Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Cyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth yn agored i gytuno trefniadau gweithio hybrid.
CYFREITHIWR (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ) - Mae’r Cyngor wedi gosod ychwanegiad y farchnad ar y swydd hon, sydd yn golygu mai’r uchafswm cyflog ydi £45,496.
Mae’r Cyngor edrych i gyflogi Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr i ymuno a’r tim mewn swydd sydd yn cynghori a gweithredu ar ran y Cyngor ar faterion gofal cymdeithasol oedolion ac addysg. Mae’r gwaith yn cynnwys:
Materion darparu a comisiynu gofal, iechyd meddwl, anabledd, achosion amddifadu o ryddid a chartrefi cofrestredig.
Materion addysg ,cyfrifoldebau athrawon ac ysgolion, gwaharddiadau, anghenion addysg ychwanegol , dyletswyddau llywodraethwyr.
Mae’r Cyngor am gyflogi unigolyn sydd yn gallu dangos agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at y meysydd gwaith ynghyd a’r gallu i weithio fel aelod effeithiol o dîm cyfreithiol yn darparu ystod o wasanaethau i’r Cyngor a’i gleientiaid.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Iwan G D Evans ar 01286 679015
Rhagwelir cynnal cyfweliadau dydd Iau, 23/02/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/02/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £45,496
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cyfreithiol, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt.
Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn, fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn magu profiad gyda’r golwg ar ddatblygu i ddod yn gyfreithiwr llywodraeth leol ac yn y dyfodol un o reolwyr ac arweinwyr yn y maes yma. Bydd hyn digwydd o fewn tim sydd yn annog dysgu a datblygu mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r gwasanaeth Cyfreithiol o fewn y Cyngor. Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Gwynedd wedi ei chymhwyso i hyfforddi darpar gyfreithwyr, a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cael profiad o weithredu mewn amrywiaeth eang o feysydd gwaith arbenigol. Bydd cyfle hefyd i gael profiad o gynghori ar faterion corfforaethol megis cyfundrefnau llywodraethu a phriodoldeb y Cyngor. Drwy gydol y cyfnod bydd yr hyfforddai yn datblygu sgiliau craidd megis drafftio dogfennau a chytundebau, darparu cyngor cyfreithiol, trefniadau amryw lysoedd a thribiwnlysoedd ac adfocatiaeth.
Bydd yr hyfforddai yn ymuno a Chymdeithas y Gyfraith ac o dan reolaeth yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae cefnogi cytundeb hyfforddiant yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ac rydym yn chwilio felly am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith.
NODER - Byddwch angen fod wedi cwblhau yn llwyddiannus Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (Legal Practice Course - LPC) er mwyn ymgeisio.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.