Swyddi Cymraeg — Caerfyrddin
70 swydd yn cyfateb
Uwch-gynorthwyydd TG
Mae Menter a Busnes yn edrych am Uwch-gynorthwyydd TG
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau. Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus. Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:
· reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff Nod y Swydd Bydd yr Uwch-gynorthwyydd TG yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr TG mewnol a darparwyr gwasanaethau allanol i ddarparu'r wasanaeth TG, drwy sicrhau cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, cynnal systemau a datrys problemau i safon uchel, a gweithio ar ddatblygiadau'r Adran TG. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon
· Bod yn ail bwynt cyswllt i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i gyd-weithwyr TG, rhannu gwybodaeth, helpu datrys ymholiadau, ac esgoli ticedi ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant lefel uwch, a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo gwaith parthed â staffio a rheoli mynediad, gan sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn, amserlenni'n cael eu cwrdd a safon uchel yn cael ei gynnal
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am asedion caledwedd, drwy gynnig cyngor a datrysiadau
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am offer swyddfa a chyfleusterau TG, drwy gynnig cyngor a datrysiadau
· Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith cynnal rheolaidd, drwy gynnig atebion, ffyrdd o liflinio prosesau, a sicrhau bod amserlenni addas mewn lle ac yn cael eu cwrdd
· Adnabod gofynion, ymchwilio, caffael ac archebu caledwedd, meddalwedd, a gwasanaethau TG, gan sicrhau manylebau a nodweddion addas, gwariant priodol a gwerth am arian
· Bod yn rhagweithiol i ymchwilio a datrys achosion a phroblemau, gweinyddu systemau a sicrhau parhad gweithrediadau
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal isadeiledd TG y cwmni drwy'r Cylchred Bywyd gyfan (cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, systemau ffôn, fideogynadledda, argraffyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, gweinyddion, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad di-wifr)
· Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal systemau craidd, cwmwl a meddalwedd y cwmni (System e-bost a chynhyrchiant, datrysiad cadw data a chydweithio, system gwrth-feirws a diogelwch, system wrthgefn, system rheoli a monitro o bell, system rheoli diweddariadau, system rheoli dyfeisiau symudol, system rheoli cynnwys, system rheoli cleientiaid, a nifer o ddatrysiadau meddalwedd-fel-gwasanaeth)
· Cyfrannu'n weithredol at waith datblygiadol a phrosiectau TG, arwain ar dasgau a ddyrannwyd, a sicrhau cwblhad o fewn amserlenni
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi
· Gweithio'n agos efo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol, a bod yn rhagweithiol am yr elfennau sydd o fewn eu cyfrifoldebau Arall
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad Cymwysterau / Profiad
Hanfodol
Gradd sylfaen neu HNC, neu gyfwerth, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol
Profiad amlwg o weithio a llwyddo mewn rôl TG gyda chyfrifoldebau technegol
Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd TG, a defnyddio system Desg Gymorth
Profiad amlwg o osod, cynnal a chadw caledwedd, meddalwedd, isadeiledd a systemau TG, a darparu cefnogaeth TG mewn amgylchedd busnes
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol TG
Profiad technegol mewn seilwaith rhwydweithio a TG, gyda’r gallu i fod yn ymarferol yn ôl y gofyn Gwybodaeth / Sgiliau
Hanfodol
Gwybodaeth a sgiliau cryf ar nifer o’r canlynol:
– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android, ChromeOS, Linux, CentOS
– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, ffôn ddesg, fideo-gynadledda, argraffyddion
– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau a Phrosiectau, Amlgyfrwng, Meddalwedd Cyllid (Sage), System rheoli cynnwys (CMS), System rheoli cleientiaid (CRM)
– Isadeiledd: Technoleg cwmwl, gweinyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr, NAS, VPN
– Systemau TG: Swît cynhyrchiant (ee Google Workspace), Datrysiadau cynnwys a chydweithio, Diogelwch a gwrth-feirws, System wrthgefn, System ffôn VoIP, Rheoli a monitro (RMM), Rheoli diweddariadau, Rheoli dyfeisiau symudol (EMM, MDM, MAM)
Diddordeb cryf mewn, a gwybodaeth am, dechnolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu, a sut y gellir eu defnyddio at ddibenion busnes
Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Seiberddiogelwch, Cyber Essentials, GDPR, ac arferion gorau’r diwydiant TG Nodweddion Personol
Hanfodol
Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gyda’r gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio ag ymholiadau gan staff
Gallu ymchwilio a datrys problemau, gan gynnwys rhai mwy cymhleth, drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau datrysiadau
Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â chefnogi eraill fel rhan o dîm
Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
Sgiliau cyflwyno clir, diddorol ac ymgysylltiol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dymunol
Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) Arall
Hanfodol
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Medi. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 15 Awst
Cyflog
💰 £22,864 - £25,520
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gwasanaethau Eiddo
Mae Cymdeithas Tai Bro Myrddin yn edrych am Reolwr Gwasanaethau Eiddo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn credu bod gennych yr arbenigedd, y profiad a'r sgiliau i arwain ac esblygu ein Tîm Gwasanaethau Eiddo sefydledig? Gan weithio yn ein Hadran Gweithrediadau, mae'r Rheolwr Gwasanaethau Eiddo yn chwarae rhan allweddol yn nhîm arwain y Gymdeithas. Byddwch yn chwarae rhan weithredol wrth hyrwyddo ein diwylliant a'n hymddygiad, a bydd gennych angerdd dros rymuso a chefnogi cydweithwyr a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Gymdeithas a phartneriaid allanol allweddol.
