Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Rheoli Digwyddiadau, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes Rheoli Digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Rheoli Digwyddiadau, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y disgyblaeth pwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i arbenigwr yn y maes rheolaeth digwyddiadau i ymuno â'r gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau.
Fel rhan o'r swydd byddwch -
Yn ennill profiad o weithio’n draws-adrannol a thraws-asiantaeth fel prif bwynt cyswllt digwyddiadau Gwynedd gan lywio trefnwyr digwyddiadau trwy brosesau swyddogol y Cyngor, ein cymunedau a’n partneriaid.
Yn datblygu cysylltiadau agos a chydweithio gyda busnesau, cymunedau, trefnwyr digwyddiadau a mudiadau o'r sector wirfoddol a chyhoeddus er datblygu'r cyfleoedd adfywio a datblygu economi'r sir yn deillio o gynnal digwyddiadau.
Marchnata hyrwyddo a gwerthu Gwynedd trwy'r digwyddiadau creadigol gan sicrhau delwedd ifanc, egnïol a chyffrous i'r ardal fyddai'n cydweddu ag amcanion y Cyngor.
Yn cael y cyfle i gwblhau cymhwyster MA Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Mae datblygu a chefnogi Digwyddiadau yn flaenoriaeth strategol gan y Cyngor. Mae’n faes sydd gyda proffil uchel ac sydd yn dod a buddion economaidd sylweddol i Wynedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.