Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Marchnata: Llysgenhadon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn trefnus, gweithgar ac arloesol i weithredu fel aelod o’r tîm marchnata sydd yn gweithredu strategaeth farchnata’r Coleg gan ganolbwyntio ar arwain a datblygu cynlluniau llysgenhadon dysgwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg.
Mae’r cynlluniau llysgenhadon yn allweddol i waith marchnata’r Coleg ac mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn rhagweithiol i gymryd perchnogaeth tra’n cyd weithio gydag eraill i ddatblygu’r cynlluniau hyn.
Byddwch hefyd yn gweithredu fel aelod o’r tîm marchnata er mwyn cyflawni’r gwaith marchnata a hyrwyddo gwahanol elfennau o strategaeth farchnata’r Coleg gan gynnwys cynnal ymweliadau ysgolion a cholegau addysg bellach yn gyson yn ardal y Gogledd a’r Canolbarth.
Cyflog
💰 £27,929 - £34,308
Lleoliad
📍 Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!