Am bwy rydyn ni'n chwilio?
Rydym yn chwilio am Reolwr Gwasanaethau Eiddo i ymuno â'n tîm. Yn atebol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau bydd angen i chi gael:
• sgiliau trefnu cryf a llygad am fanylion;
• profiad o gynllunio a rheoli gwaith cynnal a chadw;
• gwybodaeth gadarn am waith datblygu / prosiectau adeiladu newydd;
• profiad o reoli staff sy'n mabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar oedolion;
• sgiliau TG rhagorol;
• sgiliau dadansoddol, gyda sgiliau datrys problemau cryf;
• sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
• sgiliau pobl, prosiect a rheoli amser rhagorol;
• y gallu i weithio ar y cyd ac ar eich menter eich hun. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fod wedi'i addysgu hyd at lefel gradd mewn pwnc sy'n ymwneud ag adeiladu, bod â chymwysterau rhannol RICS, CIOB, RIBA neu gyfwerth (gydag ymrwymiad i ddod yn aelod siartredig llawn) a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol.
Beth allwn ni ei gynnig?
Fel Cymdeithas Tai wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o safon a gwasanaethau cysylltiedig â thai i tua 2,000 o drigolion yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau, rydym yno i’n pobl drwy gael tîm o dros 40 o gydweithwyr sy’n Gofalu, Gwrando a Darparu ar eu cyfer.
Rydym nid yn unig yn cynnig Cyflog Cystadleuol ond 30 diwrnod o Wyliau Blynyddol (ac eithrio gwyliau banc), Gwobrau Costau Byw Blynyddol, Cynllun Iechyd Corfforaethol, Cynlluniau Pensiwn a llawer mwy.
Cyflog
💰 Oddeutu £44k
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.
AMDANOM NI
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.
Y RÔL
Prif ffocws y swydd hon fydd cyfrannu at holl weithgarwch iaith Gymraeg y Ganolfan o ran ei phrosiectau iaith a’i chyfrifoldebau addysgu. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rhaglen o waith addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ynghyd â chydlynu prosiectau ymchwil a chreu adnoddau addysgol sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac addysg Gymraeg a dwyieithog.
Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at addysgu’r amrywiol gyrsiau hyn a bydd gofyn iddi/iddo hefyd gynorthwyo yn y broses o lunio adnoddau dysgu perthnasol a ddefnyddir fel rhan o’r broses dysgu ac addysgu. Disgwylir i’r deilydd hefyd gefnogi ei r(h)eolydd llinell drwy fynychu pwyllgorau cenedlaethol perthnasol sy’n ymwneud â rheoli’r rhaglenni iaith.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn meddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da.
