Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Darlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni’n awr yn edrych am Ddarlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon i ymuno â’n campws yn Caerfyrddin ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Rydym yn chwilio am addysgwr brwd, ac unigolyn ymroddgar, sy’n awyddus i chwarae rhan allweddol yng nghamau nesaf datblygiad yr Athrofa, a thrwy hynny gael dylanwad cadarnhaol ar ein pobl ifanc a’r proffesiwn.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgarwch allanol / masnachol yn ôl y gofyn a, lle bo’n briodol prosiectau wedi’u caffael sy’n ymwneud yn benodol â’r cyfnod cynradd. Bydd yn uchel ei gymhelliant ac yn rhannu uchelgais yr Athrofa i wella bywydau pobl ar draws Cymru gan ddefnyddio grym addysg.
Byddwch yn cefnogi rhaglenni Addysg Athrawon yr Athrofa, gan addysgu darpar fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Er y byddwch yn cynnal ffocws cynradd, bydd hyn yn debygol o gynnwys cynorthwyo gydag amrywiol lwybrau (h.y. uwchradd) a modylau ar draws y gyfres o raglenni Addysg Athrawon a gynigir o fewn PDPA.
Bydd y rôl yn cynnwys gwneud pa gyfraniad bynnag sy’n angenrheidiol i gefnogi gweithredu strategaeth addysg ehangach Llywodraeth Cymru a Chenhadaeth ein Cenedl.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Darlithydd : Cyfrwng Cymraeg, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol
- Dyfarniad Statws Athro Cymwysedig
- Gwybodaeth gynhwysfawr am addysgu’r cwricwlwm cynradd - Tystiolaeth o hanes cadarn a llwyddiannus o gyflwyno a datblygu dysgu ac addysgu
- Profiad o gyfrannu at asesu, cymedroli, a monitro gwaith ac astudio academaidd
- Profiad o ofal bugeiliol a chymorth i ddysgwyr ar gyfer myfyrwyr
- Tystiolaeth o ymgysylltu’n briodol â gofynion sicrhau ansawdd a rheoleiddio
- Sgiliau rhyngbersonol, cyflwyno a chyfathrebu effeithiol
- Sgiliau a phrofiad o arweinyddiaeth ym maes addysg, a phan fo’n briodol, y gallu i reoli a symbylu staff yn effeithiol
- Dealltwriaeth o’r cwricwlwm sydd ar y gweill ar gyfer Cymru a rôl briodol Meysydd Dysgu a Phrofiad
- Gallu i gyfathrebu’n rhugl (ar lafar ac yn ysgrifenedig) drwy gyfrwng y Gymraeg i safon uchel
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Cymhwyster ôlraddedig lefel uwch (gradd Meistr neu uwch) sy’n berthnasol i’r swydd (neu eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster o’r fath).
- Tystiolaeth o weithio o fewn neu wrth ochr cyrff AU a chyrff cysylltiedig
- Portffolio ymchwil cryf
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o God Ansawdd yr ASA, gwybodaeth am / cynefindra ag AGA ac addysg uwch
- BUDDION –
Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol (pro rata)
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Darlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 9 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £37,474 – £43,414
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.
AMDANOM NI
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.
Y RÔL
Prif ffocws y swydd hon fydd cyfrannu at holl weithgarwch iaith Gymraeg y Ganolfan o ran ei phrosiectau iaith a’i chyfrifoldebau addysgu. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rhaglen o waith addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ynghyd â chydlynu prosiectau ymchwil a chreu adnoddau addysgol sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac addysg Gymraeg a dwyieithog.
Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at addysgu’r amrywiol gyrsiau hyn a bydd gofyn iddi/iddo hefyd gynorthwyo yn y broses o lunio adnoddau dysgu perthnasol a ddefnyddir fel rhan o’r broses dysgu ac addysgu. Disgwylir i’r deilydd hefyd gefnogi ei r(h)eolydd llinell drwy fynychu pwyllgorau cenedlaethol perthnasol sy’n ymwneud â rheoli’r rhaglenni iaith.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn meddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da.
AMDANOCH CHI
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, bydd arnoch angen y canlynol:
- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol
- Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau lefel uchel
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg
- Profiad o awduro deunyddiau addysgol, e.e. cyrsiau dysgu iaith neu adnoddau trawsgwricwlaidd
- Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau sicrhau ansawdd
- Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd
- Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau, lliniaru risg yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol
- Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol)
- Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i ar lefel hyfedredd
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Gradd uwch
- Profiad blaenorol o gydlynu, gweithredu a monitro gweithgarwch o fewn cyd-destun AU
- Profiad blaenorol o weithio gydag ysgolion ac asiantaethau allanol
BUDDION
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
- Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 22 Gorffennaf 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.