Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i reoli’r tîm Addysg Bellach a Phrentisiaethau a rheoli’r prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr er mwyn gweithredu’r strategaeth ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli tîm a phrosiectau amrywiol.
Cyflog
💰 £44,737 – £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!