AMDANOCH CHI
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, bydd arnoch angen y canlynol:
- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol
- Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau lefel uchel
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg
- Profiad o awduro deunyddiau addysgol, e.e. cyrsiau dysgu iaith neu adnoddau trawsgwricwlaidd
- Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau sicrhau ansawdd
- Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd
- Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau, lliniaru risg yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol
- Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol)
- Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i ar lefel hyfedredd
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Gradd uwch
- Profiad blaenorol o gydlynu, gweithredu a monitro gweithgarwch o fewn cyd-destun AU
- Profiad blaenorol o weithio gydag ysgolion ac asiantaethau allanol
BUDDION
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
- Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 22 Gorffennaf 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
PAS Cymru: Cydlynydd Ymgysylltu
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am PAS Cymru: Cydlynydd Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad ar ffôn, cyfathrebu dros e-bost a darllen dogfennau ffurfiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 28 Gorffennaf 2022 erbyn 5:00yh
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £17,757 - £21,728
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna'r Coleg benodi Rheolwr Cyllid, sef rôl newydd a chyffrous i reolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i sicrhau bod yna arweiniad clir a rheolaeth arbenigol wrth ymwneud â holl brosesau cyllid y Coleg. Derbynia’r Coleg Cymraeg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sydd wedi bod yn gwaith ym maes cyllid i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiad helaeth i arwain a grymuso ein gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Byddwch chi’n arwain ac yn llywio holl brosesau cyllid y Coleg ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr y Coleg ar holl faterion cyllid, archwilwyr allanol a’r weithdrefn gaffael.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yna gofodau swyddfa briodol ar gyfer staff y Coleg ar draws 4 lleoliad ac yn gyfrifol am reoli tîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Coleg ac yn rheolwr llinell i’r Uwch Swyddog Cyllid. Yn rhan o dîm o reolwyr uchelgeisiol, blaengar a chydweithredol byddwch yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyngor arbenigol ar holl faterion ariannol y Coleg i’r cyfnod nesaf a thu hwnt.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau Dynol
Mae S4C yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.
Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â [email protected] sef Pennaeth Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.
Cyflog: £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i [email protected] neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £30,000 - £38,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Dysgu Cymraeg
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’ ar gyfer y sector gelfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Amdanoch chi
Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.
Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyswllt Cymunedol
Mae Senedd Cymru yn edrych am Swyddog Cyswllt Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Darparu cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol, a chymorth gyda chyhoeddusrwydd, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn cael gwahoddiadau rheolaidd i gyfarfod a sgwrsio ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau
2. Hyrwyddo gwaith yr aelod a rhoi gwybodaeth i etholwyr a'r rheini sydd â diddordeb.
3. Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd
4. Trefnu cymorthfeydd a chynnig cymorth ar y diwrnod
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
• Profiad o weithio mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur
• Gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt
• Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad iddynt
Cymwysterau hanfodol
• Gradd neu cymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
• Dystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.
Ystod Cyflog: £23,440 - £34,357 pro rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog. Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos, gellir ystyried oriau gwaith rhan-amser.
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Rhanbarthol - Caerfyrddin
Cyflog
💰 £23,440 - £34,357 pro rata
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym ni’n cynnig addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf a chefnogaeth ragorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
Ymhellach, cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Lyfrgellydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ymuno â champws Caerfyrddin ar sail lawn amser, barhaol yn gweithio 22 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol sy’n cynnwys nifer o llwyfannau ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron).
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys:
y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol
y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn
cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol
adnoddau'r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio
Disgwylir i’r swyddog gyfrannu at, ysgrifennu a/neu olygu copi ar gyfer adroddiadau, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
** - AMDANOCH CHI - **
I gael eich ystyried fel Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol i gyflawni ymgyrchoedd yn effeithiol
Sgiliau cynllunio a threfnu gan ymdopi â sawl math o waith ar yr un pryd
Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
Y gallu i adnabod y gynulleidfa darged, ei hanghenion a’i disgwyliadau;
Profiad o gynhyrchu a chreu cynnwys addas ar ffurf lluniau a fideos.
Y gallu i gydweithio ac ymgynghori gyda chydweithwyr a phartneriaid
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
**- BUDDION – **
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio fel y cynllun seiclo i’r gwaith
Cyflog
💰 £27,116 - £30,497
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Lluniau Llonydd
Mae S4C yn edrych am Swyddog Lluniau Llonydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n deall gwerth a phwysigrwydd lluniau llonydd i ymuno â'r Adran Ddigidol a Marchnata. Gyda'r gallu i adnabod beth sy'n gwneud llun da a sgiliau trefnu rhagorol, byddwch fel aelod o'r tîm Brand a Chreadigol yn gyfrifol am drin a dethol lluniau cryf i hyrwyddo cynnwys S4C i'r gwylwyr.
Prif ffocws y rôl bydd trefnu, golygu, catalogio a dosbarthu lluniau llonydd, gan sicrhau delweddau hyrwyddo cryf ac addas i'n cynnwys ar draws llwyfannau, a chefnogi gweledigaeth greadigol brand S4C. Mae'r rôl yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o fewn S4C yn ogystal ag asiantaethau â chwmnïau cynhyrchu allanol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].
Cyflog: £21,000 - £24,000 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis
Oriau Gwaith: 35.75
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal â gwyliau'r banc.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Mercher 25 Mai 2022 i [email protected] neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Cyflog
💰 £21,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Digidol
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwylio gwasanaeth Newyddion S4C ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, drwy aml blatfformau.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad o weithio ym maes cyhoeddi digidol gyda dealltwriaeth o ofynion cyhoeddi ar aml blatfform. Byddwch gennych y gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn hyderus yn gweithio gyda fideo, lluniau llonydd, graffeg thestun, ac yn deall beth sy’n gwneud stori ddigidol dda. Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected].
