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, anrhywiol ac sy'n cwestiynu (LHDTC+) ym mhobman. Rydyn ni'n dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw'u hunain a lle gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf.
Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ gwledydd Prydain. Mae ein hymgyrchoedd yn ysgogi newid cadarnhaol mewn agweddau cyhoeddus ac mewn polisi cyhoeddus. Rydyn ni'n sicrhau bod modd i bobl LHDTC+ ffynnu ar bob cam yn ein bywydau drwy greu rhaglenni newid dwys a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnon ni, p'un a ydyn ni'n dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n gwneud chwaraeon.
Fel Uwch Swyddog Adnoddau yn Stonewall Cymru, fe fyddech chi'n rhan allweddol o dîm o bobl frwdfrydig ac angerddol sy'n cydweithio i gyflawni ein strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y swydd yma, rydyn ni'n chwilio am gyfathrebwr dwyieithog sy'n gallu ysgrifennu canllawiau, blogiau a modiwlau e-ddysgu ar gyfer Lleoliadau Addysg a Gweithleoedd. Mae ein pobl yn gymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fudd personol yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydyn ni'n falch o'r amrywiaeth yma, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, ac yn ein cyfeillgarwch.
Cyflog
💰 £13,720
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Mae Stonewall Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ieuenctid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau hyfforddi i athrawon ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi ysgolion, colegau a gwasanaethau ieuenctid i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Stonewall Cymru.
Mae Stonewall yn elusen hawliau dynol. Rydym yn sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, queer, cwestiynu ac ace (LHDTC+) ym mhobman. Rydym yn dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw eu hunain a gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf.
Dros y 30+ mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ yn y DU. Mae ein hymgyrchoedd yn sbarduno newid cadarnhaol yn agweddau'r cyhoedd a pholisi cyhoeddus. Rydym yn sicrhau y gall pobl LHDTC+ ffynnu drwy gydol ein bywydau drwy adeiladu rhaglenni newid dwfn a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnom, p'un a'i ydym yn dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n chwarae chwaraeon.
Fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru, byddech yn rhan allweddol o dîm o bobl angerddol sy'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein Strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y rôl hon rydym yn chwilio am swyddog dwyieithog profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg ac ieuenctid, profiad o feithrin perthynas â rhanddeiliaid a'r gallu i ysbrydoli ystod o gynulleidfaoedd trwy siarad cyhoeddus a chyflwyno.
Mae ein pobl yn ffurfio cymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fuddsoddiad personol yn y gwaith a wnawn, ac rydym yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydym yn falch o'r amrywiaeth hwn, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, a'n cyfeillgarwch.
Cyflog
💰 £27,440
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Fideograffydd a golygydd
Mae Four Cymru yn edrych am Fideograffydd a golygydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Four Cymru yn chwilio am fideograffydd brwdfrydig a galluog i ymuno â'i dîm creadigol, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Aberystwyth, ond gydag opsiwn i weithio hyblyg llawn o gartref.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau clyweledol a ffilm ar gyfer cleientiaid mewn cymysgedd o sectorau fel bwyd a diod, addysg, y celfyddydau a diwylliant, elusennau a'r sector cyhoeddus.
Rydym ni’n chwilio am berson amryddawn sydd eisiau cyfrannu syniadau a datblygu cysyniadau yn ogystal â dod â'r rhain yn fyw trwy eu galluoedd technegol a chynhyrchu. Bydd y rôl yn cynnwys:
Datblygu cysyniadau
Storifyrddio
Ffilmio/recordio (gan gynnwys gosod goleuadau)
Golygu fideo
Ôl-gynhyrchu
Dylunio sain
Mae profiad mewn graffeg symud/animeiddio sylfaenol yn ddymunol, yn ogystal ag awydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chwarae rhan mewn helpu eraill yn y tîm i ddatblygu eu gwybodaeth o’r cyfryngau gweledol.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno cynnwys fideo i gleientiaid ar sail annibynnol, ond hefyd fel rhan o ymgyrchoedd integredig mwy.
Oherwydd natur ddwyieithog llawer o’n gwaith, mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Sgiliau a phrofiad
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio, naill ai fel rhan o gwmni cynhyrchu / asiantaeth hysbysebu neu’n llawrydd. Fodd bynnag, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â diddordeb sydd newydd raddio o’r brifysgol â phortffolio gweithredol mewn cynhyrchu fideo/ffilm.
Profiad o weithio gyda'r fersiwn diweddaraf o feddalwedd graffeg ac animeiddio fel Photoshop, Adobe Illustrator, After Effects.
