Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Dirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin, yn chwilio am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid sydd yn brwdfrydig a hyblyg i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cyngor yn y dyfodol.
Dylech fod â phrofiad o gyllidebau, cyllid a gweinyddu cyfarfodydd. Dylech hefyd feddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a medru gweithio fel rhan o dîm bach i helpu i gyflawni cynllun strategol y Cyngor. Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus lle bydd yn angenrheidiol.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr da, ac mae staff yn mwynhau'r manteision sy'n deillio o weithio i gyflogwr bach sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sy'n angerddol am ei bobl ac yn darparu'r hyblygrwydd i sicrhau'r cydbwysedd gorau rhwng bywyd a gwaith. Patrwm gweithio i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr sy'n cynnwys ffurflen gais, disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan Gyngor Tref Caerfyrddin ar y ddolen hon: www.cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk
Cysylltwch â Chlerc Cyngor Tref Caerfyrddin, Emma Smith [email protected] ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4.30pm ar ddydd Gwener 25ain o Dachwedd 2022. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 12fed o Ragfyr 2022.
Prif Ddiben y Swydd:
· Cefnogi Clerc y Dref i sicrhau pob agwedd yn ymwneud â llywodraethu corfforaethol a gweinyddu ariannol y Cyngor.
· Dirprwyo ar ran Clerc y Dref yn ei absenoldeb.
· Cyfrifoldeb penodol am reoli'r holl gofnodion a gweithdrefnau ariannol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
· Mynychu cyfarfodydd y Cyngor a sicrhau bod agendâu a chofnodion yn cael eu paratoi, eu cymeradwyo a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a gofynion cyfreithiol.
· Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â rôl reoli o fewn Cyngor Tref Caerfyrddin yn unol â chyfarwyddiadau'r Clerc a'r Cyngor Tref, a bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau eraill, fel y nodir yn y disgrifiad swydd hwn.
Prif Gyfrifoldebau:
· Cadw cofnodion ariannol cywir a rheoli a monitro'r cyllid a rheolaethau ariannol y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
· Cynghori Clerc y Dref a'r Cyngor ar materion ariannol a sicrhau bod yr holl rwymedigaethau statudol ariannol yn cael eu cyflawni.
· Goruchwylio'r rhestr fisol o daliadau i'w cymeradwyo gan lofnodwyr awdurdodedig a phrosesu taliadau mewn modd amserol.
· Adolygu'r gofrestr rheoli risg ariannol yn rheolaidd gyda Chlerc y Dref a sicrhau bod adroddiadau'n cael eu darparu ar gyfer y Cyngor Tref ar gyfnodau rheolaidd.
· Sicrhau bod trefniadau yswiriant digonol ar waith i'r Cyngor gwmpasu’r holl risgiau ariannol a nodwyd.
· Gweithio gyda Chlerc y Dref i sicrhau bod cyllideb flynyddol ar ffurf drafft ac argymhelliad praesept yn cael ei baratoi'n amserol bob blwyddyn.
· Paratoi adolygiadau chwarterol o'r gyllideb a chymodi banc ar gyfer cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyllid.
· Paratoi adroddiadau terfynol, datganiad blynyddol y Cyngor o gyfrifon a’r datganiad blynyddol, yn ôl y gofyn ac yn unol â'r holl ganllawiau a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
· Ymgysylltu a darparu gwybodaeth i archwilydd mewnol a chyflwyno'r cyfrifon blynyddol i'r archwilwyr allanol yn ôl y gofyn.
· Cadw cofnodion TAW statudol y Cyngor, cyflwyno TAW yn fisol, a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno'n brydlon ynghyd ag unrhyw daliad.
· Casglu ceisiadau am gymorth grant a fydd yn cael eu hadolygu gan Glerc y Dref a'r Pwyllgor.
· Cynnal Cofrestr Asedau Sefydlog o eiddo'r Cyngor yn rheolaidd.
· Goruchwylio'r holl gyfrifoldebau rheoli ariannol a gyflawnir gan staff y Cyngor Tref.
· Mynychu holl gyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Tref – fel arfer mae tri chyfarfod y mis ac fe'u cynhelir gyda'r nos.
