Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Mae Grŵp Deddf, Mentrau Iaith a Llywodraeth Cymru yn edrych am Bencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp Deddf am benodi Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar draws rhanbarth De-Ddwyrain Cymru i amrywiaeth o gynulleidfaoedd (rhieni, disgyblion, cynghorwyr ac eraill), er mwyn rhannu newyddion a gwybodaeth dros y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau confensiynol am faterion cysylltiedig (megis ymgynghori ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, dosbarthiadau oedolion, digwyddiadau cymunedol ac ati) a darparu adroddiadau chwarterol ar weithgareddau, a fydd yn cael eu dosbarthu i'r sefydliadau partner.
Bydd yr adroddiadau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi a monitro cynnydd yr awdurdodau lleol partner yn erbyn targedau perthnasol y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu) a’r Strategaethau Cymraeg 5 mlynedd.
Bydd y swydd wedi'i lleoli o fewn Menter Caerffili at ddibenion llywodraethu, rheoli perfformiad uniongyrchol, gofod swyddfa, cyflogres ac ati. Yn weithredol, bydd y swydd yn cael ei chynnal drwy gyfuniad o waith swyddfa a gweithio gartref, gyda rhai cyfarfodydd ar draws y rhanbarth drwy Zoom/Teams neu wyneb yn wyneb.
Mae nifer o brosiectau ymchwil ac adnoddau eisoes ar y gweill, i ddarparu offer parod i'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn iddynt ymgymryd â'r rôl. Byddant hefyd yn cael cefnogaeth a phrofiad y swyddogion cyswllt o bob un o'r sefydliadau partner.
Mae'r swydd yn cael ei hariannu i ddechrau tan 31.03.24 gyda'r posibilrwydd o ymestyn y rôl, ac mae'r partneriaid yn agored i ystyried secondiad i'r rôl yn ogystal ag apwyntiad ffurfiol.
Mae manylion llawn y rôl i'w gweld yn y ddogfen Disgrifiad Swydd atodol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i Lowri Jones, Prif Swyddog Menter Caerffili, dros e-bost:
Neu drwy'r post: Lowri Jones (parthed: Rôl y Pencampwr Hyrwyddo), Menter Caerffili, Ystafell 1, Parc St Margaret, Pengam Road, Aberbargod, CF81 9FW.
Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5:00pm ddydd Gwener 10fed Chwefror 2023.
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio’r wythnos ganlynol a hysbysir yr ymgeiswyr cyn gynted â phosibl wedi hynny. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 27ain Chwefror 2023. Cynhelir cyfweliadau ar-lein oherwydd yr amrywiaeth o bartneriaid dan sylw a rhoddir y manylion i ymgeiswyr pan gânt eu gwahodd i gyfweliad. Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol neu benodol ar gyfer y cyfweliad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Cyflog
💰 £44,624 pro rata
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.