Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn trefnus, gweithgar ac arloesol i weithredu fel aelod o’r tîm marchnata sydd yn gweithredu strategaeth farchnata’r Coleg gan ganolbwyntio ar arwain a datblygu cynlluniau llysgenhadon dysgwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg.
Mae’r cynlluniau llysgenhadon yn allweddol i waith marchnata’r Coleg ac mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn rhagweithiol i gymryd perchnogaeth tra’n cyd weithio gydag eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn. Byddwch hefyd yn gweithredu fel aelod o’r tîm marchnata er mwyn cyflawni’r gwaith marchnata a hyrwyddo gwahanol elfennau o strategaeth farchnata’r Coleg gan gynnwys cynnal ymweliadau ysgolion a cholegau addysg bellach yn gyson yn ardal y Gogledd a’r Canolbarth.
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Marchnata
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n dda efo geiriau, yn hyderus efo’ch hiwmor ac yn angerddol am ardal Caernarfon a gogledd orllewin Cymru?
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Marchnata i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni.
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am berson deinamig i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni. Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Creu a gweithredu strategaeth farchnata ar gyfer Galeri a Cei Llechi
• Creu a dogfennu ymgyrchoedd marchnata a chydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd apersonnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd a hyrwyddiadau marchnata digidol
• Cydlynu cyllideb marchnata’r cwmni
• Cysylltu â chwmnïau sy'n ymweld â'r ganolfan / dosbarthwyr ffilm / artistiaid parthed eu gofynion nhw o ran cyhoeddusrwydd a marchnata
• Gweithredu systemau cyfathrebu mewnol effeithiol gyda chyd-weithwyr, y bwrdd a chwmniau preswyl
• Arwain ar y gwaith o weithdredu systemau cyfathrebu allanol gyda chwsmeriaid
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddil y Tîm Creadigol ar brosiectau creadigol a masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd cyfredol a newydd, a thargedu cynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau penodol
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol wrth ysgrifennu copi dwyieithog, golygu a phrwffio ar gyfer amryw o blatfformau, yn cynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol Galeri a Cei Llechi, datganiadau i’r wasg a phecynnau gwybodaeth
• Cydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i gynhyrchu deunydd print a chyhoeddusrwydd
• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen Creu, monitro ac ymateb i adroddiadau ariannwyr gan gydweithio efo’r Cyfarwyddwr Creadigol, y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus
• Ysgrifennu ceisiadau am wobrau
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio adroddiadau, creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau ac ymgyrchoedd
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.
Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.
Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.
Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.
Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.
Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr. Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar.
Gofynion yr unigolyn
Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.
Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Oriau Gwaith
14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith.
Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
**Rhaglen waith **
Cyd-destun
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol
Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Cynllun marchnata
Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
· rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.
· datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom.
· datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau.
· llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol.
· darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.
· argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.
Creu asedau a thempledau digidol
Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd.
Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.