Adobe Premier Pro (neu feddalwedd golygu arall fel Final Cut Pro X neu AVID).
Diddordeb a gwybodaeth am gynhyrchu ffilm a ffotograffiaeth.
Gweithredwr camera, cynhyrchydd a golygydd fideo hyderus.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn llawn cymhelliant, yn gallu cyfathrebu syniadau creadigol yn gryno ac yn llawn argyhoeddiad, yn rhoi sylw da i fanylion ac yn gallu gweithio'n ddigynnwrf ac yn effeithlon o dan bwysau.
Datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym ni’n falch o'n cymuned amrywiol yn Four ac wedi ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth y byd rydym ni’n byw ynddo. Rydym ni’n ymdrechu i wella ein hamrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw a tharddiad ethnig neu genedlaethol), crefydd neu gred.
Polisïau gweithio hyblyg
Mae gan Four bolisi gweithio cwbl hyblyg ar draws ei holl leoliadau a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu y gall staff weithio gartref ar unrhyw adeg oni bai bod ganddyn nhw ymrwymiadau wyneb yn wyneb megis cyfarfodydd cleientiaid, digwyddiadau, cyfarfodydd tîm neu hyfforddiant lle bydd gofyn iddyn nhw fod yn y swyddfa neu leoliad arall.
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Sut i wneud cais: Anfonwch CV at: [email protected], gan ddyfynnu Fideograffydd (Cymru) yn y llinell bwnc. Nid ydym yn derbyn CVs gan asiantaethau.
Lleoliad: Swyddfeydd Aberystwyth neu Gaerdydd
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Golygyddol Digidol lau
Mae CBAC yn edrych am Swyddog Golygyddol Digidol lau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yr her:
CBAC yw prif gorff dyfarnu Cymru. Ymhlith yr hyn yr ydym yn ei gyfrannu at ein cymunedau addysg y mae darpariaeth cymwysterau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol, fel y gall ein dysgwyr gael y cyfle i gyrraedd eu potensial yn llawn. Dyma gyfle gwych felly i fod yn rhan o gorff sy'n annog ac yn gwella meddyliau'r dyfodol. Nod yr adran y byddwch chi'n ymuno â hi yw cefnogi'r swyddogaeth Cymwysterau.
Y rôl:
Cefnogi'r rheolwr/uwch olygyddion digidol i olygu adnoddau safonol yn y Gymraeg a'r Saesneg i gwrdd a gofynion dysgwyr ac addysgwyr.
Yr unigolyn:
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi’n drefnus ac yn gallu talu sylw i’r manylion wrth weithio ar sawl tasg ar unwaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus yn gweithio ar ei liwt ei hun, ond hefyd yr un mor hyderus yn gweithio gydag eraill i gefnogi projectau tîm.
Ein buddion:
Mae CBAC yn gorff croesawgar a chefnogol, sy'n falch o gynnig amrediad eang o fuddion hael i'w gyflogeion gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd ag 16 o ddyddiau statudol/ychwanegol), cyfleoedd i hyfforddi a datblygu gan gynnwys cyrsiau dysgu Cymraeg am ddim, a chynllun pensiwn da. Er y bydd adegau pan y gofynnir i chi weithio ar y safle yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, byddem yn hapus i ystyried ceisiadau i weithio'n hyblyg a/neu o gartref gan yr ymgeisydd llwyddiannus.
Dyddiad cau: 08/06/2022
Cyflog
💰 £24,651 - £26,778 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Caerdydd – Ail Hysbyseb
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Caerdydd – Ail Hysbyseb
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Dyletswyddau’r Swydd
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro
Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin
Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisiyn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.
Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.
Am Y Swydd
Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
- Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
- Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
- Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
- Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
- Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynorthwyol / Cynhyrchydd Iau
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Gynorthwyol / Gynhyrchydd Iau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gan weithio ar gyfres ffeithiol newydd sbon i S4C, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneuthurwr rhaglenni uchelgeisiol ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu yn ITV Cymru Wales.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynorthwyol profiadol neu gynhyrchydd iau gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen neu faterion cyfoes i ymuno â'n tîm.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn, dawn greadigol i adrodd straeon ac angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel. Byddwch yn hunan saethwr hyderus gyda phrofiad ffilmio blaenorol ar gynyrchiadau, gyda'r gallu i gyfarwyddo cyfranwyr ar leoliad yn ogystal â chriwiau camera a sain. Gan weithio gyda’r Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau a chyfranwyr amrywiol. Byddwch yn chwarae rhan fawr mewn cyfarfodydd cynllunio a chynnwys a bydd disgwyl i chi drefnu'r rhan fwyaf o'r ffilmio ar gyfer y gyfres. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r golygydd ac yn cyfrannu at siapio'r gyfres, yn cynorthwyo’r golygu a’r ôl-gynhyrchu.