· Paratoi agendâu, cofnodion a phapurau eraill sy'n gysylltiedig â holl gyfarfodydd y Cyngor a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a deddfwriaeth.
Cyfrifoldebau Eraill
Datblygiad Personol
· Datblygu'n broffesiynol drwy ddiweddaru gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau i sicrhau bod materion y Cyngor Tref yn cael eu rheoli'n effeithlon.
Rheoli Staff
· Rheoli, goruchwylio a chefnogi'r defnydd effeithiol o’r rôl a nodwyd.
Rheoli Adnoddau
· Sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu rheoli'n effeithiol yn unol â pholisi a deddfwriaeth.
Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.
MANYLEB PERSON
Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn tuag at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.
Mae'n bosibl bod y sgiliau a phrofiadau a rhestrir isod wedi deillio o waith cyflogedig neu waith gwirfoddol.
Gofynion Hanfodol:
· Profiad o reolaeth ariannol, gan gynnwys creu a monitro cyllidebau.
· Profiad o weithio gyda phecynnau cyfrifyddu digidol, gan gynhyrchu cyfrifon diwedd blwyddyn, cyllidebu, dadansoddi amrywiant, cofnodi incwm, rheoli cyfriflyfr a rheoli credyd.
· Yn gallu gweithio y tu allan i oriau arferol yn rheolaidd (fel arfer mae tri chyfarfod gyda’r nos bob mis)
· Profiad o ddefnyddio systemau TG eraill, gan gynnwys Microsoft Office a meddalwedd rheoli ariannol.
· Sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweinyddu da.
· Sgiliau rheoli a rhyngbersonol da.
· Gallu gweithio ar ei ben ei hun neu fel rhan o dîm.
· Sgiliau iaith (gweler y wybodaeth bellach isod):
Cymraeg - gwrando a siarad – lefel 4 (gyda hyfforddiant ar gael i gyrraedd lefel 5)
Saesneg – gwrando, siarad a darllen – lefel 4. Ysgrifennu – lefel 5*
Gofynion Dymunol:
· Ymwybyddiaeth o weithdrefnau ariannol llywodraeth leol gan gynnwys rheolaeth ariannol a gofynion cyfreithiol, ac ati.
· Addysg a/neu reolaeth lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall (e.e. cymwysterau AAT / ICB, CiLCA)
· Dealltwriaeth dda o’r rôl a chyfrifoldebau'r swydd.
Cyflog
💰 £35,411 - £38,296 pro rata
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna'r Coleg benodi Rheolwr Cyllid, sef rôl newydd a chyffrous i reolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i sicrhau bod yna arweiniad clir a rheolaeth arbenigol wrth ymwneud â holl brosesau cyllid y Coleg. Derbynia’r Coleg Cymraeg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sydd wedi bod yn gwaith ym maes cyllid i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiad helaeth i arwain a grymuso ein gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Byddwch chi’n arwain ac yn llywio holl brosesau cyllid y Coleg ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr y Coleg ar holl faterion cyllid, archwilwyr allanol a’r weithdrefn gaffael.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yna gofodau swyddfa briodol ar gyfer staff y Coleg ar draws 4 lleoliad ac yn gyfrifol am reoli tîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Coleg ac yn rheolwr llinell i’r Uwch Swyddog Cyllid. Yn rhan o dîm o reolwyr uchelgeisiol, blaengar a chydweithredol byddwch yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyngor arbenigol ar holl faterion ariannol y Coleg i’r cyfnod nesaf a thu hwnt.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus a thrwyadl sydd yn meddu ar gymhwyster proffesiynol i arwain gwaith y Coleg o ran gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Derbynia’r Coleg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Yn dilyn cynnydd yng nghyllideb ac amrediad gweithgareddau’r Coleg, mae'r Coleg am benodi Rheolwr Cyllidi arwain, rheoli a chydlynu holl brosesau cyllid y Coleg. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn arwain, goruchwylio a chydlynu holl waith archwilio allanol y Coleg ac yn gyfrifol am y weithdrefn caffael.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.