Swyddi Cymraeg
9 swydd yn cyfateb
Cynorthwyydd Personol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Personol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Personol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau (Gwasanaethau Ariannu’r Celfyddydau). Bydd y Cynorthwyydd Personol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gefnogi a chydlynu gweithgaredd aelodau’r tîm a phrosiectau corfforaethol, ond eu prif ffocws fydd darparu cymorth a chefnogaeth weinyddol i’r Cyfarwyddwr. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth, apwyntiadau/rheoli dyddiadur, teithio a threuliau. Bydd hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd.
Amdanoch chi
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus profiad blaenorol a perthnasol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel a chymorth rheng flaen o fewn tîm bach prysur, sy’n hwyluso gweithio hyblyg/mudol. Bydd ganddynt sgiliau TG datblygedig iawn. Mae’r gallu i weithio o’ch menter eich hun ac i flaenoriaethu yn hanfodol, ynghyd a sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i safonau uchel o ran gofal cwsmeriaid.
Yr Iaith Gymraeg
Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau:12:00 canol dydd, dydd Gwener 10 Mawrth 2023
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £25,026 - £27,988
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cynhyrchu Cwmni
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cwmni profiadol i ymuno â’r tîm.
Os oes gennych chi brofiad proffesiynol mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol a’r gallu i arwain tîm ac ysgogi eraill, efallai dyma’r rôl i chi.
Mae swydd y Rheolwr Cynhyrchu Cwmni yn un newydd i’r Adran Gynhyrchu, ac wedi ei chreu er mwyn cefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu gyda chyfrifoldebau gweithredol yr adran ac i sicrhau fod cynyrchiadau’r cwmni o safon cynhyrchu uchel. Bydd y person yn y swydd hon yn arwain ar yr ochr gynhyrchu o’n cynyrchiadau yn ystod cyfnodau ymarfer a chyfnod perfformio, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau eraill y cwmni. Ry’n ni hefyd yn recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd ar hyn o bryd, felly mae’n gyfnod cyffrous i’r Adran Gynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, y cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £35,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cynhyrchu
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Bennaeth Cynhyrchu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Bennaeth Cynhyrchu i ymuno â’r tîm.
Oes gennych chi wybodaeth eang am gynhyrchu, rheoli llwyfan, ac agweddau technegol, yn ogystal â phrofiad o sicrhau safonau iechyd a diogelwch uchel o fewn amgylchedd theatr? Efallai dyma’r swydd i chi.
Mae’r Pennaeth Cynhyrchu yn cefnogi’r gwaith o greu a chyflwyno theatr wych ac yn gyfrifol am oruchwylio llwyfannu llwyddiannus ein cynyrchiadau ar daith, a chefnogi prosiectau eraill y cwmni. Yn ogystal â recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd, ry’n ni hefyd yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni i gynyddu capasiti Adran Gynhyrchu’r cwmni. Bydd cyfle felly i’r Pennaeth Cynhyrchu newydd ffocysu ar faterion mwy strategol. Bydd datblygu sgiliau yn y maes ac adnabod cyfleoedd hyfforddi i ehangu’r gweithlu hefyd yn flaenoriaeth i’r Pennaeth Cynhyrchu, wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r prinder technegwyr a phobl sydd â sgiliau rheoli llwyfan a rheoli cynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd - neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £40,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwyr
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry'n ni'n chwilio am aelodau newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am ddau Ymddiriedolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon a llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau.
Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
Cyllid
Theatr, fel ffurf artistig
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y manylion cyswllt uchod.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru diddordeb ar gael yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cadeirydd
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am Gadeirydd sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i'r cwmni’n gyffredinol wrth i ni geisio cyflawni’r weledigaeth hon.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n gallu llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Mae bod yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Gadeirydd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Gadeirydd, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ar y manylion cyswllt uchod.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’i dîm AD bach ond prysur. Mae’r Swyddog AD yn cefnogi gweithgareddau AD Cyngor y Celfyddydau trwy gynorthwyo’r Pennaeth AD i gyflawni amcanion strategol allweddol. Mae rôl y Swyddog AD yn amrywiol ac yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau AD mewnol ac allanol, cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau AD, arwain ar ymgyrchoedd penodol recriwtio a phenodi, a chynhyrchu data ac adroddiadau ar gyfer ystod o Bwyllgorau mewnol.
Amdanoch chi
Rydych yn gymwys hyd at lefel 5 CIPD neu mae gennych brofiad proffesiynol perthnasol mewn rôl AD o fewn tîm AD prysur, gyda dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau AD. Rydych yn deall deddfwriaeth cyflogaeth, mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae gennych ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chefnogi staff mewn perthynas â materion cyfrinachol a sensitif. Rydych hefyd yn deall yn drylwyr gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi ymrwymo iddynt.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Mercher, 28 Medi 2022
Cyfweliadau: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma rôl newydd fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a gweithredu ein prosesau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o greu theatr Cymraeg eithriadol i bawb. Pwrpas y swydd hon yw rheoli materion gweithredol y cwmni, yn cynnwys adnoddau dynol; rheoli asedau; systemau a chytundebau gweinyddol; systemau TG; a chasglu a dadansoddi data.
Mae’r cwmni’n anelu at fod mor gynhwysol â phosib, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir ac o bob oedran, ac mae lles pobl yn holl bwysig i ni. Rydym felly yn edrych am berson sy’n rhannu’r gwerthoedd yma, yn enwedig gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar faterion adnoddau dynol, yn cynnwys recriwtio a gofalu am les staff.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, sy’n ymfalchïo mewn systemau a phrosesau effeithiol, ac sy’n gallu rheoli eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Os nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad perthnasol ar gyfer y swydd hon eisoes, byddem yn fodlon ystyried darparu hyfforddiant a chyfleoedd i weithio tuag at gymwysterau perthnasol.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Cyflog
💰 £33,036
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
PAS Cymru: Cydlynydd Ymgysylltu
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am PAS Cymru: Cydlynydd Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad ar ffôn, cyfathrebu dros e-bost a darllen dogfennau ffurfiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 28 Gorffennaf 2022 erbyn 5:00yh
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £17,757 - £21,728
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Dysgu Cymraeg
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’ ar gyfer y sector gelfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Amdanoch chi
Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.
Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.