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 yn y prynhawn ar ddydd Mawrth 24 Mai 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Data
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Data
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus a brwdfrydig sydd â phrofiad o ddadansoddi data a chynnig mewnwelediadau ac argymhellion ar sail y data. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cynnig dadansoddiad manwl o’r holl ddata perthnasol i weithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (e.e. LLWR, HESA), ac yn cynnig mewnwelediadau ac argymhellion ar sail y data yma.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn adnabod cyfleoedd i ddadansoddi data gweithredol y Coleg er mwyn sicrhau llif cyson o wybodaeth am effaith gweithgareddau’r Coleg.
Cyflog
💰 £27,116 - £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus sydd â phrofiad o weithio ym maes adnoddau dynol a sydd â wybodaeth sylweddol am arferion gorau, polisïau a gweithgareddau yn y maes.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn sicrhau fod ein polisïau a’n gweithdrefnau yn cefnogi’r dull newydd o weithio yn dilyn y pandemig. Os wyt ti am fod yn rhan o'r tîm blaengar hwn ac os oes gennyt ti brofiad o adnabod a diwallu anghenion hyfforddi a datblygu staff a phrosesau recriwtio – yna ymgeisia am y swydd hon!
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn rhan o ddatblygiadau’r Coleg i ddatblygu pobl gan gynnig syniadau a chydlynu gweithgareddau perthnasol ac uchelgeisiol i sicrhau bod y staff a’r sefydliad yn perfformio ar ei orau.
Cyflog
💰 £27,116 - £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus a thrwyadl sydd yn meddu ar gymhwyster proffesiynol i arwain gwaith y Coleg o ran gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Derbynia’r Coleg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Yn dilyn cynnydd yng nghyllideb ac amrediad gweithgareddau’r Coleg, mae'r Coleg am benodi Rheolwr Cyllidi arwain, rheoli a chydlynu holl brosesau cyllid y Coleg. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn arwain, goruchwylio a chydlynu holl waith archwilio allanol y Coleg ac yn gyfrifol am y weithdrefn caffael.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
£101,830 + pensiwn rhagorol. Gall y Prif Weithredwr fod yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau’r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.
Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Bydd disgwyl i'r Prif Weithredwr dreulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Y Prif Weithredwr yw'r uwch aelod o staff Cyngor Celfyddydau. Maent yn arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) o bum person, gyda'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llywio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol Cyngor Celfyddydau ac arwain y gwaith o gyflawni polisïau. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau a phobl Cyngor Celfyddydau yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.
Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:
* Cynyddu cydraddoldeb mynediad i’r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector * Ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor * Arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydau newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024 * Datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith yn y cwrs arferol o gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i’w defnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Gwener 13 Mai 2022
Dyddiadau cyfweliadau: Dydd Mawrth 5 neu ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £101,830
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfryngau
Mae Cyngor Sir Gâr yn edrych am Reolwr Cyfryngau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r swydd hon wedi'i chyfyngu'n wleidyddol (Cyfyngiad Gwleidyddol)
Oes gennych chi lygad am stori dda? Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am Reolwr y Cyfryngau i helpu i sicrhau sylw gwych ar draws gwaith argraffu, darlledu a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chefnogi newyddiadurwyr i greu newyddion teg a chytbwys. Trwy ymuno â'r tîm cyfathrebu corfforaethol, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws pob adran i reoli cyhoeddusrwydd rhagweithiol ac adweithiol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o weithgarwch a blaenoriaethau'r cyngor a chyfathrebu ag ystod eang o bobl.
Mae'r cyngor yn chwilio am rywun sydd â sgiliau ysgrifennu a chreadigol rhagorol, sy'n gallu dweud stori mewn ffordd glir a diddorol, sy'n gallu rheoli sefyllfaoedd sensitif yn hyderus ac yn bwyllog, ac sy'n gallu meithrin perthynas wych â'r cyfryngau. Fel rhan o drefniant gweithio hybrid, bydd y rôl yn gyfuniad o weithio yn y swyddfa ac o bell.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Deina Hockenhull [email protected] 07748 031588
Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg.Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Cyflog
💰 £32,798 - £36,371
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr Digidol
Mae S4C yn edrych am Newyddiadurwr Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a'r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant. Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Gyda sgiliau ieithyddol da byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag [email protected]
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 yn y prynhawn ar ddydd Gwener 6 Mai 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chefnogi
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata a Chefnogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.