Gellid gofyn i chi hefyd gynhyrchu cynnwys arall o fewn tîm Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales.
Meini Prawf Lleiaf -
Profiad o gynhyrchu ffeithiol gydag agwedd greadigol at adrodd straeon, triniaethau a chynhyrchu.
Sgiliau ffilmio hunan saethu cryf
Profiad o systemau golygu/llwytho gyda'r gallu i gynorthwyo cynyrchiadau gyda rhagolygu cynnwys.
Cyfathrebwr gwych gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.
Siaradwr Cymraeg rhugl
_ Meini prawf allweddol -_
Barn olygyddol gadarn gyda gwybodaeth ymarferol drylwyr o faterion Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol.
Sgiliau trefnu gwych gyda hanes profedig o ddatrys problemau o fewn cynyrchiadau.
Mae gweithio i derfynau amser yn hanfodol, ac mae hanes profedig o weithio dan bwysau yn allweddol.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar - Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.
Y Cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgaredd ysgolheigaidd.
Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
Y gallu i adnabod meysydd i'w gwella a defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
Profiad o ddysgu AU neu gyfwerth.
Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill. Gradd anrhydedd da.
Cymhwyster lefel doethuriaeth neu brofiad uwch reolwyr / proffesiynol sylweddol trwy’r Gymraeg.
Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau'r gyflogaeth). Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Aylwin Yafele, Pennaeth Adran, ar [email protected] neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth Bellach
Darllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.
Cyflog
💰 £40,927 - £46,042 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfranogiad De Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Cyfranogiad De Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd hon yn cydlynu ac yn hwyluso cyflwyno gwaith ar gasgliadau sgrin a sain gydag unigolion, grwpiau, gwirfoddolwyr ac artistiaid creadigol. Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (CMC) yng Nghaerdydd, bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â phartneriaid ledled de Cymru. Bydd y Swyddog Cyfranogiad yn aelod o dîm yr Archif Ddarlledu Genedlaethol a bydd yn gweithio ochr yn ochr â staff eraill y prosiect i gyfrannu at elfennau estyn allan a marchnata prosiect yr Archif Ddarlledu Genedlaethol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
SWYDDOG CYFRANOGIAD DE CYMRU [PROSIECT YR ARCHIF DDARLLEDU GENEDLAETHOL]
Band 3: £24,899 - £28,740
Swydd tymor penodol am gyfnod o 2 flynedd tan 30 Mehefin 2024
37 awr yr wythnos.
NODER: Lleolir y swydd hon yng Nhganolfan Mileniwm Cymru,
Bae Caerdydd
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12.00 o’r gloch 18 Mai 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Caerdydd, Cymru
£17,538 y flwyddyn (yn cynnwys lwfans pwysoliad Caerdydd)
Rhan amser 21 awr
Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2025
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Wnewch chi ymuno â ni? Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Ymgysylltu Digidol profiadol a medrus i helpu i gyflawni pedwerydd cam y Rhaglen Amser i Newid Cymru. Gan weithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth Amser i Newid Cymru a Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn:
- Cyflawni gweithgareddau ymgysylltu o ddydd i ddydd ar gyfer y rhaglen, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynulleidfaoedd targed newydd yn unol ag amcanion cyffredinol strategaeth a rhaglen Marchnata Amser i Newid Cymru.
- Cyfrannu at ymgyrch uchel ei phroffil o ansawdd uchel yng Nghymru o ran lleoli a negeseua, gan gynnwys ym maes cyfathrebu rhaglenni, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu.
- Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata i sicrhau dull gweithredu cwbl integredig ar gyfer cyfathrebu ar draws nifer o sianeli ar-lein ac all-lein.
- Gwella profiad defnyddwyr ac ymgysylltiad digidol â’r ymgyrch drwy’r wefan, asedau digidol creadigol, a chreu calendr cynnwys rheolaidd ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ym Mind Cymru ac Adferiad, felly mae’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd fod yn fodlon teithio o bryd i’w gilydd fel rhan o’ch swydd i fynychu cyfarfodydd oddi ar y safle.
Dyddiad Cau: 18eg Mai 2022
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £17,538
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!